1 Pan fu farw Abeia, a'i gladdu yn Ninas Dafydd, daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le. Yn ystod ei deyrnasiad ef cafodd y wlad lonydd am ddeng mlynedd.
1亚撒作犹大王(王上15:8-12)
2 Gwnaeth Asa yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw.
2亚撒行耶和华他的 神看为善为正的事。(本节在《马索拉抄本》为14:1)
3 Symudodd ymaith allorau'r duwiau dieithr a'r uchelfeydd, a dryllio'r colofnau a chwalu delwau Asera.
3他除掉外族人的祭坛和邱坛,打断神柱,砍下亚舍拉,
4 Anogodd Jwda i geisio ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid a chadw'r gyfraith a'r gorchmynion,
4吩咐犹大人寻求耶和华他们列祖的 神,遵行他的律法和诫命。
5 ac fe symudodd ymaith o holl ddinasoedd Jwda yr uchelfeydd a'r allorau. Cafodd y deyrnas lonydd yn ei oes ef.
5他又在犹大各城中,除掉邱坛和香坛。那时全国在他的统治下享受太平。
6 Adeiladodd ddinasoedd caerog yn Jwda tra oedd y wlad yn cael llonydd, ac ni fu rhyfel yn ei erbyn yn ystod y blynyddoedd hynny am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo.
6他又在犹大建造了几座设防城,因为国中太平,多年没有战争,耶和华使他享受安宁。
7 Dywedodd wrth Jwda, "Gadewch i ni adeiladu'r dinasoedd hyn a'u hamgylchu � muriau gyda thyrau, a dorau a barrau. Y mae'r wlad yn dal yn agored o'n blaen am i ni geisio'r ARGLWYDD ein Duw. Yr ydym ni wedi ei geisio ef, ac y mae yntau wedi rhoi heddwch i ni oddi amgylch." Felly, adeiladodd y bobl a llwyddo.
7他对犹大人说:“我们要建造这些城,在四周筑墙,建造城楼,安设城门,制作门闩。这地还属于我们,是因为我们寻求耶和华我们的 神;我们既然寻求他,他就使我们四境平安。”于是他们兴工建造,事事顺利。
8 Yr oedd gan Asa fyddin o dri chan mil o wu375?r Jwda yn dwyn tarian a gwaywffon, a dau gant a phedwar ugain mil o wu375?r Benjamin yn dwyn tarian a thynnu bwa; yr oeddent oll yn wroniaid.
8亚撒的军队,拿大盾牌和矛枪的犹大人,共有三十万;拿小盾牌和拉弓的便雅悯人,共有二十八万;他们都是英勇的战士。
9 Daeth Sera yr Ethiopiad yn eu herbyn gyda byddin o filiwn, a thri chant o gerbydau.
9亚撒战胜古实人谢拉那时有古实人谢拉率领一百万军队,战车三百辆,前来攻打犹大人;他来到了玛利沙。
10 Pan gyrhaeddodd Maresa, daeth Asa allan yn ei erbyn, a pharatoesant i ymladd yn nyffryn Seffatha, yn ymyl Maresa.
10于是亚撒出去迎战;他们就在玛利沙的洗法谷列阵相对。
11 Galwodd Asa ar yr ARGLWYDD ei Dduw a dweud, "O ARGLWYDD, nid oes neb fel ti i gynorthwyo'r gwan yn erbyn y cryf; cynorthwya ni, O ARGLWYDD ein Duw, oherwydd yr ydym yn ymddiried ynot, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dyrfa hon. O ARGLWYDD, ein Duw ni wyt ti; na fydded i neb gystadlu � thi."
11亚撒呼求耶和华他的 神说:“耶和华啊,强弱悬殊,除你以外没有别的帮助。耶和华我们的 神啊,求你帮助我们。因为我们倚靠你,奉你的名去对抗这大军。耶和华啊,你是我们的 神,不要让人胜过你。”
12 Felly, gorchfygodd yr ARGLWYDD yr Ethiopiaid o flaen Asa a Jwda. Fe ffoesant,
12于是耶和华在亚撒和犹大人面前,使古实人大败,古实人就逃跑。
13 gydag Asa a'i fyddin yn eu herlid, hyd at Gerar, lle syrthiodd cymaint ohonynt o flaen yr ARGLWYDD a'i fyddin fel na allent adennill eu nerth.
13亚撒和跟随他的人民追赶他们,直到基拉耳;古实人被杀的很多,不能恢复强盛;因为他们在耶和华和他的军队面前被击溃了;犹大人夺取了极多战利品。
14 Casglodd gwu375?r Jwda anrhaith mawr iawn, a choncro'r holl ddinasoedd o gwmpas Gerar, am fod ofn yr ARGLWYDD arnynt. Anrheithiasant yr holl ddinasoedd am fod ysbail mawr iawn ynddynt.
14他们又攻击基拉耳周围的一切城市,因为各城的人都惧怕耶和华。犹大人又把各城洗掠一空,因为城中的财物甚多。
15 Ymosodasant hefyd ar gorlannau'r anifeiliaid a chario ymaith lawer o ddefaid a chamelod, ac yna dychwelyd i Jerwsalem.
15他们又毁坏了牲畜的棚,牵走了很多的羊和骆驼,然后回耶路撒冷去了。