Welsh

聖經新譯本

2 Chronicles

28

1 Ugain oed oedd Ahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Ni wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel y gwnaeth ei dad Dafydd,
1亞哈斯作猶大王(王下16:1~4)亞哈斯登基的時候,是二十歲;他在耶路撒冷作王十六年。他不像他的祖先大衛一樣,行耶和華看為正的事,
2 ond dilynodd esiampl brenhinoedd Israel. Gwnaeth ddelwau i'r Baalim,
2他卻隨從以色列諸王的道路,又為巴力鑄造偶像;
3 arogldarthodd yn nyffryn Ben-hinnom, ac fe barodd i'w feibion fynd trwy d�n yn �l arfer ffiaidd y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
3並且在欣嫩子谷燒香,用火焚燒自己的兒女,像耶和華在以色列人面前驅走的外族人所行可厭惡的事一樣;
4 Yr oedd yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd, ar y bryniau a than bob pren gwyrddlas.
4又在邱壇上、山岡上和各青翠樹下,獻祭燒香。
5 Am hynny rhoddodd yr ARGLWYDD ei Dduw ef yn llaw brenin Syria; gorchfygodd yntau ef a chaethgludo llawer iawn o'i bobl a mynd � hwy i Ddamascus. Rhoddwyd ef hefyd yn llaw brenin Israel, a gorchfygwyd ef ganddo mewn lladdfa fawr.
5亞哈斯被亞蘭王所敗(王下16:5)因此,耶和華他的 神把他交在亞蘭王手裡;亞蘭王擊敗了他,擄走了他很多人民,帶到大馬士革去。 神又把他交在以色列王手裡,以色列王就在猶大進行大屠殺。
6 Yn wir, lladdodd Pecach fab Remaleia chwe ugain mil o wu375?r grymus yn Jwda mewn un diwrnod, am iddynt gefnu ar ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.
6利瑪利的兒子比加在猶大一天之內殺了十二萬人,全是勇士,因為他們離棄了耶和華他們列祖的 神。
7 Lladdwyd Maaseia mab y brenin, Asricam llywodraethwr y palas, ac Elcana y nesaf at y brenin, gan Sichri, un o wroniaid Effraim.
7有一個以法蓮的勇士,名叫細基利,殺了王的兒子瑪西雅、王宮的總管押斯利甘和王的宰相以利加拿。
8 Caethgludodd yr Israeliaid ddau gan mil o'u pobl, yn wragedd, meibion a merched, a chymryd llawer iawn o ysbail oddi arnynt a'i gludo i Samaria.
8以色列人俘擄猶大人以色列人從他們的兄弟中擄走婦孺共二十萬人;又從他們中間奪取了很多戰利品,帶回撒瑪利亞去。
9 Ond yr oedd yno broffwyd yr ARGLWYDD o'r enw Oded; aeth ef allan i gyfarfod �'r fyddin oedd yn dychwelyd i Samaria, a dweud wrthynt, "Gwrandewch! Am fod ARGLWYDD Dduw eich tadau yn ddig wrth Jwda y rhoddodd hwy yn eich llaw; ond yr ydych chwi wedi eu lladd mewn cynddaredd sy'n ymestyn hyd y nefoedd.
9那裡有一位耶和華的先知名叫俄德,出來迎接回到撒瑪利亞來的軍隊,對他們說:“耶和華你們列祖的 神因為惱怒猶大人,才把他們交在你們手裡,你們卻怒氣沖天,殺戮了他們。
10 Eich bwriad yn awr yw gorfodi pobl Jwda a Jerwsalem i fod yn weision a morynion i chwi. Onid ydych chwithau hefyd yn troseddu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw?
10現在你們又想強迫猶大人和耶路撒冷人作你們的奴婢。難道你們自己就沒有得罪耶和華你們的 神嗎?
11 Yn awr gwrandewch arnaf fi. Anfonwch adref eich brodyr a gaethgludwyd gennych, oherwydd y mae llid tanbaid yr ARGLWYDD yn eich erbyn."
11你們現在要聽我的話,把你們擄回來的兄弟釋放回去,因為耶和華的震怒已經臨到你們身上了。”
12 Yna daeth rhai o benaethiaid pobl Effraim allan, sef Asareia fab Johanan, Berecheia fab Mesilemoth, Jehisceia fab Salum ac Amasa fab Hadlai, a gwrthwynebu y rhai oedd yn dod o'r frwydr.
12於是以法蓮人的幾個首領,就是約哈難的兒子亞撒利雅、米實利末的兒子比利家、沙龍的兒子耶希西家和哈得萊的兒子亞瑪撒,起來阻擋從戰場回來的軍隊,
13 Dywedasant wrthynt, "Ni chewch ddod �'r caethgludion yma, oherwydd byddai'r hyn y bwriadwch chwi ei wneud yn ein harwain i droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac yn ychwanegu at ein pechodau a'n troseddau. Y mae ein trosedd eisoes yn fawr ac y mae llid tanbaid yn erbyn Israel."
13對他們說:“你們不可把這些俘虜帶進來,因為我們已經得罪了耶和華,你們想增加我們的罪惡和過犯,我們的過犯實在嚴重,耶和華的震怒臨到以色列人身上了。”
14 Felly gadawodd y milwyr y caethgludion a'r ysbail o flaen y swyddogion a'r holl gynulliad.
14於是,軍隊把俘虜和戰利品都留在眾領袖和全體會眾的面前。
15 Aeth y gwu375?r a enwyd eisoes i ofalu am y caethgludion: rhoesant ddillad ac esgidiau o'r ysbail i bawb oedd heb ddim, gofalu bod ganddynt fwyd a diod, rhoi ennaint iddynt, rhoi pob un oedd yn llesg ar asynnod a'u hanfon at eu brodyr i Jericho, dinas y palmwydd; ac yna dychwelyd i Samaria.
15上面提過的那些人就起來,領走那些俘虜,從戰利品中拿出衣服給所有赤身的穿著,給他們穿上鞋,給他們吃喝,又給他們抹油,又把所有疲弱的人放在驢子上,把他們送回棕樹城耶利哥他們的兄弟那裡,然後就回撒瑪利亞去了。
16 Yr adeg honno anfonodd y Brenin Ahas neges at frenin Asyria i ofyn am gymorth.
16亞哈斯向亞述王求助(王下16:7~9)那時,亞哈斯王派人去求亞述王幫助他,
17 Yr oedd yr Edomiaid wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd caethgludion;
17因為以東人又來攻打猶大,擄走了許多人。
18 yr oedd y Philistiaid hefyd wedi anrheithio dinasoedd y Seffela a de Jwda a chymryd Beth-semes, Ajalon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'u pentrefi, ac wedi mynd i fyw ynddynt.
18非利士人也侵入了高原和猶大南面的眾城,佔領了伯.示麥、亞雅崙、基低羅、梭哥和屬於梭哥的村莊,亭納和屬於亭納的村莊,瑾瑣和屬於瑾瑣的村莊,並且住在那裡。
19 Yr oedd yr ARGLWYDD wedi darostwng Jwda o achos Ahas brenin Israel am iddo golli pob rheolaeth yn Jwda a throseddu'n enbyd yn erbyn yr ARGLWYDD.
19因為猶大王亞哈斯在猶大放縱邪惡,大大地冒犯了耶和華,所以耶和華使猶大卑微。
20 Daeth Tiglath-pileser brenin Asyria ato, ond yn lle ei gynorthwyo fe wasgodd arno.
20亞述王提革拉.毗尼色來到他那裡,不但沒有援助他,反倒欺壓他。
21 Er i Ahas ysbeilio trysor tu375?'r ARGLWYDD, palas y brenin a thai'r swyddogion, a'i roi i frenin Asyria, ni fu hynny o gymorth iddo.
21亞哈斯取了耶和華殿裡和王宮中,以及眾領袖家裡的財寶,給了亞述王,但也無濟於事。
22 Fel yr �i'n gyfyng arno, troseddai'r Brenin Ahas fwyfwy yn erbyn yr ARGLWYDD.
22向大馬士革的神獻祭這亞哈斯王在急難的時候,竟越發冒犯耶和華。
23 Aberthodd i dduwiau Damascus a oedd wedi ei orchfygu, a dweud, "Am fod duwiau brenhinoedd y Syriaid wedi eu cynorthwyo hwy, fe aberthaf fi iddynt er mwyn iddynt fy nghynorthwyo innau." Ond buont yn dramgwydd iddo ef ac i holl Israel.
23他向擊敗了他的大馬士革的神獻祭,說:“亞蘭王的神幫助了他們,我也向它們獻祭,使它們也幫助我。”它們卻使他和以色列人滅亡。
24 Casglodd Ahas lestri tu375? Dduw a'u malu'n chwilfriw; caeodd ddrysau tu375?'r ARGLWYDD a gwneud allorau iddo'i hun ym mhob congl o Jerwsalem.
24亞哈斯把 神殿裡的器皿收集起來,把這些 神殿裡的器皿都擊碎了,又封閉了耶和華殿的各門,並且在耶路撒冷的各個角落建造祭壇。
25 Gwnaeth uchelfeydd i arogldarthu i dduwiau dieithr ym mhob un o ddinasoedd Jwda, ac fe gythruddodd ARGLWYDD Dduw ei dadau.
25他又在猶大各城建造邱壇,向別的神燒香,惹怒他列祖的 神。
26 Am weddill ei hanes, a'i holl arferion o'r dechrau i'r diwedd, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.
26亞哈斯逝世亞哈斯其餘的事蹟和他一切所行的,以及一生的始末,都記在猶大和以色列諸王記上。
27 Bu farw Ahas, a chladdwyd ef yn ninas Jerwsalem, ond ni roesant ef ym mynwent brenhinoedd Israel; yna teyrnasodd ei fab Heseceia yn ei le.
27亞哈斯和他的列祖同睡,埋葬在耶路撒冷城裡,但沒有葬在以色列諸王的陵墓裡。他的兒子希西家接續他作王。