Welsh

聖經新譯本

Leviticus

7

1 "'Dyma ddeddf yr offrwm dros gamwedd sy'n gwbl sanctaidd:
1贖愆祭“贖愆祭的律例是這樣:這祭是至聖的。
2 Y mae'r offrwm dros gamwedd i'w ladd yn y lle y lleddir y poethoffrwm, a'i waed i'w luchio ar bob ochr i'r allor.
2人在甚麼地方宰殺燔祭牲,就要在那裡宰殺贖愆祭牲,牠的血要潑在祭壇的四周。
3 Y mae'r cyfan o'i fraster i'w offrymu, sef y gynffon fras a'r braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd,
3祭司要把祭牲的一切脂肪都獻上,就是肥尾巴和遮蓋內臟的脂肪,
4 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.
4以及兩個腎、腎上近腰旁的脂肪和腎旁的肝葉,一起取下。
5 Bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar yr allor yn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD; dyma fydd yr offrwm dros gamwedd.
5然後把這些焚燒在祭壇上,作獻給耶和華的火祭,這是贖愆祭。
6 Caiff pob gwryw o blith yr offeiriaid ei fwyta, ond rhaid gwneud hynny mewn lle sanctaidd; y mae'n gwbl sanctaidd.
6祭司家中的男丁,都可以吃祭牲的肉,要在聖潔的地方吃;這是至聖的。
7 "'Yr un yw deddf yr aberth dros bechod � deddf yr offrwm dros gamwedd: y mae'r aberth yn perthyn i'r offeiriad sy'n gwneud cymod trwyddo.
7贖罪祭怎樣,贖愆祭也怎樣;兩個祭的律例相同;
8 Y mae'r offeiriad sy'n cyflwyno poethoffrwm dros unrhyw un i gadw iddo'i hun groen y poethoffrwm a gyflwynir.
8祭物要歸主持贖罪的祭司,祭司替人獻燔祭,祭牲的皮要歸獻燔祭的祭司。
9 Y mae unrhyw fwydoffrwm wedi ei grasu mewn ffwrn, neu wedi ei baratoi ar radell neu mewn padell, yn eiddo i'r offeiriad sy'n ei gyflwyno;
9一切在爐裡烤的,或在淺鍋裡或在煎盤上做的素祭,都要歸給那獻祭的祭司。
10 bydd pob bwydoffrwm, boed wedi ei gymysgu ag olew neu'n sych, yn eiddo i bob un o feibion Aaron fel ei gilydd.
10一切用油調和,或是乾的素祭,都要歸給亞倫所有的子孫,大家均分。
11 "'Dyma ddeddf yr heddoffrwm a gyflwynir i'r ARGLWYDD.
11平安祭“獻給耶和華的平安祭的律例是這樣:
12 Os cyflwynir ef yn ddiolchgarwch, dylid cyflwyno gyda'r offrwm diolch deisennau heb furum wedi eu cymysgu ag olew, bisgedi heb furum wedi eu taenu ag olew, a theisennau o beilliaid wedi eu tylino a'u cymysgu ag olew.
12人若是為感恩獻祭,就要用調油的無酵餅和抹了油的無酵薄餅,以及用油調和了細麵做的餅,與感恩祭一同獻上。
13 Gyda'r heddoffrwm o ddiolchgarwch dylid cyflwyno hefyd offrwm o deisennau o fara lefeinllyd.
13他要把他的供物,連同有酵的餅,跟那為感恩而獻的平安祭,一起獻上。
14 Deuir ag un o bob math yn offrwm i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD; bydd yn eiddo i'r offeiriad sy'n lluchio gwaed yr heddoffrwm.
14他要從各物中,取出一個餅作為舉祭,獻給耶和華,歸給那潑平安祭牲之血的祭司。
15 Rhaid bwyta cig yr heddoffrwm o ddiolchgarwch ar y dydd y cyflwynir ef; ni ddylid gadael dim ohono hyd y bore.
15“為感恩而獻的平安祭的肉,只能在獻祭那日吃,一點也不可留到早晨。
16 "'Os offrwm adduned neu offrwm gwirfodd fydd yr aberth, dylid ei fwyta ar y dydd y cyflwynir ef, ond gellir bwyta drannoeth unrhyw beth a fydd yn weddill.
16他獻的供物若是還願祭,或是甘心祭,獻祭那日可以吃;剩下的,第二天也可以吃。
17 Rhaid llosgi yn y t�n unrhyw gig o'r offrwm a fydd yn weddill ar y trydydd dydd.
17還剩下的祭肉,到了第三天,就要用火燒掉。
18 Os bwyteir rhywfaint o gig yr heddoffrwm ar y trydydd dydd, ni fydd yr un sy'n ei gyflwyno yn dderbyniol, ac ni chyfrifir yr offrwm iddo am ei fod yn amhur; a bydd y sawl sy'n ei fwyta yn euog oherwydd hynny.
18如果在第三天吃平安祭的肉,必不蒙悅納,他獻上的也不再算為祭,因為祭肉已經成為不潔;吃這肉的人,必擔當自己的罪責。
19 "'Ni ddylid bwyta cig a fydd wedi cyffwrdd ag unrhyw beth aflan; rhaid ei losgi yn y t�n. Ond am unrhyw gig arall, caiff unrhyw un gl�n ei fwyta.
19“祭肉若是接觸了任何不潔,就不可以吃,要用火燒掉。潔淨的人才可以吃祭肉;
20 Os bydd unrhyw un aflan yn bwyta o gig yr heddoffrwm sy'n eiddo i'r ARGLWYDD, rhaid torri hwnnw ymaith o blith ei bobl.
20身上不潔淨的人吃了獻與耶和華的平安祭的祭肉,那人必從自己的族人中被剪除。
21 Ac os bydd unrhyw un yn cyffwrdd � rhywbeth aflan, boed yn aflendid dynol, neu'n anifail aflan, neu'n ffieiddbeth aflan, ac yna'n bwyta o gig yr heddoffrwm sy'n eiddo i'r ARGLWYDD, rhaid torri hwnnw ymaith o blith ei bobl.'"
21人若是摸了任何不潔,或是人的污穢,或是牲畜的污穢,或是任何不潔淨的可憎之物,然後吃獻給耶和華的平安祭的肉,那人必從自己的族人中被剪除。”
22 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
22耶和華對摩西說:
23 "Dywed wrth bobl Israel, 'Peidiwch � bwyta dim o fraster gwartheg, defaid na geifr.
23“你要告訴以色列人說:所有公牛、綿羊或是山羊的脂肪,你們都不可吃。
24 Gallwch ddefnyddio at unrhyw ddiben fraster anifail wedi marw neu wedi ei larpio, ond ni chewch ei fwyta.
24自死的或被野獸撕裂的動物的脂肪,可以作別的用途,只是你們決不可吃。
25 Oherwydd torrir ymaith o blith ei bobl unrhyw un sy'n bwyta braster oddi ar anifail y gellir cyflwyno ohono offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD.
25因為無論何人吃了獻給耶和華為火祭的牲畜的脂肪,那吃的人就必從自己的族人中被剪除。
26 Lle bynnag y byddwch yn byw, nid ydych i fwyta dim o waed aderyn nac anifail.
26在你們的一切住處,任何血,無論是飛鳥或是牲畜的,你們都不可吃。
27 Y mae pob un sy'n bwyta o'r gwaed i'w dorri ymaith o blith ei bobl.'"
27無論誰吃了甚麼血,那人必從自己的族人中被剪除。”
28 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
28祭司的分與權利耶和華對摩西說:
29 "Dywed wrth bobl Israel, 'Y mae unrhyw un sy'n dod � heddoffrwm i'r ARGLWYDD i gyflwyno i'r ARGLWYDD rodd o'i heddoffrwm.
29“你要告訴以色列人:向耶和華獻平安祭的,必須從他的平安祭中取出奉給耶和華的供物。
30 Ei ddwylo ei hun sydd i ddod ag offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD; y mae i ddod �'r braster yn ogystal �'r frest, ac i chwifio'r frest yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD.
30親手把獻給耶和華的火祭帶來,就是把脂肪連胸帶來,在耶和華面前搖一搖,作為搖祭。
31 Bydd yr offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor, ond bydd y frest yn eiddo i Aaron a'i feibion.
31祭司要把脂肪焚燒在祭壇上,胸歸給亞倫和他的子孫。
32 Rhoddwch glun dde eich heddoffrwm yn gyfraniad i'r offeiriad.
32你們要從平安祭牲中,拿右後腿來作舉祭,奉給祭司。
33 Y sawl o feibion Aaron a fydd yn cyflwyno gwaed yr heddoffrwm a'r braster fydd yn cael y glun dde yn gyfran.
33亞倫的子孫中,誰獻平安祭牲的血和脂肪,右後腿就歸給他,是他的分。
34 Oherwydd cymerais frest yr offrwm cyhwfan a chlun y cyfraniad o heddoffrwm pobl Israel, a'u rhoi i Aaron yr offeiriad a'i feibion yn gyfran reolaidd gan blant Israel.
34因為我從以色列人的平安祭中,取出了這搖祭的胸和舉祭的後腿,給亞倫祭司和他的子孫,成為以色列人中永遠的律例。
35 "'Dyma'r gyfran o'r offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD a neilltuwyd i Aaron a'i feibion y diwrnod y cyflwynwyd hwy yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.
35“這是亞倫和他子孫,從奉獻他們作耶和華的祭司那日開始,受膏立應得的分。
36 Y diwrnod y cysegrwyd hwy gorchmynnodd yr ARGLWYDD i bobl Israel roi iddynt gyfran reolaidd dros eu cenedlaethau.
36就是耶和華膏立他們的時候,命令以色列人給他們的。這是世世代代永遠的律例。”
37 "'Dyma felly ddeddf y poethoffrwm, y bwydoffrwm, yr aberth dros bechod, yr offrwm dros gamwedd, offrwm yr ordeiniad a'r heddoffrwm,
37結語以上關於燔祭、素祭、贖罪祭、贖愆祭、承受聖職祭和平安祭的律例,
38 a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ym Mynydd Sinai y dydd y gorchmynnodd i bobl Israel gyflwyno'u hoffrymau i'r ARGLWYDD yn anialwch Sinai.'"
38都是耶和華在西奈山吩咐摩西的,就是他在西奈的曠野吩咐以色列人,把他們的供物獻給耶和華的時候所說的。