Welsh

聖經新譯本 (Simplified)

James

1

1 Iago, gwas Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, cyfarchion.
1以试炼为喜乐
2 Fy nghyfeillion, cyfrifwch hi'n llawenydd pur pan syrthiwch i amrywiol brofedigaethau,
2我的弟兄们,你们遭遇各种试炼的时候,都要看为喜乐;
3 gan wybod fod y prawf ar eich ffydd yn magu dyfalbarhad.
3因为知道你们的信心经过考验,就产生忍耐。
4 A gadewch i ddyfalbarhad gyflawni ei waith, er mwyn ichwi fod yn berffaith a chyflawn, heb fod yn ddiffygiol mewn dim.
4但忍耐要坚持到底(“坚持到底”原文作“有完全的功效”),使你们可以完全,毫无缺乏。
5 Ac os oes un ohonoch yn ddiffygiol mewn doethineb, gofynned gan Dduw, ac fe'i rhoddir iddo, oherwydd y mae Duw yn rhoi i bawb yn hael a heb ddannod.
5你们中间若有人缺少智慧,就当向那厚赐众人,而且不斥责人的 神祈求,他就必得着。
6 Ond gofynned mewn ffydd, heb amau, gan fod y sawl sy'n amau yn debyg i don y m�r, sy'n cael ei chwythu a'i chwalu gan y gwynt.
6可是,他应该凭着信心祈求,不要有疑惑;因为疑惑的人,就像被风吹荡翻腾的海浪。
7 Nid yw hwnnw � ac yntau rhwng dau feddwl, yn ansicr yn ei holl ffyrdd � i dybio y caiff ddim gan yr Arglwydd.
7那样的人,不要想从主得到什么;
8 {cf2 (1:7)}
8因为三心两意的人,在他的一切道路上,都摇摆不定。
9 Dylai'r credadun distadl ymfalch�o pan ddyrchefir ef,
9富贵荣华转眼消逝卑微的弟兄应当以高升为荣;
10 ond yr un cyfoethog ymfalch�o pan ddarostyngir ef, oherwydd diflannu a wna hwnnw fel blodeuyn y maes.
10富足的也不应该以降卑为辱;因为他如同草上的花,必要过去。
11 Bydd yr haul yn codi yn ei wres tanbaid, a bydd y glaswellt yn crino, ei flodeuyn yn syrthio, a thlysni ei wedd yn darfod. Felly hefyd y diflanna'r cyfoethog yng nghanol ei holl fynd a dod.
11太阳一出,热风一吹,草必枯干,花必凋谢,它的美容就消失了;富足的人也必在他的奔波经营中这样衰落。
12 Gwyn ei fyd y sawl sy'n dal ei dir mewn temtasiwn, oherwydd ar �l iddo fynd trwy'r prawf fe gaiff, yn goron, y bywyd a addawodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn ei garu ef.
12忍受试炼的人有福了能忍受试炼的人,是有福的;因为他经过考验之后,必得着生命的冠冕,这冠冕是主应许给爱他的人的。
13 Ni ddylai neb sy'n cael ei demtio ddweud, "Oddi wrth Dduw y daw fy nhemtasiwn"; oherwydd ni ellir temtio Duw gan ddrygioni, ac nid yw ef ei hun yn temtio neb.
13人被试探,不可说“我被 神试探”;因为 神不能被恶试探,他也不试探任何人。
14 Yn wir, pan yw rhywun yn cael ei demtio, ei chwant ei hun sydd yn ei dynnu ar gyfeiliorn ac yn ei hudo.
14每一个人受试探,都是被自己的私欲所勾引诱惑的。
15 Yna, y mae chwant yn beichiogi ac yn esgor ar bechod, ac y mae pechod, ar �l cyrraedd ei lawn dwf, yn cenhedlu marwolaeth.
15私欲怀了胎,就生出罪;罪长成了,就产生死亡。
16 Peidiwch � chymryd eich camarwain, fy nghyfeillion annwyl.
16我亲爱的弟兄们,不要看错了。
17 Oddi uchod y daw pob rhoi da a phob rhodd berffaith. Disgyn y maent oddi wrth Dad goleuadau'r nef; ac iddo ef ni pherthyn na chyfnewid na chysgod troadau'r rhod.
17各样美好的赏赐,各样完备的恩赐,都是从上面、从众光之父降下来的,他本身并没有改变,也没有转动的影子。
18 O'i fwriad ei hun y cenhedlodd ef ni trwy air y gwirionedd, er mwyn inni fod yn fath o flaenffrwyth o'i greaduriaid.
18他凭着自己的旨意,借着真理的道生了我们,使我们作他所造的万物中初熟的果子。
19 Ystyriwch, fy nghyfeillion annwyl. Rhaid i bob un fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru, ac yn araf i ddigio,
19要作行道的人我亲爱的弟兄们,你们要知道,人人都应该快快地听,慢慢地说,慢一点动怒;
20 oherwydd nid yw dicter dynol yn hyrwyddo cyfiawnder Duw.
20因为人的忿怒并不能成全 神的义。
21 Ymaith gan hynny � phob aflendid, ac ymaith �'r drygioni sydd ar gynnydd, a derbyniwch yn wylaidd y gair hwnnw a blannwyd ynoch, ac sy'n abl i achub eich eneidiau.
21所以你们应当摆脱一切污秽和所有的邪恶,以温柔的心领受 神栽种的道;这道能救你们的灵魂。
22 Byddwch yn weithredwyr y gair, nid yn wrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.
22你们应该作行道的人,不要单作听道的人,自己欺骗自己;
23 Oherwydd os yw rhywun yn wrandawr y gair, ac nid yn weithredwr, y mae'n debyg i un yn gweld mewn drych yr wyneb a gafodd;
23因为人若只作听道的人,不作行道的人,他就像一个人对着镜子看自己本来的面貌,
24 fe'i gwelodd ei hun, ac yna, wedi iddo fynd i ffwrdd, anghofiodd ar unwaith pa fath un ydoedd.
24看过走开以后,马上就忘记自己的样子。
25 Ond am y sawl a roes sylw dyfal i berffaith gyfraith rhyddid ac a ddaliodd ati, a dod yn weithredwr ei gofynion, ac nid yn wrandawr anghofus, bydd hwnnw yn ddedwydd yn ei weithredoedd.
25唯有详细察看那使人自由的全备的律法,并且时常遵守的人,他不是听了就忘记,而是实行出来,就必因自己所作的蒙福。
26 Os yw rhywun yn tybio ei fod yn grefyddol, ac yntau'n methu ffrwyno'i dafod, ac yn wir yn twyllo'i galon ei hun, yna ofer yw crefydd hwnnw.
26如果有人自以为虔诚,却不约束他的舌头,反而自己欺骗自己,这人的虔诚是没有用的。
27 Dyma'r grefydd sy'n bur a dilychwin yng ngolwg Duw ein Tad: bod rhywun yn gofalu am yr amddifad a'r gweddwon yn eu cyfyngder, ac yn ei gadw ei hun heb ei ddifwyno gan y byd.
27在父 神看来,纯洁无玷污的虔诚,就是照顾患难中的孤儿寡妇,并且保守自己不被世俗所污染。