1 Clywodd Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai a'i difrodi a gwneud iddi hi a'i brenin yn union fel y gwnaeth i Jericho a'i brenin, a bod trigolion Gibeon wedi gwneud heddwch ag Israel, ac yn byw yn eu mysg.
1五王聯合攻打基遍耶路撒冷王亞多尼.洗德聽見約書亞佔領了艾城,把城完全毀滅,約書亞怎樣對待耶利哥和耶利哥的王,也照樣對待艾城和艾城的王;又聽見基遍的居民已經與以色列人議和,並可以住在這地,
2 Cododd hyn ofn mawr arno, oherwydd yr oedd Gibeon yn ddinas fawr fel un o'r dinasoedd brenhinol; yr oedd, yn wir, yn fwy nag Ai, a'i holl ddynion yn rhyfelwyr praff.
2他們就非常懼怕。因為基遍是大城,好像一座王城;又因為基遍比艾城大,城裡所有的人都是勇士。
3 Anfonodd Adonisedec brenin Jerwsalem at Hoham brenin Hebron, Piram brenin Jarmuth, Jaffia brenin Lachis a Debir brenin Eglon, a dweud,
3因此,耶路撒冷王亞多尼.洗德派人到希伯崙王何咸、耶末王毗蘭、拉吉王雅非亞和伊磯倫王底璧那裡去,對他們說:
4 "Dewch i fyny i'm cynorthwyo i ymosod ar Gibeon am iddi wneud heddwch � Josua a'r Israeliaid."
4“求你們上我這裡來幫助我,我們好攻打基遍,因為基遍已經與約書亞和以色列人議和了。”
5 Felly fe ymgynullodd pum brenin yr Amoriaid, sef brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Jarmuth, Lachis ac Eglon, ac aethant hwy a'u holl luoedd i fyny a gwarchae ar Gibeon ac ymosod arni.
5於是亞摩利人的那五個王,就是耶路撒冷王、希伯崙王、耶末王、拉吉王和伊磯倫王,聯合起來,帶著他們所有的軍隊上去,在基遍的對面安營,攻打基遍。
6 Ond anfonodd pobl Gibeon at Josua i'r gwersyll yn Gilgal a dweud, "Paid � gwrthod cynorthwyo dy weision, ond brysia i fyny atom i'n hachub a'n helpu, oherwydd y mae holl frenhinoedd yr Amoriaid sy'n byw yn y mynydd-dir wedi ymgasglu yn ein herbyn."
6約書亞擊敗五王基遍人就派人到吉甲營中約書亞那裡去,說:“不可丟棄你的僕人,求你快快上我們這裡來拯救我們、幫助我們;因為住在山地的亞摩利人所有的王都集合起來攻擊我們。”
7 Aeth Josua i fyny o Gilgal, a chydag ef bob milwr a'r holl ryfelwyr dewr.
7於是約書亞和所有能作戰的人,以及所有英勇的戰士,都一起從吉甲上去。
8 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, "Paid �'u hofni, oherwydd rhoddaf hwy yn dy law; ni fydd neb ohonynt yn sefyll o'th flaen."
8耶和華對約書亞說:“你不要怕他們,因為我已經把他們交在你手裡了;他們必沒有一人能在你面前站立得住。”
9 Daeth Josua arnynt yn ddisymwth, ar �l teithio trwy'r nos o Gilgal.
9於是約書亞乘夜從吉甲上去,突然來到他們那裡。
10 Yna gyrrodd yr ARGLWYDD hwy ar chw�l o flaen Israel ac achosi lladdfa fawr yn eu mysg yn Gibeon, a'u hymlid ar hyd y ffordd i fyny at Beth-horon, a dal i'w taro hyd at Aseca a Macceda.
10耶和華使他們在以色列人面前潰亂,約書亞在基遍大大地擊殺他們,沿著伯.和崙的上坡路追趕他們,擊打他們,直到亞西加和瑪基大。
11 Fel yr oeddent yn ffoi o flaen Israel ar lechwedd Beth-horon, bwriodd yr ARGLWYDD arnynt genllysg breision o'r awyr bob cam i Aseca, a buont farw. Bu farw mwy o achos y cenllysg nag a laddwyd gan yr Israeliaid �'r cleddyf.
11他們從以色列人面前逃跑,正在下伯.和崙斜坡的時候,耶和華從天上降大冰雹在他們身上,一直到亞西加,打死他們;被冰雹打死的,比以色列人用刀殺死的還多。
12 Y diwrnod y darostyngodd yr ARGLWYDD yr Amoriaid o flaen yr Israeliaid fe ganodd Josua i'r ARGLWYDD yng ngu373?ydd yr Israeliaid: "Haul, aros yn llonydd yn Gibeon, a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon."
12日月停止那時,就是耶和華把亞摩利人交給以色列人的時候,約書亞在以色列人面前對耶和華說:“太陽啊,停在基遍;月亮啊,停在亞雅崙谷。”
13 Ac arhosodd yr haul yn llonydd, a safodd y lleuad, nes i'r genedl ddial ar ei gelynion. Y mae hyn wedi ei ysgrifennu yn Llyfr Jasar. Safodd yr haul yng nghanol yr wybren, heb frysio i fachludo am ddiwrnod cyfan.
13於是太陽停住,月亮站住,直到以色列人在仇敵的身上報了仇。這事不是寫在《雅煞珥書》上嗎?太陽在天空中站住,不急速下落,約有一整天。
14 Ni fu diwrnod fel hwnnw na chynt nac wedyn, a'r ARGLWYDD yn gwrando ar lais meidrolyn; yn wir, yr ARGLWYDD oedd yn ymladd dros Israel.
14在這日以前或這日以後,耶和華聽人的禱告,沒有像這日一樣的,因為耶和華為以色列作戰。
15 Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn �l i'r gwersyll yn Gilgal.
15後來,約書亞和眾以色列人回到吉甲營那裡去。
16 Ond yr oedd y pum brenin hynny wedi ffoi ac ymguddio mewn ogof yn Macceda.
16生擒五王就地正法那五個王逃跑了,躲藏在瑪基大洞裡。
17 Pan hysbyswyd Josua iddynt ddarganfod y pum brenin yn ymguddio mewn ogof yn Macceda,
17有人告訴約書亞,說:“那五個王已經找到了,都躲藏在瑪基大洞裡。”
18 dywedodd Josua, "Pentyrrwch feini mawrion ar geg yr ogof, a gosodwch ddynion i'w gwylio.
18約書亞說:“你們把幾塊大石頭輥到洞口那裡去,並派人到洞口去看守他們。
19 Peidiwch chwithau � sefyllian, ymlidiwch eich gelynion a'u goddiweddyd; peidiwch � gadael iddynt gyrraedd eu dinasoedd, gan fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi eu rhoi yn eich gafael."
19你們卻不可站著,要追趕你們的仇敵,從後面擊殺他們,不可讓他們逃進自己的城中,因為耶和華你們的 神已經把他們交在你們的手裡了。”
20 Er i Josua a'r Israeliaid wneud lladdfa fawr iawn yn eu mysg a'u difa, dihangodd rhai ohonynt a chyrraedd y dinasoedd caerog.
20約書亞和以色列人把他們殺得慘敗,直到把他們滅絕為止,那些逃脫的人都逃進設防的城裡;
21 Wedi hynny dychwelodd yr holl fyddin yn ddiogel i'r gwersyll at Josua yn Macceda, heb neb yn yngan gair yn erbyn yr Israeliaid.
21眾以色列人都平平安安回到瑪基大營中約書亞那裡。沒有人敢說話攻擊以色列人。
22 Yna dywedodd Josua, "Agorwch geg yr ogof, a dewch �'r pum brenin allan ataf oddi yno."
22約書亞說:“你們打開洞口,把那五個王從洞裡拉出來,帶到我這裡來。”
23 Gwnaethant hynny, a dod �'r pum brenin allan ato, sef brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Jarmuth, Lachis ac Eglon.
23眾人就照著執行,他們把那五個王,就是耶路撒冷王、希伯崙王、耶末王、拉吉王和伊磯倫王,從洞裡拉出來,帶到約書亞那裡去。
24 Wedi iddynt ddod �'r brenhinoedd hyn allan at Josua, galwodd yntau ar holl wu375?r Israel, a dweud wrth swyddogion y milwyr a fu'n ymdeithio gydag ef, "Dewch yma, gosodwch eich traed ar warrau'r brenhinoedd hyn." Aethant hwythau atynt a gosod eu traed ar eu gwarrau.
24眾人把那五個王帶到約書亞那裡去的時候,約書亞把所有的以色列人都召了來,對那些與他同去作戰的軍長說:“你們走前來,把腳踏在這些王的頸項上。”他們就走前來,把腳踏在那些王的頸項上。
25 Yna dywedodd Josua wrthynt, "Peidiwch ag ofni na brawychu; byddwch yn gryf a dewr, oherwydd fel hyn y gwna'r ARGLWYDD i'r holl elynion y byddwch yn ymladd � hwy."
25約書亞對他們說:“你們不要懼怕,不要驚慌;總要堅強勇敢,因為耶和華必這樣對待你們要攻打的所有仇敵。”
26 Wedi hyn trawodd Josua hwy'n farw a'u crogi ar bum coeden, a buont ynghrog ar y coed hyd yr hwyr.
26隨後,約書亞把那五個王殺死,懸在五棵樹上;他們就懸在樹上,直到晚上。
27 Adeg machlud haul gorchmynnodd Josua eu tynnu i lawr oddi ar y coed, a bwriwyd hwy i'r ogof y buont yn ymguddio ynddi; gosodasant feini mawrion ar geg yr ogof, lle maent hyd heddiw.
27到了日落的時候,約書亞吩咐人把他們從樹上取下來,丟在他們躲藏過的洞裡,把幾塊大石頭放在洞口;這些石頭一直存到今日。
28 Y diwrnod hwnnw goresgynnodd Josua Macceda a'i tharo hi a'i brenin �'r cleddyf, a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i frenin Macceda fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho.
28約書亞攻取南部各城在那天,約書亞佔領了瑪基大,用刀擊殺了那城的人和那城的王,把城中所有的人完全毀滅,不容一人逃脫;他對待瑪基大王就像對待耶利哥王一樣。
29 Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Macceda i Libna, ac ymosod arni.
29約書亞和跟他在一起的眾以色列人從瑪基大往立拿去,攻打立拿。
30 Rhoddodd yr ARGLWYDD hi a'i brenin yn llaw Israel, a thrawodd Josua hi a phawb oedd ynddi �'r cleddyf, heb arbed neb; gwnaeth i'w brenin fel yr oedd wedi gwneud i frenin Jericho.
30耶和華把立拿和立拿的王也交在以色列人手裡,約書亞用刀攻擊那城,殺了城裡所有的人,不容一人逃脫;他對待立拿王就像對待耶利哥王一樣。
31 Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Libna i Lachis, a gwersyllu yn ei herbyn ac ymosod arni.
31約書亞和跟他在一起的眾以色列人從立拿往拉吉去,對著拉吉安營,攻打這城。
32 Rhoddodd yr ARGLWYDD Lachis yn llaw Israel, ac fe'i gorchfygodd hi yr ail ddiwrnod a'i tharo hi a phawb oedd ynddi �'r cleddyf, yn union fel y gwnaeth i Libna.
32耶和華把拉吉交在以色列人手裡,第二天約書亞就佔領了拉吉,用刀攻擊那城,殺了城中所有的人,跟他對立拿所行的一切一樣。
33 Yna daeth Horam brenin Geser i fyny i gynorthwyo Lachis, ond trawodd Josua ef a'i fyddin, heb arbed neb.
33那時,基色王荷蘭上來幫助拉吉,約書亞就把他和他的人民都擊殺了,沒有留下一人。
34 Aeth Josua a holl Israel gydag ef yn eu blaen o Lachis i Eglon, a gwersyllu yn ei herbyn ac ymosod arni.
34約書亞和與他在一起的眾以色列人從拉吉往伊磯倫去,對著伊磯倫安營,攻打這城。
35 Goresgynnodd y bobl hi y diwrnod hwnnw a'i tharo �'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaed i Lachis.
35那一天,他們佔領了這城,用刀攻擊那城,殺了城中所有的人;那一天約書亞把他們完全毀滅,跟他對拉吉所行的一切一樣。
36 Aeth Josua a holl Israel gydag ef i fyny o Eglon i Hebron, ac ymosod arni.
36約書亞和與他在一起的眾以色列人從伊磯倫上希伯崙去,攻打這城。
37 Goresgynnodd hi a tharo �'r cleddyf y ddinas, ei brenin, a'i maestrefi i gyd a phawb oedd ynddynt, heb arbed neb, ond ei difodi hi a phawb oedd ynddi, yn union fel y gwnaeth i Eglon.
37他們佔領了這城,用刀攻擊這城,殺了這城的王,又攻擊屬於這城的城鎮,殺了城中所有的人,不容一人逃脫,跟他對伊磯倫所行的一切一樣,把這城和城中所有的人完全毀滅。
38 Yna trodd Josua a holl Israel gydag ef i gyfeiriad Debir ac ymosod arni.
38約書亞和與他在一起的眾以色列人回到了底璧,攻打這城。
39 Goresgynnodd hi a'i brenin a'i maestrefi i gyd, a'u lladd �'r cleddyf a lladd pawb oedd ynddi, heb arbed neb; gwnaeth i Debir a'i brenin fel yr oedd wedi gwneud i Hebron ac i Libna a'i brenin.
39約書亞佔領了這城,抓住這城的王,又佔領了屬於這城的一切城鎮;以色列人用刀擊殺他們,把城中所有的人都毀滅了;約書亞不容一人逃脫,他怎樣對待希伯崙,也照樣對待底璧和底璧的王;也好像他對待立拿和立拿的王一樣。
40 Gorchfygodd Josua y wlad i gyd: y mynydd-dir, y Negef, y Seffela a'r llechweddau, a hefyd eu holl frenhinoedd, heb arbed neb, ond lladd pob perchen anadl, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD, Duw Israel.
40這樣,約書亞擊殺了全地的人,就是山地、南地、高原和山坡的人,以及那些地方所有的王,不容一人逃脫;約書亞照著耶和華以色列的 神的吩咐,把有氣息的都完全毀滅了。
41 Trawodd Josua hwy o Cades-barnea hyd at Gasa, ac o wlad Gosen i gyd hyd at Gibeon.
41約書亞從加低斯.巴尼亞擊殺他們,直到迦薩,又從歌珊全地擊殺他們,直到基遍。
42 Goresgynnodd Josua yr holl frenhinoedd hyn a'u tiroedd mewn un cyrch am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ymladd dros Israel.
42約書亞在這一次戰役中擊敗了這些王和佔領了他們的地,是因為耶和華以色列的 神為以色列作戰。
43 Yna fe ddychwelodd Josua a holl Israel gydag ef i'r gwersyll yn Gilgal.
43於是約書亞和與他在一起的眾以色列人回到吉甲營中。