Welsh

聖經新譯本

Revelation

21

1 Yna gwelais nef newydd a daear newydd; oherwydd yr oedd y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf wedi mynd heibio, ac nid oedd m�r mwyach.
1新天新地我又看見一個新天新地,因為先前的天地都過去了,海也再沒有了。
2 A gwelais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn disgyn o'r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharatoi fel priodferch wedi ei thec�u i'w gu373?r.
2我又看見聖城,新耶路撒冷,從天上由 神那裡降下來,預備好了,好像打扮整齊等候丈夫的新娘。
3 Clywais lais uchel o'r orsedd yn dweud, "Wele, y mae preswylfa Duw gyda'r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt.
3我聽見有大聲音從寶座那裡發出來,說:“看哪! 神的帳幕在人間,他要與人同住,他們要作他的子民。 神要親自與他們同在,要作他們的 神。
4 Fe sych bob deigryn o'u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae'r pethau cyntaf wedi mynd heibio."
4他要抹去他們的一切眼淚,不再有死亡,也不再有悲哀、哭號、痛苦,因為先前的事都過去了。”
5 Yna dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd, "Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd." Dywedodd hefyd, "Ysgrifenna, oherwydd dyma eiriau ffyddlon a gwir."
5坐在寶座上的那一位說:“看哪,我把一切都更新了!”又說:“你要寫下來,因為這些話是可信的、真實的。”
6 A dywedodd wrthyf, "Y mae'r cwbl ar ben! Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd. Rhoddaf fi i'r sychedig ddiod yn rhodd o ffynnon du373?r y bywyd.
6他又對我說:“成了!我是阿拉法,是俄梅格;我是創始的,也是成終的。我要把生命的泉水,白白賜給口渴的人喝。
7 Caiff y rhai sy'n gorchfygu etifeddu'r pethau hyn; byddaf yn Dduw iddynt, a byddant hwythau'n blant i mi.
7得勝的,必要承受這些福分。我要作他的 神,他要作我的兒子。
8 Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan d�n a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth."
8只是那些膽怯的、不信的、可憎的、殺人的、淫亂的、行邪術的、拜偶像的和所有說謊的人,他們的分是在燒著硫磺的火湖裡。這就是第二次的死。”
9 Daeth un o'r saith angel oedd �'r saith ffiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diwethaf, a siaradodd � mi. "Tyrd," meddai, "dangosaf iti'r briodferch, gwraig yr Oen."
9新耶路撒冷拿著七個盛滿著末後七災的碗的七位天使中,有一位走來對我說:“你來!我要把新娘,就是羊羔的妻子,指示你。”
10 Ac aeth � mi ymaith yn yr Ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi'r ddinas sanctaidd, Jerwsalem, yn disgyn o'r nef oddi wrth Dduw,
10我在靈裡被那天使帶到一座高大的山上,他把從天上由 神那裡降下來的聖城耶路撒冷指示我。
11 a gogoniant Duw ganddi. Yr oedd ei llewyrch fel llewyrch gem dra gwerthfawr, fel maen iasbis, yn disgleirio fel grisial.
11這城有 神的榮耀,城的光輝好像極貴的寶石,又像晶瑩的碧玉。
12 Yr oedd iddi fur mawr ac uchel a deuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau deuddeg llwyth plant Israel yn ysgrifenedig ar y pyrth.
12有高大的城牆,有十二個門,門口有十二位天使,門上寫著以色列十二支派的名字。
13 Yr oedd tri phorth o du'r dwyrain, tri o du'r gogledd, tri o du'r de, a thri o du'r gorllewin.
13東邊有三個門,南邊有三個門,西邊有三個門,北邊有三個門。
14 I fur y ddinas yr oedd deuddeg carreg sylfaen, ac arnynt enwau deuddeg apostol yr Oen.
14城牆有十二座根基,根基上有羊羔的十二使徒的名字。
15 Yr oedd gan yr angel oedd yn siarad � mi ffon fesur o aur, i fesur y ddinas a'i phyrth a'i mur.
15那對我說話的天使拿著一根金的蘆葦,要量那城、城門和城牆。
16 Yr oedd y ddinas wedi ei llunio'n betryal, ei hyd yn gyfartal �'i lled. Mesurodd ef y ddinas �'r ffon. Yr oedd yn ddwy fil, dau gant ac ugain o gilomedrau, a'i hyd a'i lled a'i huchder yn gyfartal.
16城是四方的,長寬都一樣。天使用蘆葦量那城,共有二千四百公里(“二千四百公里”原文作“一萬二千司他町”),城的長、寬、高都一樣;
17 A mesurodd ei mur. Yr oedd yn gant pedwar deg a phedwar cufydd, yn �l y mesur dynol yr oedd yr angel yn mesur wrtho.
17又量了城牆,約有六十公尺(“六十公尺”原文作“一百四十四肘”)。天使用的標準,就是人量度的標準。
18 Iasbis oedd defnydd y mur, a'r ddinas ei hun yn aur pur, gloyw fel gwydr.
18城牆是用碧玉做的,城是用明淨像玻璃的純金做的。
19 Yr oedd sylfeini mur y ddinas wedi eu haddurno � phob math o emau gwerthfawr: iasbis oedd y garreg sylfaen gyntaf, saffir yr ail, chalcedon y drydedd, emrallt y bedwaredd,
19城牆的根基是用各樣寶石裝飾的:第一座根基是碧玉,第二座是藍寶石,第三座是瑪瑙,第四座是綠寶石,
20 sardonyx y bumed, sardion y chweched, eurfaen y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, chrysoprasos y ddegfed, hyacinth yr unfed ar ddeg, amethyst y ddeuddegfed.
20第五座是紅瑪瑙,第六座是紅寶石,第七座是黃璧璽,第八座是水蒼玉,第九座是紅璧璽,第十座是翡翠,第十一座是紫瑪瑙,第十二座是紫晶。
21 A deuddeg perl oedd y deuddeg porth; pob porth wedi ei wneud o un perl. Ac yr oedd heol y ddinas yn aur pur, fel gwydr tryloyw.
21十二個門是十二顆珍珠,每一個門是用一顆珍珠做的。城裡的街道是純金的,好像透明的玻璃。
22 A theml ni welais ynddi, oherwydd ei theml hi yw'r Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, a'r Oen.
22我沒有看見城裡有聖所,因為主全能的 神和羊羔就是城的聖所。
23 Nid oes ar y ddinas angen na'r haul na'r lleuad i dywynnu arni, oherwydd gogoniant Duw sy'n ei goleuo, a'i lamp hi yw'r Oen.
23這城不需要日月照明,因為有 神的榮耀照明,而羊羔就是城的燈。
24 A bydd y cenhedloedd yn rhodio yn ei goleuni hi, a brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant i mewn iddi.
24列國要藉著城的光行走,地上的眾王要把他們的榮華帶到這城來。
25 Byth ni chaeir ei phyrth y dydd, ac ni bydd nos yno.
25城門白天決不關閉。在那裡並沒有黑夜。
26 A byddant yn dwyn i mewn iddi ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd.
26列國的榮華尊貴都被帶到這城。
27 Ni chaiff dim halogedig, na neb sy'n ymddwyn yn ffiaidd neu'n gelwyddog, fynd i mewn iddi hi, neb ond y rhai sydd �'u henwau'n ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen.
27所有不潔淨的、行可憎的和說謊的,決不可以進入這城。只有名字記在羊羔生命冊上的才可以進去。