Welsh

聖經新譯本

1 Corinthians

1

1 Paul, apostol Crist Iesu trwy alwad a thrwy ewyllys Duw, a'r brawd Sosthenes,
1問安奉 神旨意蒙召作基督耶穌使徒的保羅,和蘇提尼弟兄,
2 at eglwys Dduw sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, ac sydd trwy alwad Duw yn saint, ynghyd � phawb ym mhob man sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, eu Harglwydd hwy a ninnau.
2寫信給在哥林多 神的教會,就是在基督耶穌裡已經被分別為聖,蒙召為聖徒的人,和所有在各地呼求我們主耶穌基督的名的人。基督是他們的主,也是我們的主。
3 Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
3願恩惠平安從我們的父 神和主耶穌基督臨到你們。
4 Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser amdanoch chwi, ar gyfrif y gras dwyfol a roddwyd ichwi yng Nghrist Iesu,
4為信徒感謝 神我因著 神在基督耶穌裡賜給你們的恩典,常常為你們感謝我的 神,
5 am eich cyfoethogi ynddo ef ym mhob peth, ym mhob ymadrodd a phob gwybodaeth,
5因為你們在他裡面凡事都富足,很有口才,知識豐富,
6 fel bod y dystiolaeth am Grist wedi ei chadarnhau yn eich plith.
6就如我們為基督所作的見證在你們中間得到堅立一樣,
7 Oherwydd hyn, nid ydych yn ddiffygiol mewn unrhyw ddawn, wrth ichwi ddisgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist.
7以致你們在恩賜上一無所缺,殷切盼望著我們主耶穌基督的顯現;
8 Bydd ef yn eich cadw'n gadarn hyd y diwedd, fel na bydd cyhuddiad yn eich erbyn yn Nydd ein Harglwydd Iesu Grist.
8他也必堅定你們到底,使你們在我們主耶穌基督的日子無可指摘。
9 Y mae Duw'n ffyddlon, a thrwyddo ef y'ch galwyd chwi i gymdeithas ei Fab ef, Iesu Grist ein Harglwydd ni.
9 神是信實的,他呼召了你們,是要你們與他的兒子我們主耶穌基督連合在一起。
10 Yr wyf yn deisyf arnoch, gyfeillion, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, ar i chwi oll fod yn gyt�n; na foed ymraniadau yn eich plith, ond byddwch wedi eich cyfannu yn yr un meddwl a'r un farn.
10基督是分開的嗎?弟兄們,我憑著我們主耶穌基督的名,勸你們大家要同心,在你們中間不要分黨,只要在同一的心思、同一的意念上團結起來。
11 Oherwydd hysbyswyd fi amdanoch, fy nghyfeillion, gan rai o du375? Chl�e, fod cynhennau yn eich plith.
11我的弟兄們,革來氏家裡的人向我提到你們,說你們中間有紛爭。
12 Yr hyn a olygaf yw fod pob un ohonoch yn dweud, "Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul", neu, "Minnau, i blaid Apolos", neu, "Minnau, i blaid Ceffas", neu, "Minnau, i blaid Crist".
12我的意思就是,你們各人說,我是保羅派的,我是亞波羅派的,我是磯法派的,我是基督派的。
13 A aeth Crist yn gyfran plaid? Ai Paul a groeshoeliwyd drosoch chwi? Neu, a fedyddiwyd chwi i enw Paul?
13基督是分開的嗎?保羅為你們釘了十字架嗎?你們受洗是歸入保羅的名下嗎?
14 Yr wyf yn diolch i Dduw na fedyddiais i neb ohonoch ond Crispus a Gaius;
14我感謝 神,除了基利司布和該猶以外,我沒有給你們任何人施過洗,
15 peidied neb � dweud i chwi gael eich bedyddio i'm henw i.
15所以你們沒有人可以說是受洗歸入我名下的。
16 O do, mi fedyddiais deulu Steffanas hefyd. Heblaw hynny, ni wn a fedyddiais i neb arall.
16我也給司提反一家的人施過洗;此外,有沒有給別人施過洗,我就不記得了。
17 Nid i fedyddio yr anfonodd Crist fi, ond i bregethu'r Efengyl, a hynny nid � doethineb geiriau, rhag i groes Crist golli ei grym.
17基督差遣我,不是要我去施洗,而是去傳福音;不是靠著智慧的言論去傳,免得基督的十字架失去了效力。
18 Oblegid y gair am y groes, ffolineb yw i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth, ond i ni sydd ar lwybr iachawdwriaeth, gallu Duw ydyw.
18基督是 神的能力和智慧因為十字架的道理,對走向滅亡的人來說是愚笨的,但對我們這些得救的人,卻是 神的大能。
19 Y mae'n ysgrifenedig: "Dinistriaf ddoethineb y doethion, A dileaf ddeall y deallus."
19因為經上記著說:“我要滅絕智慧人的智慧,廢棄聰明人的聰明。”
20 Pa le y mae'r un doeth? Pa le y mae'r un dysgedig? Pa le y mae ymresymydd yr oes bresennol? Oni wnaeth Duw ddoethineb y byd yn ffolineb?
20智慧人在哪裡?經學家在哪裡?今世的辯士在哪裡? 神不是使屬世的智慧變成了愚笨嗎?
21 Oherwydd gan fod y byd, yn noethineb Duw, wedi methu adnabod Duw trwy ei ddoethineb ei hun, gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb yr hyn yr ydym ni yn ei bregethu achub y rhai sydd yn credu.
21因為在 神的智慧裡,世人憑自己的智慧,既然不能認識 神, 神就樂意藉著所傳的愚笨的道理,去拯救那些信的人。
22 Y mae'r Iddewon yn gofyn am arwyddion, a'r Groegiaid hwythau yn chwilio am ddoethineb.
22猶太人要求神蹟,希臘人尋找智慧,
23 Eithr nyni, pregethu yr ydym Grist wedi ei groeshoelio, yn dramgwydd i'r Iddewon ac yn ffolineb i'r Cenhedloedd;
23我們卻傳揚釘十字架的基督;在猶太人看來是絆腳石,在外族人看來是愚笨的,
24 ond i'r rhai a alwyd, yn Iddewon a Groegiaid, y mae'n Grist, gallu Duw a doethineb Duw.
24但對那些蒙召的人,不論是猶太人或希臘人,基督是 神的能力, 神的智慧。
25 Oherwydd y mae ffolineb Duw yn ddoethach na doethineb ddynol, a gwendid Duw yn gryfach na chryfder dynol.
25因為 神的愚笨總比人智慧, 神的軟弱總比人剛強。
26 Ystyriwch sut rai ydych chwi a alwyd, gyfeillion: nid oes rhyw lawer ohonoch yn ddoeth yn �l safon y byd, nid oes rhyw lawer yn meddu awdurdod, nid oes rhyw lawer o dras uchel.
26弟兄們,你們想想,你們這些蒙召的,按人來看有智慧的不多,有權勢的不多,出身尊貴的也不多。
27 Ond pethau ff�l y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio'r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio'r pethau cedyrn,
27但是 神卻揀選了世上愚笨的,使那些有智慧的羞愧。他也揀選了世上軟弱的,使那些剛強的羞愧。
28 a phethau distadl y byd, a phethau dirmygedig, a ddewisodd Duw, y pethau nid ydynt, i ddiddymu'r pethau sydd.
28他也揀選了世上卑賤的和被人輕視的,以及算不得甚麼的,為了要廢棄那些自以為是的,
29 Ac felly, ni all neb ymffrostio gerbron Duw.
29使所有的人在 神面前都不能自誇。
30 Ond trwy ei weithred ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw, yn gyfiawnder a sancteiddhad a phrynedigaeth.
30你們因著 神得以在基督耶穌裡,他使基督成了我們的智慧;就是公義、聖潔和救贖,
31 Felly, fel y mae'n ysgrifenedig, "Y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd."
31正如經上所說的:“誇口的應當靠著主誇口。”