1 O na fyddit yn frawd i mi, wedi dy fagu ar fronnau fy mam! Yna pan welwn di yn y stryd byddwn yn dy gusanu, ac ni fyddai neb yn fy nirmygu.
1
2 Byddwn yn dy arwain a'th ddwyn i du375? fy mam a'm hyfforddodd, a rhoi gwin llysiau yn ddiod iti, sudd fy mhomgranadau.
2
3 Yna byddai ei fraich chwith o dan fy mhen, a'i fraich dde yn fy nghofleidio.
3
4 Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch. Peidiwch � deffro na tharfu fy nghariad nes y bydd yn barod.
4
5 Pwy yw hon sy'n dod i fyny o'r anialwch, yn pwyso ar ei chariad? Deffroais di dan y pren afalau, lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi, lle bu'r un a esgorodd arnat mewn gwewyr.
5
6 Gosod fi fel s�l ar dy galon, fel s�l ar dy fraich; oherwydd y mae cariad mor gryf � marwolaeth, a nwyd mor greulon �'r bedd; y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd, fel fflam angerddol.
6
7 Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad, ac ni all afonydd ei foddi. Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei du375? am gariad, byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr.
7
8 Y mae gennym chwaer fach sydd heb fagu bronnau. Beth a wnawn i'n chwaer pan ofynnir amdani?
8
9 Os mur yw hi, byddwn yn adeiladu caer arian arno; os drws, byddwn yn ei gau ag astell gedrwydd.
9
10 Mur wyf fi, a'm bronnau fel tyrau; yn ei olwg ef yr wyf fel un yn rhoi boddhad.
10
11 Yr oedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon; pan osododd ei winllan yng ngofal gwylwyr, yr oedd pob un i roi mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.
11
12 Ond y mae fy ngwinllan i yn eiddo i mi fy hun; fe gei di, Solomon, y mil o ddarnau arian, a chaiff y rhai sy'n gwylio'i ffrwyth ddau gant.
12
13 Ti sy'n eistedd yn yr ardd, a chyfeillion yn gwrando ar dy lais, gad i mi dy glywed.
13
14 Brysia allan, fy nghariad, a bydd yn debyg i afrewig, neu'r hydd ifanc ar fynyddoedd y perlysiau.
14