1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
1耶路撒冷的罪行耶和華的話又臨到我說:
2 "Yn awr, fab dyn, a ferni di? A ferni di y ddinas waedlyd, a pheri iddi wybod ei holl ffieidd-dra?
2“人子啊,你要審判嗎?你要審判這流人血的城嗎?你要使這城知道它一切可憎的事。
3 Dywed wrthi, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O ddinas, sy'n dwyn ei thynged arni ei hun trwy dywallt gwaed o'i mewn, ac yn ei halogi ei hun �'i heilunod,
3你要說:‘主耶和華這樣說:這城中有流人血的事,它製造偶像,玷污自己,以致它受審判的時候來到。
4 yr wyt yn euog oherwydd y gwaed a dywelltaist, ac yn halogedig oherwydd yr eilunod a wnaethost. Daethost �'th ddyddiau i ben, a daeth diwedd ar dy flynyddoedd. Am hynny, gwnaf di'n warth i'r cenhedloedd ac yn gyff gwawd i'r holl wledydd.
4因你流了人的血,你就有罪了;因你做了偶像,你就玷污了自己;這樣,你使你受罰的日子臨近,遭報的年日來到,我使你成為列國辱罵、列邦譏笑的對象。
5 Bydd y rhai agos a'r rhai pell yn dy wawdio di, yr un enwog am dy ddrygioni a'r un llawn cythrwfl.
5你這混亂喧嚷、名被玷污的城啊!那些離你近的和離你遠的,都必譏笑你。
6 Ynot ti y mae holl dywysogion Israel yn defnyddio'u nerth i dywallt gwaed.
6看哪!以色列的領袖們恃著自己的能力,在你裡面流人的血。
7 O'th fewn di y maent yn dirmygu tad a mam, yn gorthrymu'r dieithr sydd ynot, ac yn cam-drin yr amddifad a'r weddw.
7在你裡面輕視父母的;在你中間有壓迫寄居的和欺負孤兒寡婦的。
8 Yr wyt wedi diystyru fy mhethau sanctaidd ac wedi halogi fy Sabothau.
8你藐視了我的聖物,褻瀆了我的安息日。
9 Y mae ynot bobl sy'n enllibio er mwyn tywallt gwaed, yn bwyta yng nghysegrfeydd y mynyddoedd ac yn gweithredu'n anllad o'th fewn.
9在你裡面有好讒謗的人,他們要流人的血;在你的山上吃祭肉;又在你中間行淫亂的事。
10 Y mae ynot rai sy'n datguddio noethni eu tadau, ac yn treisio merched yn ystod eu misglwyf;
10在你裡面有暴露父親下體的;有污辱在經期中不潔的婦人的。
11 y mae un yn gwneud ffieidd-dra gyda gwraig ei gymydog, un arall yn halogi'n anllad ei ferch-yng-nghyfraith, ac un arall yn treisio ei chwaer, merch ei dad ei hun.
11在你裡面,這人與鄰舍的妻子行可憎的事;那人行淫亂,玷污自己的兒媳;還有人污辱自己的同胞姊妹。
12 Y mae ynot rai sy'n derbyn llwgrwobr am dywallt gwaed; yr wyt yn cymryd llog ac elw, ac yn elwa ar dy gymdogion trwy drais. Anghofiaist fi, medd yr Arglwydd DDUW.
12在你裡面有接受賄賂而流人血的;你借錢給人,收取利息,並且多要;你用欺壓手段向你的鄰舍榨取不義之財;你更忘記了我。這是主耶和華的宣告。
13 "'Yn wir, byddaf yn dyrnu yn erbyn yr elw a wnaethost ac yn erbyn y gwaed sydd o'th fewn.
13“‘看哪!因你所得的不義之財,又因在你中間所流的血,我就拍掌。
14 A ddeil dy ddewrder, ac a fydd dy ddwylo'n gryf yn y dydd y byddaf fi'n ymwneud � thi? Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd, a myfi a fydd yn gweithredu.
14到了我懲治你的日子,你的心還能受得住嗎?你的手還有力嗎?我耶和華說了,就必實行。
15 Fe'th wasgaraf ymysg y cenhedloedd a'th chwalu trwy'r gwledydd, a rhof ddiwedd ar dy aflendid.
15我要把你分散在列國,四散在萬邦;我要從你中間消除你的污穢。
16 Pan fyddi'n halogedig yng ngolwg y cenhedloedd, byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"
16你在列國眼前被玷污的時候,你就知道我是耶和華。’”
17 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
17渣滓必遭熔化的比喻耶和華的話臨到我說:
18 "Fab dyn, fe aeth tu375? Israel yn amhur gennyf; y maent i gyd yn gymysg o bres, alcam, haearn a phlwm mewn ffwrnais; arian amhur ydynt.
18“人子啊!以色列家在我看來已成了渣滓;他們都是爐中的銅、錫、鐵和鉛;就是銀的渣滓。
19 Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i chwi oll fynd yn amhur, fe'ch casglaf ynghyd i Jerwsalem.
19因此,主耶和華這樣說:‘你們既然都成了渣滓,所以,我要把你們集合在耶路撒冷城中。
20 Fel y cesglir arian, pres, haearn, plwm ac alcam i ffwrnais � th�n dani i'w toddi, felly y casglaf finnau chwi yn fy nicter a'm llid, a'ch rhoi yno a'ch toddi.
20人怎樣把銀、銅、鐵、鉛、錫,集合在爐中,吹火使它們熔化,我也照樣在我的怒氣、我的烈怒中,把你們集合起來,放在城中,使你們熔化。
21 Fe'ch casglaf, a chwythu arnoch �'m dig tanllyd, ac fe'ch toddir ynddi.
21我必集合你們,把我烈怒的火吹在你們身上,你們就必在城中熔化。
22 Fel y toddir arian mewn ffwrnais, felly y toddir chwithau ynddi, a byddwch yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD a dywalltodd fy llid arnoch."
22銀子怎樣在爐中熔化,你們也必照樣在城中熔化;你們就知道我耶和華把我的烈怒倒在你身上。’”
23 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
23全國上下的罪行耶和華的話臨到我說:
24 "Fab dyn, dywed wrthi, 'Gwlad heb gael cawodydd na glaw fuost yn nydd dicter.'
24“人子啊!你要對這地說:‘在忿怒的日子,你是沒有雨水(“沒有雨水”這譯法根據古譯本,原文作“未得潔淨”),沒有甘霖之地’。
25 Y mae brad ei thywysogion o'i mewn fel rhu llew yn llarpio'i ysglyfaeth; y maent yn traflyncu pobl, yn cymryd eu cyfoeth a'u trysor, ac yn gwneud llawer yn weddwon o'i mewn.
25其中的先知叛逆,像吼叫的獅子撕碎獵物;他們把人吞吃,搶奪財物和珍寶,使其中寡婦的數目增多。
26 Y mae ei hoffeiriaid yn treisio fy nghyfraith ac yn halogi fy mhethau sanctaidd; nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng sanctaidd a chyffredin, nac yn cydnabod gwahaniaeth rhwng gl�n ac aflan; y maent yn anwybyddu fy Sabothau, ac fe'm halogir yn eu mysg.
26這地的祭司違反我的律法,褻瀆我的聖物;他們不分別聖俗,也不教導人分辨甚麼是潔淨的和不潔淨的,又掩目不理我的安息日,以致我在他們中間被褻瀆。
27 Y mae ei swyddogion o'i mewn fel bleiddiaid yn llarpio ysglyfaeth; y maent yn tywallt gwaed ac yn lladd pobl er mwyn gwneud elw.
27其中的官長好像撕碎獵物的豺狼,流人的血,滅人的命,為要得不義之財。
28 Y mae ei phroffwydi'n gwyngalchu drostynt � gweledigaethau gau ac argoelion twyllodrus, ac yn dweud, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW', a'r ARGLWYDD heb ddweud.
28這地的先知用灰泥給他們粉刷牆壁,為他們見虛假的異象,行騙人的占卜,說:‘主耶和華這樣說’,其實當時耶和華並沒有說話。
29 Y mae pobl y wlad yn arfer trais ac yn lladrata; y maent yn gorthrymu'r tlawd a'r anghenog, ac yn treisio'r dieithryn gan atal cyfiawnder.
29這地的人民常常欺壓人,慣行搶掠,虧待困苦窮乏的人,毫無公理地去欺壓寄居的人。
30 Chwiliais am rywun yn eu mysg a allai adeiladu mur, a sefyll o'm blaen yn y bwlch, i amddiffyn y wlad rhag dinistr, ond ni chefais yr un.
30我在他們中間尋找一人重修牆垣,在我面前為這地站在破口之處,使我不毀滅這地,我卻找不到一個。
31 Tywelltais fy llid arnynt a'u dinistrio �'m dicter tanllyd, a dwyn ar eu pennau eu hunain yr hyn a wnaethant," medd yr Arglwydd DDUW.
31所以我把我的忿怒倒在他們身上,用我烈怒之火消滅他們,把他們所行的報應在他們的頭上。這是主耶和華的宣告。”