Welsh

聖經新譯本

Ezekiel

29

1 Ar y deuddegfed dydd o'r degfed mis yn y ddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
1將埃及地賜給巴比倫王第十年十月十二日,耶和華的話臨到我說:
2 "Fab dyn, tro dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef ac yn erbyn yr Aifft gyfan.
2“人子啊!你要面向埃及王法老,說預言攻擊他和埃及全地。
3 Llefara a dweud, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn dy erbyn, O Pharo, brenin yr Aifft, y ddraig fawr sy'n ymlusgo yng nghanol ei hafonydd, ac yn dweud, "Myfi biau'r Neil, myfi a'i gwnaeth."
3你要說:‘主耶和華這樣說:埃及王法老啊!我要與你為敵,你這臥在自己河中的大海怪,你曾經說過:“這河是我的,是我自己造的。”
4 Rhof fachau yn dy safn, a gwneud i bysgod dy afonydd lynu wrth gen dy groen; tynnaf di i fyny o ganol dy afonydd gyda'u holl bysgod yn glynu wrth gen dy groen.
4但我耶和華必用鉤子鉤住你的腮頰,使你河中的魚都緊貼著你的鱗甲,我必把你和你河中所有緊貼著你的鱗甲的魚,都從你河中拉上來。
5 Fe'th fwriaf i'r anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd; syrthi ar wyneb y ddaear heb dy gasglu na'th gladdu; rhof di'n fwyd i'r anifeiliaid gwylltion a'r adar.
5我必把你和你河中所有的魚,都丟在曠野;你必倒在田間,無人收殮,無人埋葬。我已經把你給了地上的走獸和空中的飛鳥作食物。
6 Yna bydd holl drigolion yr Aifft yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, oherwydd iti fod yn ffon o frwyn i du375? Israel.
6埃及所有的居民就都知道我是耶和華。因為你作了以色列家蘆葦的杖。
7 Pan gydiodd yr Aifft ynot �'i law, torraist eu hysgwyddau a'u niweidio; pan bwysodd arnat, torraist ac ysigo eu llwynau.
7他們用手抓住你的時候,你就斷裂,傷了他們的肩頭;他們倚靠你,你就折斷、扭傷了他們的腰。
8 Felly fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf am ddwyn cleddyf arnat a thorri ymaith ohonot ddyn ac anifail; bydd gwlad yr Aifft yn anrhaith ac yn ddiffeithwch.
8因此,主耶和華這樣說:看哪!我必使刀劍攻擊你,把人和牲畜都從你那裡剪除。
9 Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD. Oherwydd iti ddweud, "Myfi biau'r Neil, myfi a'i gwnaeth",
9埃及地必荒涼廢棄,人就知道我是耶和華。“‘因為法老曾說:“這河是我的,是我自己做的。”
10 am hynny yr wyf yn dy erbyn ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf wlad yr Aifft yn ddiffeithwch llwyr ac yn dir anrheithiedig o Migdol hyd Aswan, hyd derfyn Ethiopia.
10所以我必與你和你的河為敵;我必使埃及地,從密奪到色弗尼,直到古實邊界,都全然荒涼廢棄。
11 Ni throedia dyn nac anifail trwyddi, ac fe fydd yn anghyfannedd am ddeugain mlynedd.
11人的腳必不經過那裡,獸的蹄也不經過那裡;四十年之久,無人居住。
12 Fe wnaf wlad yr Aifft yn anrhaith ymysg gwledydd anrheithiedig, a bydd ei dinasoedd yn anrheithiedig am ddeugain mlynedd ymysg dinasoedd anghyfannedd. Byddaf yn gwasgaru'r Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd.
12我必使埃及成為荒地中的荒地,四十年之久,它的城必成為廢城中的廢城。我必把埃及人分散到列邦,四散在各地。
13 "'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ar derfyn deugain mlynedd fe gasglaf yr Eifftiaid o blith y bobloedd lle gwasgarwyd hwy,
13“‘主耶和華這樣說:滿了四十年,我必把埃及人從他們所分散到的萬族中招聚回來。
14 ac fe adferaf lwyddiant yr Aifft, a'u dychwelyd i wlad Pathros, gwlad eu hynafiaid, ac yno byddant yn deyrnas fechan.
14我必使埃及被擄的人歸回,使他們歸回自己根源之地巴忒羅,在那裡他們必成為低微的國。
15 Hi fydd yr isaf o'r teyrnasoedd, ac ni ddyrchafa mwy goruwch y cenhedloedd; fe'i gwnaf mor fychan fel na lywodraetha eto dros y cenhedloedd.
15這國必成為列國中最低微的,也必不能再攀到列國之上;我必使他們弱小,以致他們不能再管轄列國。
16 Ni fydd yr Aifft mwyach yn hyder i du375? Israel, ond bydd yn eu hatgoffa o'u trosedd gynt, yn troi ati am gymorth. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.'"
16埃及必不再作以色列家的倚靠;每逢以色列家轉去仰賴埃及人的時候,他們就想起自己的罪孽。這樣,他們就知道我是主耶和華。’”
17 Ar y dydd cyntaf o'r mis cyntaf yn y seithfed flwyddyn ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
17二十七年正月初一日,耶和華的話臨到我說:
18 "Fab dyn, gwnaeth Nebuchadnesar brenin Babilon i'w fyddin lafurio'n galed yn erbyn Tyrus, nes bod pob pen yn foel a phob ysgwydd yn ddolurus, ond ni chafodd ef na'i fyddin elw o Tyrus am eu llafur caled.
18“人子啊!巴比倫王尼布甲尼撒使他的軍兵千辛萬苦攻打推羅,以致各人都頭禿肩破;但是他和他的軍兵攻打推羅所付出的辛勞,並沒有從那裡得到甚麼報酬。
19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Yr wyf am roi gwlad yr Aifft i Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd yn cymryd ei chyfoeth; yr anrhaith a gymer a'r ysbail a ladrata ohoni fydd y t�l i'w fyddin.
19因此,主耶和華這樣說:看哪!我必把埃及地賜給巴比倫王尼布甲尼撒,他把埃及的財富帶走,搶其中的財為擄物,奪其中的貨為掠物,作他軍兵的報酬。
20 Rhoddais iddo wlad yr Aifft yn gyflog am ei waith, oherwydd i mi y buont yn gweithio,' medd yr Arglwydd DDUW.
20我把埃及地賜給他,作辛勞的報酬,因為他們都是為我效力的。這是主耶和華的宣告。
21 "'Y dydd hwnnw, paraf i gorn dyfu i du375? Israel, a gwnaf iti agor dy enau yn eu mysg, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"
21到了那天,我必使以色列家的角生出來,我也必使你以西結在他們中間開口。他們就知道我是耶和華。”