Welsh

聖經新譯本

1 Samuel

27

1 Meddyliodd Dafydd, "Rhyw ddiwrnod fe'm difethir trwy law Saul; y peth gorau i mi fydd dianc draw i wlad Philistia, fel na fydd gan Saul obaith dod o hyd imi yn unman o fewn cyrrau Israel; a byddaf yn ddiogel o'i gyrraedd."
1大衛投奔非利士之迦特王大衛心裡說:“總有一天,我會死在掃羅的手裡,我倒不如逃奔到非利士人的國土,掃羅對我就會死心,不再在以色列全境尋索我,我就可以逃脫他的手了。”
2 Felly cychwynnodd Dafydd, a'r chwe chant o ddynion oedd gydag ef, a mynd at Achis fab Maoch, brenin Gath.
2於是大衛起來,和跟隨他的六百人都越過邊界,到迦特王瑪俄的兒子亞吉那裡去。
3 Arhosodd Dafydd gydag Achis yn Gath, ef a'i ddynion a'u teuluoedd; a chyda Dafydd yr oedd ei ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal o Garmel.
3大衛和跟隨他的人,以及他們各人的家眷,都與亞吉一同住在迦特。大衛的兩個妻子,就是耶斯列人亞希暖和作過拿八妻子的迦密人亞比該也都住在那裡。
4 Pan ddywedwyd wrth Saul fod Dafydd wedi ffoi i Gath, rhoddodd yntau'r gorau i chwilio amdano.
4有人告訴掃羅,大衛已經逃到迦特去了,掃羅就不再尋索他了。
5 Dywedodd Dafydd wrth Achis, "Os gweli'n dda, gad imi gael lle i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad. Pam y dylai dy was fyw yn y brifddinas gyda thi?"
5大衛對亞吉說:“我若是在你眼前蒙恩,求你在這地的城市中,給我一個地方,讓我住在那裡。為甚麼要你的僕人與你一同住在王城呢?”
6 Yr adeg honno rhoddodd Achis iddo Siclag, a dyna pam y mae Siclag yn perthyn i frenhinoedd Jwda hyd heddiw.
6那天,亞吉就把洗革拉賜給大衛,因此,洗革拉直到今日還是屬猶大王的。
7 Am gyfnod o flwyddyn a phedwar mis y bu Dafydd yn byw yng nghefn gwlad Philistia.
7大衛在非利士人的鄉鎮居住的日子,共有一年零四個月。
8 Byddai Dafydd a'i filwyr yn mynd allan ac yn ymosod ar y Gesuriaid a'r Gersiaid a'r Amaleciaid (oherwydd hwy oedd yn preswylio'r wlad o Telam, ar y ffordd i Sur, hyd at yr Aifft).
8征服鄰近外族大衛和跟隨他的人上去襲擊基述人、基色人和亞瑪力人,這些人自古以來就是這地的居民,居於書珥到埃及地之間。
9 Pan fyddai'n taro ardal, ni adawai'n fyw na dyn na dynes; a byddai'n cymryd defaid, gwartheg, asynnod, camelod a gwisgoedd, ac yna'n dychwelyd at Achis.
9大衛攻打那地,無論男女,都不讓一人存活,又擄走了牛、羊、驢子、駱駝和衣服,然後回來,到亞吉那裡去。
10 Pan fyddai Achis yn gofyn, "I ble'r oedd eich cyrch heddiw?" byddai Dafydd yn ateb, "O, yn erbyn Negef Jwda"; neu, "Yn erbyn Negef y Jerahmeeliaid"; neu, "Yn erbyn Negef y Ceneaid".
10亞吉問:“你們今天襲擊了甚麼地方呢?”大衛回答:“我們襲擊了猶大的南方,耶拉蔑的南部,和基尼的南方。”
11 Nid oedd Dafydd yn gadael yr un dyn na dynes yn fyw i gario newyddion i Gath, rhag iddynt adrodd yr hanes a dweud, "Fel hyn y gwnaeth Dafydd, a dyma'i arfer tra bu'n byw yng nghefn gwlad Philistia."
11無論男女,大衛都不讓一人活著帶到迦特來,他說:“恐怕他們把我們的事告訴別人,說:‘大衛作了這樣的事,他住在非利士人鄉鎮的日子,常常這樣作。’”
12 Yr oedd Achis yn credu Dafydd ac yn meddwl, "Yn sicr y mae wedi ei ffieiddio gan ei bobl Israel, a bydd yn was i mi am byth."
12亞吉相信了大衛,心裡說:“他在自己的族人以色列中留下了臭名,他必永遠作我的僕人了。”