Welsh

King James Version

Exodus

34

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Nadd ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, ac fe ysgrifennaf arnynt y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, a dorraist.
1And the LORD said unto Moses, Hew thee two tables of stone like unto the first: and I will write upon these tables the words that were in the first tables, which thou brakest.
2 Bydd barod erbyn y bore, a thyrd i fyny'n gynnar i Fynydd Sinai, ac aros amdanaf yno ar ben y mynydd.
2And be ready in the morning, and come up in the morning unto mount Sinai, and present thyself there to me in the top of the mount.
3 Nid oes neb i ddod i fyny gyda thi, nac i ymddangos yn unman ar y mynydd; a phaid � gadael i ddefaid na gwartheg bori ar gyfyl y mynydd hwn."
3And no man shall come up with thee, neither let any man be seen throughout all the mount; neither let the flocks nor herds feed before that mount.
4 Felly naddodd Moses ddwy lech garreg, fel y rhai cyntaf, a chododd yn fore ac aeth i fyny i Fynydd Sinai, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo, a chymerodd yn ei law y ddwy lech garreg.
4And he hewed two tables of stone like unto the first; and Moses rose up early in the morning, and went up unto mount Sinai, as the LORD had commanded him, and took in his hand the two tables of stone.
5 Disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, a safodd yno gydag ef, a chyhoeddi ei enw, ARGLWYDD.
5And the LORD descended in the cloud, and stood with him there, and proclaimed the name of the LORD.
6 Aeth yr ARGLWYDD heibio o'i flaen, a chyhoeddi: "Yr ARGLWYDD, yr ARGLWYDD, Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb;
6And the LORD passed by before him, and proclaimed, The LORD, The LORD God, merciful and gracious, long-suffering, and abundant in goodness and truth,
7 yn dangos cariad i filoedd, yn maddau drygioni a gwrthryfel a phechod, ond heb adael yr euog yn ddi-gosb, ac yn cosbi plant, a phlant eu plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth, am ddrygioni eu hynafiaid."
7Keeping mercy for thousands, forgiving iniquity and transgression and sin, and that will by no means clear the guilty; visiting the iniquity of the fathers upon the children, and upon the children's children, unto the third and to the fourth generation.
8 Brysiodd Moses i ymgrymu tua'r llawr ac addoli.
8And Moses made haste, and bowed his head toward the earth, and worshipped.
9 Yna dywedodd, "Os cefais yn awr ffafr yn d'olwg, O ARGLWYDD, boed i ti fynd gyda ni. Er bod y bobl yn wargaled, maddau ein gwrthryfel a'n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti."
9And he said, If now I have found grace in thy sight, O LORD, let my LORD, I pray thee, go among us; for it is a stiffnecked people; and pardon our iniquity and our sin, and take us for thine inheritance.
10 Dywedodd yr ARGLWYDD, "Edrych, yr wyf am wneud cyfamod. Yng ngu373?ydd dy holl bobl gwnaf ryfeddodau na wnaed eu tebyg ymhlith unrhyw genedl ar yr holl ddaear; yna bydd yr holl bobl yr wyt yn eu mysg yn gweld gwaith yr ARGLWYDD, oherwydd yr wyf am wneud � thi beth syfrdanol.
10And he said, Behold, I make a covenant: before all thy people I will do marvels, such as have not been done in all the earth, nor in any nation: and all the people among which thou art shall see the work of the LORD: for it is a terrible thing that I will do with thee.
11 Cadw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw, a gyrraf allan o'th flaen yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.
11Observe thou that which I command thee this day: behold, I drive out before thee the Amorite, and the Canaanite, and the Hittite, and the Perizzite, and the Hivite, and the Jebusite.
12 Gwylia rhag iti wneud cyfamod � thrigolion y wlad yr ei iddi, rhag iddynt fod yn fagl iti.
12Take heed to thyself, lest thou make a covenant with the inhabitants of the land whither thou goest, lest it be for a snare in the midst of thee:
13 Dinistriwch eu hallorau, drylliwch eu colofnau, a thorrwch i lawr eu pyst.
13But ye shall destroy their altars, break their images, and cut down their groves:
14 Paid ag ymgrymu i dduw arall, oherwydd
14For thou shalt worship no other god: for the LORD, whose name is Jealous, is a jealous God:
15 Eiddigeddus yw enw'r ARGLWYDD, a Duw eiddigeddus ydyw. Paid � gwneud cyfamod � thrigolion y wlad rhag iddynt, wrth buteinio ar �l eu duwiau ac aberthu iddynt, dy wahodd dithau i fwyta o'u haberth,
15Lest thou make a covenant with the inhabitants of the land, and they go a whoring after their gods, and do sacrifice unto their gods, and one call thee, and thou eat of his sacrifice;
16 ac i gymryd eu merched i'th feibion; a rhag i'w merched, wrth iddynt buteinio ar �l eu duwiau, wneud i'th feibion buteinio ar �l eu duwiau hwy.
16And thou take of their daughters unto thy sons, and their daughters go a whoring after their gods, and make thy sons go a whoring after their gods.
17 "Paid � gwneud i ti ddelwau tawdd.
17Thou shalt make thee no molten gods.
18 "Cadw u373?yl y Bara Croyw. Yr wyt i fwyta bara croyw am saith diwrnod ar yr amser penodedig ym mis Abib, fel y gorchmynnais iti, oherwydd ym mis Abib y daethost allan o'r Aifft.
18The feast of unleavened bread shalt thou keep. Seven days thou shalt eat unleavened bread, as I commanded thee, in the time of the month Abib: for in the month Abib thou camest out from Egypt.
19 "Eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth, y cyntafanedig o'th holl anifeiliaid gwryw, yn wartheg ac yn ddefaid.
19All that openeth the matrix is mine; and every firstling among thy cattle, whether ox or sheep, that is male.
20 Yr wyt i gyfnewid cyntafanedig asyn am oen, ac os na fyddi'n ei gyfnewid, tor ei wddf. Yr wyt i gyfnewid pob cyntafanedig o'th feibion. Nid oes neb i ymddangos o'm blaen yn waglaw.
20But the firstling of an ass thou shalt redeem with a lamb: and if thou redeem him not, then shalt thou break his neck. All the firstborn of thy sons thou shalt redeem. And none shall appear before me empty.
21 "Am chwe diwrnod yr wyt i weithio, ond ar y seithfed dydd yr wyt i orffwys, boed yn amser aredig neu yn gynhaeaf.
21Six days thou shalt work, but on the seventh day thou shalt rest: in earing time and in harvest thou shalt rest.
22 "Cadw hefyd u373?yl yr Wythnosau, blaenffrwyth y cynhaeaf gwenith, a gu373?yl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn.
22And thou shalt observe the feast of weeks, of the firstfruits of wheat harvest, and the feast of ingathering at the year's end.
23 Y mae pob gwryw yn eich plith i ymddangos o flaen yr ARGLWYDD Dduw, Duw Israel, deirgwaith y flwyddyn.
23Thrice in the year shall all your men children appear before the LORD God, the God of Israel.
24 Byddaf finnau'n gyrru cenhedloedd allan o'th flaen ac yn estyn dy derfynau, rhag i neb chwennych dy dir pan fyddi'n ymddangos deirgwaith y flwyddyn o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw.
24For I will cast out the nations before thee, and enlarge thy borders: neither shall any man desire thy land, when thou shalt go up to appear before the LORD thy God thrice in the year.
25 "Paid ag offrymu gwaed fy aberth gyda bara lefeinllyd, a phaid � chadw aberth gu373?yl y Pasg dros nos hyd y bore.
25Thou shalt not offer the blood of my sacrifice with leaven; neither shall the sacrifice of the feast of the passover be left unto the morning.
26 "Yr wyt i ddod �'r gorau o flaenffrwyth dy dir i du375?'r ARGLWYDD dy Dduw. "Paid � berwi myn yn llaeth ei fam."
26The first of the firstfruits of thy land thou shalt bring unto the house of the LORD thy God. Thou shalt not seethe a kid in his mother's milk.
27 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Ysgrifenna'r geiriau hyn, oherwydd yn �l y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod � thi ac ag Israel."
27And the LORD said unto Moses, Write thou these words: for after the tenor of these words I have made a covenant with thee and with Israel.
28 Bu Moses yno gyda'r ARGLWYDD am ddeugain diwrnod a deugain nos, heb fwyta bara nac yfed du373?r, ac ysgrifennodd ar y llechau eiriau'r cyfamod, sef y deg gorchymyn.
28And he was there with the LORD forty days and forty nights; he did neither eat bread, nor drink water. And he wrote upon the tables the words of the covenant, the ten commandments.
29 Pan ddaeth Moses i lawr o Fynydd Sinai gyda dwy lech y dystiolaeth yn ei law, ni wyddai fod croen ei wyneb yn disgleirio ar �l iddo siarad � Duw.
29And it came to pass, when Moses came down from mount Sinai with the two tables of testimony in Moses' hand, when he came down from the mount, that Moses wist not that the skin of his face shone while he talked with him.
30 Pan welodd Aaron a holl bobl Israel fod croen wyneb Moses yn disgleirio, yr oedd arnynt ofn dod yn agos ato.
30And when Aaron and all the children of Israel saw Moses, behold, the skin of his face shone; and they were afraid to come nigh him.
31 Ond galwodd Moses arnynt, a throdd Aaron a holl arweinwyr cynulliad Israel ato, a siaradodd Moses � hwy.
31And Moses called unto them; and Aaron and all the rulers of the congregation returned unto him: and Moses talked with them.
32 Yna daeth holl bobl Israel ato, a gorchmynnodd iddynt yr holl bethau yr oedd yr ARGLWYDD wedi eu dweud wrtho ar Fynydd Sinai.
32And afterward all the children of Israel came nigh: and he gave them in commandment all that the LORD had spoken with him in mount Sinai.
33 Pan orffennodd Moses siarad � hwy, rhoddodd orchudd ar ei wyneb,
33And till Moses had done speaking with them, he put a vail on his face.
34 ond pan fyddai'n mynd o flaen yr ARGLWYDD i siarad ag ef, byddai'n tynnu'r gorchudd nes iddo ddod allan, ac wedi dod allan, byddai'n dweud wrth bobl Israel yr hyn a orchmynnwyd iddo.
34But when Moses went in before the LORD to speak with him, he took the vail off, until he came out. And he came out, and spake unto the children of Israel that which he was commanded.
35 A phan welent hwy fod croen ei wyneb yn disgleirio, byddai Moses yn rhoi'r gorchudd yn �l ar ei wyneb nes y byddai'n mynd i mewn eto i siarad � Duw.
35And the children of Israel saw the face of Moses, that the skin of Moses' face shone: and Moses put the vail upon his face again, until he went in to speak with him.