Welsh

聖經新譯本

Acts

22

1 "Frodyr a thadau, gwrandewch ar f'amddiffyniad ger eich bron yn awr."
1“各位父老弟兄,請聽聽我現在對你們的申辯。”
2 Pan glywsant mai yn iaith yr Iddewon yr oedd yn eu hannerch, rhoesant wrandawiad tawelach iddo. Ac meddai,
2他們聽見保羅用希伯來語說話,就更加安靜了。保羅說:
3 "Iddew wyf fi, wedi fy ngeni yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy nghodi yn y ddinas hon. Cefais fy addysg wrth draed Gamaliel yn �l llythyren Cyfraith ein hynafiaid, ac yr wyf yn selog dros Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw.
3“我是猶太人,生在基利家的大數,在城裡長大,按照我們祖宗律法的嚴格要求,在迦瑪列門下受教,我為 神熱心,好像你們大家今天一樣。
4 Erlidiais y Ffordd hon hyd at ladd, gan rwymo a rhoi yng ngharchar wu375?r a gwragedd,
4我曾經迫害信奉這道的人直至死地,把男男女女都捆綁起來,送進監獄,
5 fel y mae'r archoffeiriad a holl Gyngor yr henuriaid yn dystion i mi; oddi wrthynt hwy yn wir y derbyniais lythyrau at ein cyd�Iddewon yn Namascus, a chychwyn ar daith i ddod �'r rhai oedd yno hefyd yn rhwym i Jerwsalem i'w cosbi.
5這是大祭司和全公議會都可以給我作證的。我也從他們那裡得到了寫給眾弟兄的信,就去大馬士革,要把那裡的人捆綁起來,帶到耶路撒冷接受懲罰。
6 "Ond pan oeddwn ar fy nhaith ac yn agos�u at Ddamascus, yn sydyn tua chanol dydd fe fflachiodd goleuni mawr o'r nef o'm hamgylch.
6保羅自述信主經過“約在正午,當我走近大馬士革的時候,忽然有大光從天上向我四面照射,
7 Syrthiais ar y ddaear, a chlywais lais yn dweud wrthyf, 'Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?'
7我仆倒在地上,聽見有聲音對我說:‘掃羅,掃羅,你為甚麼迫害我?’
8 Atebais innau, 'Pwy wyt ti, Arglwydd?' A dywedodd wrthyf, 'Iesu o Nasareth wyf fi, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.'
8我回答:‘主啊,你是誰?’他說:‘我就是你所迫害的拿撒勒人耶穌。’
9 Gwelodd y rhai oedd gyda mi y goleuni, ond ni chlywsant lais y sawl oedd yn llefaru wrthyf.
9跟我在一起的人,只看見那光,卻聽不清楚那位對我說話的聲音。
10 A dywedais, 'Beth a wnaf, Arglwydd?' Dywedodd yr Arglwydd wrthyf, 'Cod a dos i Ddamascus, ac yno fe ddywedir wrthyt bopeth yr ordeiniwyd iti ei wneud.'
10我說:‘主啊,我應當作甚麼呢?’主說:‘起來,進大馬士革去,在那裡有人會把指定給你作的一切事告訴你。’
11 Gan nad oeddwn yn gweld dim oherwydd disgleirdeb y goleuni hwnnw, fe'm harweiniwyd gerfydd fy llaw gan y rhai oedd gyda mi, a deuthum i Ddamascus.
11因為那光太強烈,我的眼睛就瞎了,跟我在一起的人就牽著我的手,進了大馬士革。
12 "Daeth rhyw Ananias ataf, gu373?r duwiol yn �l y Gyfraith, a gair da iddo gan yr holl Iddewon oedd yn byw yno.
12“有一個人名叫亞拿尼亞的,他是一個虔誠而遵守律法的人,當地所有的猶太人都稱讚他。
13 Safodd hwn yn f'ymyl a dywedodd wrthyf, 'Y brawd Saul, derbyn dy olwg yn �l.' Edrychais innau arno a derbyn fy ngolwg yn �l y munud hwnnw.
13他來見我,站在我旁邊,對我說:‘掃羅弟兄,你現在可以看見了。’我立刻往上一看,看見了他。
14 A dywedodd yntau: 'Y mae Duw ein tadau wedi dy benodi di i wybod ei ewyllys, ac i weld yr Un Cyfiawn a chlywed llais o'i enau ef;
14他又說:‘我們祖先的 神選派了你,讓你明白他的旨意,看見那義者,聽見他口中的聲音。
15 oherwydd fe fyddi di'n dyst iddo, wrth y holl ddynolryw, o'r hyn yr wyt wedi ei weld a'i glywed.
15因為你要把所看見所聽見的,向萬人為他作見證。
16 Ac yn awr, pam yr wyt yn oedi? Tyrd i gael dy fedyddio a chael golchi ymaith dy bechodau, gan alw ar ei enw ef.'
16現在你為甚麼還耽擱呢?起來受洗,求告他的名,洗淨你的罪吧。’
17 "Wedi imi ddychwelyd i Jerwsalem, dyma a ddigwyddodd pan oeddwn yn gwedd�o yn y deml: euthum i lesmair,
17保羅蒙差遣向外族人傳福音“後來,我回到耶路撒冷,在殿裡禱告的時候,魂遊象外,
18 a'i weld ef yn dweud wrthyf, 'Brysia ar unwaith allan o Jerwsalem, oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.'
18看見主對我說:‘你要快快離開耶路撒冷,因為你為我作的見證,他們是不會接受的。’
19 Dywedais innau, 'Arglwydd, y maent hwy'n gwybod i mi fod o synagog i synagog yn carcharu ac yn fflangellu'r rhai oedd yn credu ynot ti.
19我說:‘主啊,他們知道我曾把信你的人監禁起來,又在各會堂拷打他們,
20 A phan oedd gwaed Steffan, dy dyst, yn cael ei dywallt, yr oeddwn innau hefyd yn sefyll yn ymyl, ac yn cydsynio, ac yn gwarchod dillad y rhai oedd yn ei ladd.'
20並且你的見證人司提反受害流血的時候,我也親自在場,表示同意,並且為殺他的人看守衣服。’
21 A dywedodd wrthyf, 'Dos, oherwydd yr wyf fi am dy anfon di ymhell at y Cenhedloedd.'"
21他對我說:‘你走吧,我要派你到遠方的外族人那裡去。’”
22 Yr oeddent wedi gwrando arno hyd at y gair hwn, ond yna dechreusant weiddi, "Ymaith ag ef oddi ar y ddaear! Y mae'n warth fod y fath ddyn yn cael byw."
22保羅與千夫長眾人聽見他說到這句話,就高聲說:“這樣的人應該從地上除掉,不應該活著!”
23 Fel yr oeddent yn gweiddi ac yn ysgwyd eu dillad ac yn taflu llwch i'r awyr,
23大家正在喊叫著,拋擲衣服,向空中揚灰撒土的時候,
24 gorchmynnodd y capten ei ddwyn ef i mewn i'r pencadlys, a'i holi trwy ei chwipio, er mwyn cael gwybod pam yr oeddent yn bloeddio felly yn ei erbyn.
24千夫長下令把保羅帶到營樓去,吩咐人用鞭子拷問他,要知道群眾為甚麼這樣向他喊叫。
25 Ond pan glymwyd ef i'w fflangellu, dywedodd Paul wrth y canwriad oedd yn sefyll gerllaw, "A oes gennych hawl i fflangellu dinesydd Rhufeinig, a hynny heb farnu ei achos?"
25士兵正用皮帶綁他的時候,保羅對站在旁邊的百夫長說:“你們鞭打一個還沒有定罪的羅馬公民,是合法的嗎?”
26 Pan glywodd y canwriad hyn, aeth at y capten, a rhoi adroddiad iddo, gan ddweud, "Beth yr wyt ti am ei wneud? Y mae'r dyn yma yn ddinesydd Rhufeinig."
26百夫長聽了,就去報告千夫長,說:“這個人是羅馬公民,你要怎麼辦呢?”
27 Daeth y capten ato, ac meddai, "Dywed i mi, a wyt ti'n ddinesydd Rhufeinig?" "Ydwyf," meddai yntau.
27千夫長就來問保羅:“告訴我,你是羅馬公民嗎?”他說:“是的。”
28 Atebodd y capten, "Mi delais i swm mawr i gael y ddinasyddiaeth hon." Ond dywedodd Paul, "Cefais i fy ngeni iddi."
28千夫長說:“我花了一大筆錢,才取得羅馬籍。”保羅說:“我生下來就是羅馬公民。”
29 Ar hyn, ciliodd y rhai oedd ar fin ei holi oddi wrtho. Daeth ofn ar y capten hefyd pan ddeallodd mai dinesydd Rhufeinig ydoedd, ac yntau wedi ei rwymo ef.
29於是那些要拷問他的人,立刻離開他走了。千夫長既知道他是羅馬公民,又因捆綁過他,就害怕起來。
30 Trannoeth, gan fod y capten am wybod yn sicr beth oedd cyhuddiad yr Iddewon, fe ollyngodd Paul yn rhydd, a gorchymyn i'r prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin ymgynnull. Yna daeth ag ef i lawr, a'i osod ger eu bron.
30保羅在公議會面前申辯第二天,千夫長為要知道猶太人控告保羅的真相,就解開他,召集了祭司長和公議會全體在一起,把保羅帶下來,叫他站在他們面前。