1 1 Michtam. I Ddafydd.0 Cadw fi, O Dduw, oherwydd llochesaf ynot ti.
1大衛的金詩。 神啊!求你保守我,因為我投靠你。(本節在《馬索拉抄本》包括細字標題)
2 Dywedais wrth yr ARGLWYDD, "Ti yw f'arglwydd, nid oes imi ddaioni ond ynot ti."
2我(“我”有古抄本作“你”)曾對耶和華說:“你是我的主,我的好處不在你以外。”
3 Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad, melltith ar bob un sy'n ymhyfrydu ynddynt.
3至於世上的聖民,他們都是尊貴榮美的人,全是我所喜愛的。
4 Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill; ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm, na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.
4追求別神的,他們的愁苦必定加多。他們所奠的血祭,我不祭奠;我的嘴唇也不提別神的名。
5 Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan, ti sy'n diogelu fy rhan;
5耶和華是我的產業,是我杯中的分;我所得的業分,你親自為我持守。
6 syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol, ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.
6準繩量給我的是佳美之地,我的產業實在令我喜悅。
7 Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi; yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi.
7我要稱頌那指導我的耶和華,我的心在夜間也勸戒我。
8 Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad; am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.
8我常常把耶和華擺在我面前,因他在我右邊,我必不會動搖。
9 Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f'ysbryd, a chaiff fy nghnawd fyw'n ddiogel;
9為此我的心快樂,我的靈(“靈”或譯:“榮耀”或“肝”;與30:12,57:8,108:1同)歡欣,我的肉身也必安然居住。
10 oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid i Sheol, ac ni chaiff yr un teyrngar i ti weld Pwll Distryw.
10因為你必不把我的靈魂撇在陰間,也必不容你的聖者見朽壞。
11 Dangosi i mi lwybr bywyd; yn dy bresenoldeb di y mae digonedd o lawenydd, ac yn dy ddeheulaw fwyniant bythol.
11你必把生命的路指示我,在你面前有滿足的喜樂,在你的右手中有永遠的福樂。