1 Gwnaeth Besalel arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.
1做約櫃(出25:10~22)比撒列用皂莢木做了一個櫃,長一百一十公分,寬六十六公分,高六十六公分,
2 Goreurodd hi ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.
2用純金把櫃裡外都包裹了,替櫃的四周做了金牙邊,
3 Lluniodd bedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.
3又鑄造了四個金環,安放在櫃的四腳上,這一邊兩個環,那一邊兩個環。
4 Gwnaeth bolion o goed acasia a'u goreuro,
4又用皂莢木做了兩根櫃槓,包上黃金。
5 a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
5把槓穿在櫃旁的環內,可以抬櫃。
6 Gwnaeth drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led.
6又用純金做施恩座,長一百一十公分,寬六十六公分。
7 Gwnaeth hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro,
7又用黃金做了兩個基路伯,是從施恩座的兩端用鎚錘成的;
8 a gosod un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.
8這端一個基路伯,那端一個基路伯;他在施恩座的兩端做了兩個基路伯,和施恩座連在一起。
9 Yr oedd dwy adain y cerwbiaid ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; yr oedd y cerwbiaid yn wynebu ei gilydd, �'u hwynebau tua'r drugareddfa.
9兩個基路伯高展著翅膀,用它們的翅膀遮掩著施恩座,它們的臉彼此相對;基路伯的臉都對著施恩座。
10 Gwnaeth fwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder.
10做桌子(出25:23~30)他又用皂莢木做了一張桌子,長八十八公分,寬四十四公分,高六十六公分。
11 Goreurodd ef ag aur pur drosto, a gwnaeth ymyl aur o'i amgylch.
11用純金把桌子包裹,替桌子的四周做了金牙邊。
12 Gwnaeth ffr�m o led llaw o'i gwmpas, ac ymyl aur o amgylch y ffr�m.
12又替桌子的四周做了七十五公釐寬的框子;框子的四周又做了金牙邊。
13 Gwnaeth hefyd ar ei gyfer bedair o ddolennau aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.
13又替桌子鑄造四個金環,把環子安放在桌子四腳的四角上。
14 Yr oedd y dolennau ar ymyl y ffr�m yn dal y polion oedd yn cludo'r bwrdd.
14環子靠近框子,是穿槓的地方,可以抬桌子。
15 Gwnaeth y polion oedd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.
15又用皂莢木做了兩根槓,用金子把槓包裹,可以抬桌子。
16 Gwnaeth lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; fe'u gwnaeth o aur pur.
16又用純金做桌子的器皿,就是盤子、碟子、碗和奠酒用的杯。
17 Gwnaeth ganhwyllbren o aur pur. Yr oedd gwaelod y canhwyllbren a'i baladr o ddeunydd gyr, ac yr oedd y pedyll, y cnapiau a'r blodau yn rhan o'r cyfanwaith.
17做燈臺(出25:31~40)他用純金做了一個燈臺,他用鎚錘成燈臺;燈臺的座和幹,跟杯、球、花,都是連在一起的。
18 Yr oedd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.
18燈臺的兩邊伸出六個枝子,這一邊有三個燈臺枝子,那一邊也有三個燈臺枝子。
19 Ar un gainc yr oedd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyna oedd ar y chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.
19在這一個枝子有三個杯,形狀好像杏花,有球、有花;在那一個枝子上也有三個杯,形狀好像杏花,有球、有花。從燈臺那裡伸出來的六個枝子都是這樣。
20 Ar y canhwyllbren ei hun yr oedd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt;
20燈臺上有四個杯,形狀好像杏花,有球、有花;
21 ac yr oedd un o'r cnapiau dan bob p�r o'r chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.
21從燈臺伸出的每兩個枝子以下都有一個球,燈臺的六個枝子都是這樣。
22 Yr oedd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, ac yr oedd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.
22這些球和枝子都是連在一起的,全都是一塊純金錘成的。
23 Gwnaeth ar ei gyfer saith llusern, a gefeiliau a chafnau o aur pur.
23又用純金做燈臺的七個燈盞、燭剪和蠟花盤碟。
24 Gwnaeth y canhwyllbren a'r holl lestri o un dalent o aur pur.
24他用了三十五公斤純金做燈臺和燈臺的一切器具。
25 Gwnaeth allor o goed acasia ar gyfer llosgi'r arogldarth; yr oedd yn sgw�r, yn gufydd o hyd, a chufydd o led, a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.
25做香壇(出30:1~5)他用皂莢木做了一座香壇,長四十四公分,寬四十四公分,是正方形的,高八十八公分;壇的四角是與壇連在一起的。
26 Goreurodd hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.
26又用純金把壇包裹,壇頂、壇的四邊和壇的四角都包裹,又替壇做了金牙邊。
27 Gwnaeth hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.
27又替壇做了兩個金環,安放在牙邊以下,壇的兩側,就是壇的兩旁,作穿槓的地方,用來抬壇。
28 Gwnaeth y polion o goed acasia, a'u goreuro.
28用皂莢木做了兩根槓,用金包裹。
29 Gwnaeth hefyd olew cysegredig ar gyfer eneinio, ac arogldarth peraidd a phur, a chymysgodd hwy fel y gwna peraroglydd.
29又按著製香料者的製法,製聖膏油以及芬芳的純香。