Welsh

聖經新譯本 (Simplified)

1 John

4

1 Gyfeillion annwyl, peidiwch � chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw, oherwydd y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i'r byd.
1怎样认出 神的灵
2 Dyma sut yr ydych yn adnabod Ysbryd Duw: pob ysbryd sy'n cyffesu bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd, o Dduw y mae,
2你们可以这样认出 神的灵:凡是承认耶稣基督是成了肉身来的,那灵就是出于 神。
3 a phob ysbryd nad yw'n cyffesu Iesu, nid yw o Dduw. Ysbryd yr Anghrist yw hwn; clywsoch ei fod yn dod, ac yn awr y mae eisoes yn y byd.
3凡是不承认耶稣基督是成了肉身来的,那灵就不是出于 神,而是敌基督者的灵;你们听过他要来,现在他已经在世上了。
4 Blant, yr ydych chwi o Dduw, ac yr ydych wedi eu gorchfygu hwy; oherwydd y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd.
4孩子们,你们是属于 神的,并且已经胜过他们,因为那在你们里面的比那在世上的更大。
5 I'r byd y maent hwy'n perthyn, ac o'r byd, felly, y daw'r hyn y maent yn ei ddweud; ac y mae'r byd yn gwrando arnynt hwy.
5他们是属于世界的,因此讲论属世的事,世界也就听从他们。
6 O Dduw yr ydym ni; y mae'r hwn sy'n adnabod Duw yn gwrando arnom ni, a'r hwn nad yw o Dduw, nid yw'n gwrando arnom ni. Dyma sut yr ydym yn adnabod ysbryd y gwirionedd ac ysbryd cyfeiliornad.
6我们是属于 神的,认识 神的就听从我们,不属于 神的就不听从我们。这样,我们就可以辨别真理的灵和谬妄的灵了。
7 Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw.
7 神是爱亲爱的,我们应当彼此相爱,因为爱是从 神那里来的。凡是爱人的,都是从 神生的,并且认识 神。
8 Y sawl nad yw'n caru, nid yw'n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw.
8不爱人的,就不认识 神,因为 神就是爱。
9 Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom: bod Duw wedi anfon ei unig Fab i'r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef.
9 神差遣他的独生子到世上来,要使我们借着他而活; 神的爱就在我们中间显明了。
10 Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni'n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau.
10不是我们爱 神,而是 神爱我们,差遣他的儿子为我们的罪作了赎罪祭,这就是爱了。
11 Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd.
11亲爱的, 神既然这样爱我们,我们也应当彼此相爱。
12 Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni.
12从来没有人见过 神,我们若彼此相爱, 神就住在我们里面,他的爱也在我们里面得到成全了。
13 Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn aros ynddo ef, ac ef ynom ninnau: am iddo ef roi inni o'i Ysbryd.
13 神把他的灵赐给我们,我们就知道我们是住在他里面,他也住在我们里面。
14 Yr ydym ni wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu bod y Tad wedi anfon ei Fab yn Waredwr y byd.
14父差遣子作世人的救主,这是我们见过的,并且现在作见证。
15 Pwy bynnag sy'n cyffesu mai Iesu yw Mab Duw, y mae Duw yn aros ynddo, ac yntau yn Nuw.
15凡承认耶稣是 神的儿子的, 神就住在他里面,他也住在 神里面。
16 Felly yr ydym ni wedi dod i adnabod a chredu'r cariad sydd gan Dduw tuag atom. Cariad yw Duw, ac y mae'r sawl sy'n aros mewn cariad yn aros yn Nuw, a Duw yn aros ynddo yntau.
16 神对我们的爱,我们已经明白了,而且相信了。 神就是爱;住在爱里面的,就住在 神里面, 神也住在他里面。
17 Yn hyn y mae cariad wedi cael ei berffeithio ynom: bod gennym hyder yn Nydd y Farn, oherwydd fel y mae ef, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.
17这样,爱在我们里面就得到成全,使我们在审判的日子,可以坦然无惧。因为他怎样,我们在这世上也怎样。
18 Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn; y mae a wnelo ofn � chosb, ac nid yw'r sawl sy'n ofni wedi ei berffeithio mewn cariad.
18爱里没有惧怕,完全的爱可以把惧怕驱除,因为惧怕含有刑罚,惧怕的人在爱里还没有完全。
19 Yr ydym ni'n caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.
19我们爱,因为 神先爱我们。
20 Os dywed rhywun, "Rwy'n caru Duw", ac yntau'n cas�u ei gydaelod, y mae'n gelwyddog; oherwydd ni all neb nad yw'n caru cydaelod y mae wedi ei weld, garu Duw nad yw wedi ei weld.
20人若说“我爱 神”,却恨他的弟兄,就是说谎的。不爱看得见的弟兄,就不能爱看不见的 神。
21 A dyma'r gorchymyn sydd gennym oddi wrtho ef: bod i'r sawl sy'n caru Duw garu ei gydaelod hefyd.
21爱 神的,也应当爱弟兄,这就是我们从 神领受的命令。