Welsh

King James Version

1 Samuel

13

1 Yr oedd Saul yn ddeg ar hugain oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin ar Israel am ddeugain mlynedd.
1Saul reigned one year; and when he had reigned two years over Israel,
2 Dewisodd Saul dair mil o Israeliaid; yr oedd dwy fil gydag ef yn Michmas ac ucheldir Bethel, a mil gyda Jonathan yn Gibea Benjamin; anfonodd weddill y bobl adref.
2Saul chose him three thousand men of Israel; whereof two thousand were with Saul in Michmash and in mount Bethel, and a thousand were with Jonathan in Gibeah of Benjamin: and the rest of the people he sent every man to his tent.
3 Lladdodd Jonathan lywodraethwr y Philistiaid oedd yn Geba, a chlywodd y Philistiaid fod Saul wedi galw'r holl wlad i ryfel a bod yr Hebreaid mewn gwrthryfel.
3And Jonathan smote the garrison of the Philistines that was in Geba, and the Philistines heard of it. And Saul blew the trumpet throughout all the land, saying, Let the Hebrews hear.
4 Pan glywodd Israel gyfan y si fod Saul wedi lladd llywodraethwr y Philistiaid, a bod Israel yn ddrewdod yn ffroenau'r Philistiaid, ymgasglodd y bobl at Saul i Gilgal.
4And all Israel heard say that Saul had smitten a garrison of the Philistines, and that Israel also was had in abomination with the Philistines. And the people were called together after Saul to Gilgal.
5 Yr oedd gan y Philistiaid a ddaeth i ryfela yn erbyn Israel ddeng mil ar hugain o gerbydau, chwe mil o farchogion, a byddin mor niferus �'r tywod ar lan y m�r; ac aethant i wersyllu yn Michmas y tu dwyrain i Beth-afen.
5And the Philistines gathered themselves together to fight with Israel, thirty thousand chariots, and six thousand horsemen, and people as the sand which is on the sea shore in multitude: and they came up, and pitched in Michmash, eastward from Bethaven.
6 Pan welodd yr Israeliaid ei bod yn gyfyng arnynt a bod y fyddin wedi ei llethu, aethant i guddio mewn ogofeydd ac agennau, ac yn y creigiau a'r cilfachau a'r tyllau.
6When the men of Israel saw that they were in a strait, (for the people were distressed,) then the people did hide themselves in caves, and in thickets, and in rocks, and in high places, and in pits.
7 Aeth rhai dros yr Iorddonen i dir Gad a Gilead, ond arhosodd Saul yn Gilgal, er bod yr holl bobl oedd yn ei ddilyn mewn braw.
7And some of the Hebrews went over Jordan to the land of Gad and Gilead. As for Saul, he was yet in Gilgal, and all the people followed him trembling.
8 Arhosodd am saith diwrnod yn �l y trefniant gyda Samuel, ond ni ddaeth Samuel i Gilgal, a dechreuodd y bobl adael Saul.
8And he tarried seven days, according to the set time that Samuel had appointed: but Samuel came not to Gilgal; and the people were scattered from him.
9 Dywedodd yntau, "Dygwch ataf y poethoffrwm a'r heddoffrymau." Ac offrymodd y poethoffrwm.
9And Saul said, Bring hither a burnt offering to me, and peace offerings. And he offered the burnt offering.
10 Fel yr oedd yn gorffen offrymu'r poethoffrwm, dyna Samuel yn cyrraedd, ac aeth Saul allan i'w gyfarfod a'i gyfarch.
10And it came to pass, that as soon as he had made an end of offering the burnt offering, behold, Samuel came; and Saul went out to meet him, that he might salute him.
11 Gofynnodd Samuel, "Beth wyt ti wedi ei wneud?" Atebodd Saul, "Gwelais fod y bobl yn fy ngadael, a'th fod dithau rai dyddiau heb ddod yn �l y trefniant, a bod y Philistiaid wedi ymgynnull yn Michmas,
11And Samuel said, What hast thou done? And Saul said, Because I saw that the people were scattered from me, and that thou camest not within the days appointed, and that the Philistines gathered themselves together at Michmash;
12 a dywedais, 'Yn awr fe ddaw'r Philistiaid i lawr arnaf i Gilgal, a minnau heb geisio ffafr yr ARGLWYDD.' Felly bu raid imi offrymu'r poethoffrwm."
12Therefore said I, The Philistines will come down now upon me to Gilgal, and I have not made supplication unto the LORD: I forced myself therefore, and offered a burnt offering.
13 Dywedodd Samuel wrth Saul, "Buost yn ff�l; pe byddit wedi cadw'r gorchymyn a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti, yn sicr byddai'r ARGLWYDD yn cadarnhau dy frenhiniaeth di ar Israel am byth.
13And Samuel said to Saul, Thou hast done foolishly: thou hast not kept the commandment of the LORD thy God, which he commanded thee: for now would the LORD have established thy kingdom upon Israel for ever.
14 Ond yn awr, ni fydd dy frenhiniaeth yn sefyll. Bydd yr ARGLWYDD yn ceisio gu373?r yn �l ei galon, a bydd yr ARGLWYDD yn ei osod ef yn arweinydd ar ei bobl, am nad wyt ti wedi cadw'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iti."
14But now thy kingdom shall not continue: the LORD hath sought him a man after his own heart, and the LORD hath commanded him to be captain over his people, because thou hast not kept that which the LORD commanded thee.
15 Cododd Samuel a mynd o Gilgal i'w ffordd ei hun, ond aeth gweddill y bobl i fyny ar �l Saul i gyfarfod y rhyfelwyr, a dod o Gilgal i Gibea Benjamin.
15And Samuel arose, and gat him up from Gilgal unto Gibeah of Benjamin. And Saul numbered the people that were present with him, about six hundred men.
16 Rhestrodd Saul y bobl oedd gydag ef, ryw chwe chant o wu375?r. Yr oedd Saul a'i fab Jonathan a'r gwu375?r oedd gyda hwy yn aros yn Gibea Benjamin, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Michmas.
16And Saul, and Jonathan his son, and the people that were present with them, abode in Gibeah of Benjamin: but the Philistines encamped in Michmash.
17 Yr oedd tri chwmni yn mynd allan o wersyll y Philistiaid i reibio; un yn troi i gyfeiriad Offra yn ardal Sual,
17And the spoilers came out of the camp of the Philistines in three companies: one company turned unto the way that leadeth to Ophrah, unto the land of Shual:
18 un arall i gyfeiriad Beth-horon, a'r trydydd i gyfeiriad y terfyn uwchben dyffryn Seboim tua'r diffeithwch.
18And another company turned the way to Bethhoron: and another company turned to the way of the border that looketh to the valley of Zeboim toward the wilderness.
19 Nid oedd gof i'w gael drwy holl wlad Israel, am fod y Philistiaid wedi dweud, "Rhag i'r Hebreaid wneud cleddyf neu waywffon."
19Now there was no smith found throughout all the land of Israel: for the Philistines said, Lest the Hebrews make them swords or spears:
20 Byddai pob Israeliad yn mynd at y Philistiaid i hogi ei swch a'i gaib a'i fwyell a'i gryman;
20But all the Israelites went down to the Philistines, to sharpen every man his share, and his coulter, and his axe, and his mattock.
21 a'r pris oedd deuparth sicl am swch neu gaib, a thraean sicl am hogi'r bwyeill ac am osod swmbwl.
21Yet they had a file for the mattocks, and for the coulters, and for the forks, and for the axes, and to sharpen the goads.
22 Felly, yn nydd rhyfel, nid oedd gan neb o'r bobl oedd gyda Saul a Jonathan gleddyf na gwaywffon, ond yr oedd rhai gan Saul a'i fab Jonathan.
22So it came to pass in the day of battle, that there was neither sword nor spear found in the hand of any of the people that were with Saul and Jonathan: but with Saul and with Jonathan his son was there found.
23 Gosododd y Philistiaid wylwyr i warchod bwlch Michmas.
23And the garrison of the Philistines went out to the passage of Michmash.