Welsh

聖經新譯本

Exodus

16

1 Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o Elim, ac ar y pymthegfed dydd o'r ail fis wedi iddynt adael gwlad yr Aifft, daethant i anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai.
1以色列人在曠野發怨言以色列全體會眾從以琳起行,在出埃及以後第二個月十五日,來到以琳和西奈中間汛的曠野那裡。
2 Dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch,
2以色列全體會眾在曠野都向摩西和亞倫發怨言;
3 a dweud wrthynt, "O na fyddai'r ARGLWYDD wedi gadael inni farw yng ngwlad yr Aifft, lle'r oeddem yn cael eistedd wrth y crochanau cig a bwyta ein gwala o fwyd; ond yr ydych chwi wedi ein harwain allan yma i'r anialwch er mwyn lladd y dyrfa hon i gyd � newyn."
3以色列人對他們說:“我們寧願在埃及地坐在肉鍋旁邊,吃飯吃到飽的時候,死在耶和華的手裡!你們倒把我們領出來,到這曠野,是要叫這全體會眾餓死啊!”
4 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Byddaf yn glawio arnoch fara o'r nefoedd, a bydd y bobl yn mynd allan a chasglu bob dydd ddogn diwrnod, er mwyn i mi eu profi a gweld a ydynt am ddilyn fy nghyfraith ai peidio.
4耶和華對摩西說:“看哪,我要把糧食從天上降給你們;人民可以出去,每天收取當天的分量,我好試驗他們是否遵行我的律法。
5 Ond ar y chweched dydd y maent i baratoi dwywaith cymaint ag y byddent yn ei gasglu ar ddiwrnod arall."
5到第六天,他們把收進來的預備好,比每天收取的多一倍。”
6 Yna dywedodd Moses ac Aaron wrth yr holl Israeliaid, "Yn yr hwyr cewch wybod mai'r ARGLWYDD a'ch arweiniodd allan o wlad yr Aifft,
6摩西和亞倫對以色列眾人說:“今晚你們必定知道是耶和華把你們從埃及地領出來。
7 ac yn y bore cewch weld ei ogoniant, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Pwy ydym ni, eich bod yn grwgnach yn ein herbyn?"
7明早你們必定看見耶和華的榮耀,因為耶和華聽見了你們向他所發的怨言了。我們算甚麼,你們竟向我們發怨言呢?”
8 Dywedodd Moses hefyd, "Fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig i'w fwyta yn yr hwyr, a'ch gwala o fara yn y bore, oherwydd y mae wedi clywed eich grwgnach yn ei erbyn. Felly, pwy ydym ni? Nid yn ein herbyn ni y mae eich grwgnach, ond yn erbyn yr ARGLWYDD."
8摩西又說:“耶和華晚上必給你們肉吃,早晨必給你們食物吃飽,因為耶和華聽見了你們埋怨他所說的怨言了。我們算甚麼?你們的怨言不是向我們發的,而是向耶和華發的。”
9 Dywedodd Moses wrth Aaron, "Dywed wrth holl gynulliad pobl Israel, 'Dewch yn agos at yr ARGLWYDD, oherwydd y mae ef wedi clywed eich grwgnach.'"
9摩西對亞倫說:“你要對以色列全體會眾說:‘你們走近耶和華面前,因為他已經聽見了你們的怨言了。’”
10 A thra oedd Aaron yn siarad � hwy, a hwythau'n edrych tua'r anialwch, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD mewn cwmwl.
10亞倫對以色列全體會眾說話的時候,他們向著曠野觀望,看見耶和華的榮耀在雲中顯現出來。
11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
11耶和華吩咐摩西說:
12 "Yr wyf wedi clywed grwgnach yr Israeliaid; dywed wrthynt, 'Yn y cyfnos cewch fwyta cig, ac yn y bore cewch eich gwala o fara; yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"
12“以色列人的怨言,我已經聽見了。你告訴他們說:‘黃昏的時候你們必吃肉,早晨的時候必有食物吃飽;這樣,你們就知道我耶和華是你們的 神了。’”
13 Yn yr hwyr daeth soflieir a gorchuddio'r gwersyll, ac yn y bore yr oedd haen o wlith o'i amgylch.
13鵪鶉與嗎哪到了晚上,有鵪鶉飛上來,把營都遮蓋了;到了早晨,營的四周有一層露水。
14 Pan gododd y gwlith, yr oedd caenen denau ar hyd wyneb yr anialwch, mor denau � llwydrew ar y ddaear.
14露水上升以後,就見野地上有細小鱗狀的東西,像小白霜一樣細小的東西。
15 Gwelodd yr Israeliaid ef, a dweud wrth ei gilydd, "Beth yw hwn?" Oherwydd nid oeddent yn gwybod beth ydoedd. Dywedodd Moses wrthynt, "Hwn yw'r bara a roddodd yr ARGLWYDD i chwi i'w fwyta.
15以色列人看見了,就彼此對問說:“這是甚麼?”原來他們不知道那是甚麼。摩西對他們說:“這就是耶和華賜給你們吃的食物。
16 Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 'Y mae pob un i gasglu ohono gymaint ag a all ei fwyta; cymerwch omer yr un ar gyfer pawb sydd yn eich pabell.'"
16耶和華吩咐的話是這樣的:‘你們要按著各人的食量收取,按著你們的人數為帳幕裡的人收取,一人兩公升。’”
17 Gwnaeth yr Israeliaid hyn; yr oedd rhai'n casglu llawer, eraill ychydig,
17以色列人就這樣行了;有的多收、有的少收。
18 ac wedi iddynt ei fesur wrth yr omer, nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer, na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig. Yr oedd pob un yn casglu cymaint ag a allai ei fwyta.
18他們用升斗衡量的時候,多收的沒有剩餘,少收的也不缺乏;各人按著自己的食量收取。
19 Dywedodd Moses wrthynt, "Peidied neb � chadw dim ohono'n weddill hyd drannoeth."
19摩西對他們說:“誰也不可把一些留到早晨。”
20 Ond ni wrandawsant arno, a chadwodd rhai beth ohono'n weddill hyd drannoeth; magodd bryfed, a dechreuodd ddrewi, ac yr oedd Moses yn ddig wrthynt.
20他們卻不聽摩西的話,有人把一些留到早晨,就生蟲發臭了。摩西就向他們發怒。
21 Casglasant bob bore gymaint ag a allent ei fwyta, ond pan boethai'r haul, fe doddai.
21他們每天早晨都按著各人的食量去收取;太陽一發熱,就融化了。
22 Ar y chweched dydd casglasant ddwywaith cymaint o fara, dau omer yr un, a daeth holl swyddogion y cynulliad at Moses i fynegi hyn iddo.
22到第六日,他們收取了兩倍的食物,每人四公升;會眾的首領都來告訴摩西。
23 Dywedodd yntau wrthynt, "Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 'Bydd yfory yn ddydd o orffwys, ac yn Saboth wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD.' Felly pobwch yr hyn y bydd ei angen arnoch, a berwi'r hyn y bydd arnoch ei eisiau; yna rhowch o'r neilltu bopeth sydd yn weddill, a chadwch ef hyd y bore."
23摩西對他們說:“耶和華這樣說:‘明天是安息日,是向耶和華守的聖安息日。你們要烤的,就烤吧;要煮的,就煮吧;所有餘剩的要自己保存著,直留到早晨。’”
24 Fe'i cadwasant hyd y bore, fel yr oedd Moses wedi gorchymyn, ac ni ddrewodd na magu pryfed.
24他們就照著摩西吩咐的,把餘剩的留到早晨;竟然不發臭,裡頭也沒有生蟲。
25 Yna dywedodd Moses, "Bwytewch ef heddiw, oherwydd y mae'r dydd hwn yn Saboth i'r ARGLWYDD; ni chewch mohono yn y maes heddiw.
25摩西說:“今天吃這個吧,因為今天是向耶和華守的安息日,今日你們在田野裡必找不著。
26 Am chwe diwrnod y casglwch ef, ond ar y seithfed dydd, sef y Saboth, ni bydd dim ohono ar gael."
26六天你們可以收取,但第七天是安息日,在那一天甚麼都沒有了。”
27 Aeth rhai o'r bobl allan ar y seithfed dydd i'w gasglu, ond ni chawsant ddim.
27第七天民間有人出去收取,可是甚麼也找不著。
28 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Am ba hyd yr ydych am wrthod cadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau?
28耶和華對摩西說:“你們拒絕遵守我的誡命和律法,要到幾時呢?
29 Edrychwch, yr ARGLWYDD a roddodd y Saboth i chwi; am hynny, fe rydd i chwi ar y chweched dydd fara am ddau ddiwrnod. Arhoswch gartref, bawb ohonoch, a pheidied neb � symud oddi yno ar y seithfed dydd."
29你們看,耶和華把安息日賜給了你們,所以第六日他賜給你們兩天的食物;第七天你們各人要住在家裡,誰都不可離開自己的地方。”
30 Felly gorffwysodd y bobl ar y seithfed dydd.
30於是人民在第七天都安息了。
31 Rhoddodd tu375? Israel yr enw manna arno; yr oedd fel had coriander, yn wyn, a'i flas fel afrlladen wedi ei gwneud o f�l.
31以色列家給這食物起名叫“嗎哪”,它像芫荽的種子,色白,味道像攙蜜的薄餅。
32 Dywedodd Moses, "Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 'Llanwer omer ohono i'w gadw ar gyfer y cenedlaethau a ddaw, er mwyn iddynt weld y bara a rois i chwi i'w fwyta yn yr anialwch pan ddygais chwi allan o wlad yr Aifft.'"
32摩西說:“耶和華吩咐的話是這樣:要把滿兩公升的嗎哪保留起來給你們的後代,好讓他們可以看見當日我把你們從埃及地領出來的時候,在曠野給你們吃的食物。”
33 Dywedodd Moses wrth Aaron, "Cymer grochan, a rho ynddo omer lawn o'r manna, a'i osod o flaen yr ARGLWYDD, i'w gadw ar gyfer y cenedlaethau a ddaw."
33摩西對亞倫說:“拿一個罐子來,裝滿兩公升嗎哪,存放在耶和華面前,保留起來給你們的後代。”
34 Gosododd Aaron ef o flaen y dystiolaeth i'w gadw, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
34亞倫就照著耶和華吩咐摩西的,把嗎哪存留在法櫃前。
35 Bu'r Israeliaid yn bwyta manna am ddeugain mlynedd, nes iddynt ddod i wlad gyfannedd ar gyrion gwlad Canaan.
35以色列人吃嗎哪共四十年,直到進了有人居住的地方為止;他們吃嗎哪,直到進入迦南地的邊界為止。
36 (Degfed ran o effa yw omer.)
36兩公升就是當時的標準量器的十分之一。(“兩公升就是當時的標準量器的十分之一”原文作“一俄梅珥就是一伊法的十分之一”)