Welsh

聖經新譯本 (Simplified)

1 Corinthians

4

1 Bydded i bob un ein cyfrif ni fel gweision Crist a goruchwylwyr dirgelion Duw.
1基督的使徒遭人轻视
2 Yn awr, yr hyn a ddisgwylir mewn goruchwylwyr yw eu cael yn ffyddlon.
2对于管家的要求,就是要他忠心。
3 O'm rhan fy hun, peth bach iawn yw cael fy ngosod ar brawf gennych chwi, neu gan unrhyw lys dynol. Yn wir, nid wyf yn eistedd mewn barn arnaf fy hun.
3我被你们论断,或被人间法庭审判,我都认为是极小的事,连我自己也不论断自己。
4 Nid oes gennyf ddim ar fy nghydwybod, ond nid wyf drwy hynny wedi fy nghael yn ddieuog. Yr Arglwydd yw fy marnwr i.
4我虽然问心无愧,却不能因此自以为义,因为判断我的是主。
5 Felly peidiwch � barnu dim cyn yr amser, nes i'r Arglwydd ddod; bydd ef yn goleuo pethau cudd y tywyllwch ac yn gwneud bwriadau'r galon yn amlwg. Ac yna caiff pob un ei glod gan Dduw.
5所以时候还没有到,你们不要批评,直等到主来;他要照出黑暗中的隐情,显明人心里的动机。那时,各人要从 神那里得着称赞。
6 Yr wyf wedi cymhwyso'r pethau hyn, gyfeillion, ataf fi fy hun ac at Apolos er eich mwyn chwi, ichwi ddysgu, drwom ni, "gadw o fewn yr hyn a ysgrifennwyd", rhag i neb ohonoch ymchwyddo wrth bleidio un a gwrthod y llall.
6弟兄们,我为你们的缘故,拿了这些事来比拟自己和亚波罗,让你们在我们身上学到的,不会超过圣经所记的,免得你们中间有人自高自大,看重这个轻视那个。
7 Pwy sy'n rhoi rhagoriaeth i ti? Beth sydd gennyt, nad wyt wedi ei dderbyn? Ac os ei dderbyn a wnaethost, pam yr wyt yn ymffrostio fel pe bait heb dderbyn?
7使你与人不同的是谁呢?你有什么不是领受的呢?既然是领受的,为什么要自夸,好像不是领受的呢?
8 Dyma chwi eisoes wedi cael eich gwala; eisoes wedi dod yn gyfoethog; wedi etifeddu eich teyrnas, a hynny hebom ni! Gwyn fyd na fyddech wedi etifeddu eich teyrnas mewn gwirionedd, er mwyn i ninnau hefyd gael teyrnasu gyda chwi!
8你们已经满足了,已经丰富了,不需要我们,自己作王了。我恨不得你们真的作了王,让我们也可以跟你们一同作王!
9 Oherwydd yr wyf yn tybio bod Duw wedi rhoi i ni'r apostolion y lle olaf, fel rhai wedi eu condemnio i farw yn yr arena, gan ein bod wedi dod yn sioe i'r cyfanfyd, i angylion ac i feidrolion.
9我想 神是把我们作使徒的列在最后,好像定了死刑的人,因为我们成了一台戏给宇宙观看,就是给天使和世人观看!
10 Ni yn ffyliaid er mwyn Crist, chwithau'n rhai call yng Nghrist! Ni yn wan, chwithau'n gryf! Chwi'n llawn anrhydedd, ninnau heb ddim parch!
10我们为基督的缘故,成了愚笨的;你们在基督里,倒成了聪明的。我们软弱,你们倒强壮;你们受人尊敬,我们倒被轻视。
11 Hyd yr awr hon y mae arnom newyn a syched, yr ydym yn noeth, yn cael ein cernodio, yn ddigartref,
11直到现在,我们还是又饥又渴,衣不蔽体,又挨打,又没有栖身的地方,
12 yn blino gan lafur ein dwylo ein hunain. Ein hateb i'r difenwi sydd arnom yw bendithio; i'r erlid, goddef;
12并且劳苦,亲手作工。被人咒骂,我们就祝福;遭受迫害,我们就忍受;
13 i'r enllib, geiriau caredig. Fe'n gwnaethpwyd yn garthion y byd, yn olchion pawb, hyd yn awr.
13被人毁谤,我们却好好地劝导;直到现在,人还是把我们当作世上的垃圾,万物的渣滓。
14 Nid i godi cywilydd arnoch yr wyf yn ysgrifennu hyn, ond i'ch rhybuddio, fel plant annwyl i mi.
14我写这些话,不是要叫你们羞愧,而是把你们当作我亲爱的儿女一样劝戒你们。
15 Pe byddai gennych ddeng mil o hyfforddwyr yng Nghrist, eto ni fyddai gennych fwy nag un tad, oherwydd yng Nghrist Iesu myfi a ddeuthum yn dad i chwi drwy'r Efengyl.
15纵然你们在基督里有上万的启蒙教师,可是父亲却不多,因为是我在基督耶稣里借着福音生了你们。
16 Am hynny yr wyf yn erfyn arnoch, byddwch efelychwyr ohonof fi.
16所以我劝你们要效法我。
17 Dyma pam yr anfonais Timotheus atoch; y mae ef yn fab annwyl i mi, ac yn ffyddlon yn yr Arglwydd, a bydd yn dwyn ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist Iesu, fel y byddaf yn eu dysgu ym mhobman, ym mhob eglwys.
17因此,我打发提摩太到你们那里去。他是我在主里亲爱又忠心的儿子,他要提醒你们我在基督里是怎样行事为人,正如我在各处教会中所教导的一样。
18 Y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe na bawn i am ddod atoch.
18有人以为我不会到你们那里去,就自高自大。
19 Ond yr wyf am ddod atoch ar fyrder, os caniat�'r Arglwydd, a chaf wybod, nid am siarad y rhai sydd wedi ymchwyddo, ond am eu gallu.
19然而主若愿意,我很快就要到你们那里去;到时我要知道的,不是那些自高自大的人所讲的,而是他们的能力。
20 Oherwydd nid mewn siarad y mae teyrnas Dduw, ond mewn gallu.
20因为 神的国不在乎言语,而在乎权能。
21 Beth yw eich dewis? Ai � gwialen yr wyf i ddod atoch, ynteu � chariad, ac ysbryd addfwynder?
21你们愿意怎么样呢?要我带着刑杖到你们那里去,还是以温柔的灵,带着爱心去呢?