Welsh

King James Version

John

17

1 Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, cododd Iesu ei lygaid i'r nef a dywedodd: "O Dad, y mae'r awr wedi dod. Gogonedda dy Fab, er mwyn i'r Mab dy ogoneddu di.
1These words spake Jesus, and lifted up his eyes to heaven, and said, Father, the hour is come; glorify thy Son, that thy Son also may glorify thee:
2 Oherwydd rhoddaist iddo ef awdurdod ar bob un, awdurdod i roi bywyd tragwyddol i bawb yr wyt ti wedi eu rhoi iddo ef.
2As thou hast given him power over all flesh, that he should give eternal life to as many as thou hast given him.
3 A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.
3And this is life eternal, that they might know thee the only true God, and Jesus Christ, whom thou hast sent.
4 Yr wyf fi wedi dy ogoneddu ar y ddaear trwy orffen y gwaith a roddaist imi i'w wneud.
4I have glorified thee on the earth: I have finished the work which thou gavest me to do.
5 Yn awr, O Dad, gogonedda di fyfi ger dy fron dy hun �'r gogoniant oedd i mi ger dy fron cyn bod y byd.
5And now, O Father, glorify thou me with thine own self with the glory which I had with thee before the world was.
6 "Yr wyf wedi amlygu dy enw i'r rhai a roddaist imi allan o'r byd. Eiddot ti oeddent, ac fe'u rhoddaist i mi. Y maent wedi cadw dy air di.
6I have manifested thy name unto the men which thou gavest me out of the world: thine they were, and thou gavest them me; and they have kept thy word.
7 Y maent yn gwybod yn awr mai oddi wrthyt ti y mae popeth a roddaist i mi.
7Now they have known that all things whatsoever thou hast given me are of thee.
8 Oherwydd yr wyf wedi rhoi iddynt hwy y geiriau a roddaist ti i mi, a hwythau wedi eu derbyn, a chanfod mewn gwirionedd mai oddi wrthyt ti y deuthum, a chredu mai ti a'm hanfonodd i.
8For I have given unto them the words which thou gavest me; and they have received them, and have known surely that I came out from thee, and they have believed that thou didst send me.
9 Drostynt hwy yr wyf fi'n gwedd�o. Nid dros y byd yr wyf yn gwedd�o, ond dros y rhai a roddaist imi, oherwydd eiddot ti ydynt.
9I pray for them: I pray not for the world, but for them which thou hast given me; for they are thine.
10 Y mae popeth sy'n eiddof fi yn eiddot ti, a'r eiddot ti yn eiddof fi. Ac yr wyf fi wedi fy ngogoneddu ynddynt hwy.
10And all mine are thine, and thine are mine; and I am glorified in them.
11 Nid wyf fi mwyach yn y byd, ond y maent hwy yn y byd. Yr wyf fi'n dod atat ti. O Dad sanctaidd, cadw hwy'n ddiogel trwy dy enw, yr enw a roddaist i mi, er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un.
11And now I am no more in the world, but these are in the world, and I come to thee. Holy Father, keep through thine own name those whom thou hast given me, that they may be one, as we are.
12 Pan oeddwn gyda hwy, yr oeddwn i'n eu cadw'n ddiogel trwy dy enw, yr enw a roddaist i mi. Gwyliais drostynt, ac ni chollwyd yr un ohonynt, ar wah�n i fab colledigaeth, i'r Ysgrythur gael ei chyflawni.
12While I was with them in the world, I kept them in thy name: those that thou gavest me I have kept, and none of them is lost, but the son of perdition; that the scripture might be fulfilled.
13 Ond yn awr yr wyf yn dod atat ti, ac yr wyf yn llefaru'r geiriau hyn yn y byd er mwyn i'm llawenydd i fod ganddynt yn gyflawn ynddynt hwy eu hunain.
13And now come I to thee; and these things I speak in the world, that they might have my joy fulfilled in themselves.
14 Yr wyf fi wedi rhoi iddynt dy air di, ac y mae'r byd wedi eu cas�u hwy, am nad ydynt yn perthyn i'r byd, fel nad wyf finnau'n perthyn i'r byd.
14I have given them thy word; and the world hath hated them, because they are not of the world, even as I am not of the world.
15 Nid wyf yn gwedd�o ar i ti eu cymryd allan o'r byd, ond ar i ti eu cadw'n ddiogel rhag yr Un drwg.
15I pray not that thou shouldest take them out of the world, but that thou shouldest keep them from the evil.
16 Nid ydynt yn perthyn i'r byd, fel nad wyf finnau'n perthyn i'r byd.
16They are not of the world, even as I am not of the world.
17 Cysegra hwy yn y gwirionedd. Dy air di yw'r gwirionedd.
17Sanctify them through thy truth: thy word is truth.
18 Fel yr anfonaist ti fi i'r byd, yr wyf fi'n eu hanfon hwy i'r byd.
18As thou hast sent me into the world, even so have I also sent them into the world.
19 Ac er eu mwyn hwy yr wyf fi'n fy nghysegru fy hun, er mwyn iddynt hwythau fod wedi eu cysegru yn y gwirionedd.
19And for their sakes I sanctify myself, that they also might be sanctified through the truth.
20 "Ond nid dros y rhain yn unig yr wyf yn gwedd�o, ond hefyd dros y rhai fydd yn credu ynof fi trwy eu gair hwy.
20Neither pray I for these alone, but for them also which shall believe on me through their word;
21 Rwy'n gwedd�o ar iddynt oll fod yn un, ie, fel yr wyt ti, O Dad, ynof fi a minnau ynot ti, iddynt hwy hefyd fod ynom ni, er mwyn i'r byd gredu mai tydi a'm hanfonodd i.
21That they all may be one; as thou, Father, art in me, and I in thee, that they also may be one in us: that the world may believe that thou hast sent me.
22 Yr wyf fi wedi rhoi iddynt hwy y gogoniant a roddaist ti i mi, er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un:
22And the glory which thou gavest me I have given them; that they may be one, even as we are one:
23 myfi ynddynt hwy, a thydi ynof fi, a hwythau felly wedi eu dwyn i undod perffaith, er mwyn i'r byd wybod mai tydi a'm hanfonodd i, ac i ti eu caru hwy fel y ceraist fi.
23I in them, and thou in me, that they may be made perfect in one; and that the world may know that thou hast sent me, and hast loved them, as thou hast loved me.
24 O Dad, am y rhai yr wyt ti wedi eu rhoi i mi, fy nymuniad yw iddynt hwy fod gyda mi lle'r wyf fi, er mwyn iddynt weld fy ngogoniant, y gogoniant a roddaist i mi oherwydd i ti fy ngharu cyn seilio'r byd.
24Father, I will that they also, whom thou hast given me, be with me where I am; that they may behold my glory, which thou hast given me: for thou lovedst me before the foundation of the world.
25 O Dad cyfiawn, nid yw'r byd yn dy adnabod, ond yr wyf fi'n dy adnabod, ac y mae'r rhain yn gwybod mai tydi a'm hanfonodd i.
25O righteous Father, the world hath not known thee: but I have known thee, and these have known that thou hast sent me.
26 Yr wyf wedi gwneud dy enw di yn hysbys iddynt, ac fe wnaf hynny eto, er mwyn i'r cariad �'r hwn yr wyt wedi fy ngharu i fod ynddynt hwy, ac i minnau fod ynddynt hwy."
26And I have declared unto them thy name, and will declare it: that the love wherewith thou hast loved me may be in them, and I in them.