1 Ond aeth Iesu i Fynydd yr Olewydd.
1Jesus went unto the mount of Olives.
2 Yn y bore bach daeth eto i'r deml, ac yr oedd y bobl i gyd yn dod ato. Wedi iddo eistedd a dechrau eu dysgu,
2And early in the morning he came again into the temple, and all the people came unto him; and he sat down, and taught them.
3 dyma'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn dod � gwraig ato oedd wedi ei dal mewn godineb, a'i rhoi i sefyll yn y canol.
3And the scribes and Pharisees brought unto him a woman taken in adultery; and when they had set her in the midst,
4 "Athro," meddent wrtho, "y mae'r wraig hon wedi ei dal yn y weithred o odinebu.
4They say unto him, Master, this woman was taken in adultery, in the very act.
5 Gorchmynnodd Moses yn y Gyfraith i ni labyddio gwragedd o'r fath. Beth sydd gennyt ti i'w ddweud?"
5Now Moses in the law commanded us, that such should be stoned: but what sayest thou?
6 Dweud hyn yr oeddent er mwyn rhoi prawf arno, a chael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn. Plygodd Iesu i lawr ac ysgrifennu ar y llawr �'i fys.
6This they said, tempting him, that they might have to accuse him. But Jesus stooped down, and with his finger wrote on the ground, as though he heard them not.
7 Ond gan eu bod yn dal ati i ofyn y cwestiwn iddo, ymsythodd ac meddai wrthynt, "Pwy bynnag ohonoch sy'n ddibechod, gadewch i hwnnw fod yn gyntaf i daflu carreg ati."
7So when they continued asking him, he lifted up himself, and said unto them, He that is without sin among you, let him first cast a stone at her.
8 Yna plygodd eto ac ysgrifennu ar y llawr.
8And again he stooped down, and wrote on the ground.
9 A dechreuodd y rhai oedd wedi clywed fynd allan, un ar �l y llall, y rhai hynaf yn gyntaf, nes i Iesu gael ei adael ar ei ben ei hun, a'r wraig yno yn y canol.
9And they which heard it, being convicted by their own conscience, went out one by one, beginning at the eldest, even unto the last: and Jesus was left alone, and the woman standing in the midst.
10 Ymsythodd Iesu a gofyn iddi, "Wraig, ble maent? Onid oes neb wedi dy gondemnio?"
10When Jesus had lifted up himself, and saw none but the woman, he said unto her, Woman, where are those thine accusers? hath no man condemned thee?
11 Meddai hithau, "Neb, syr." Ac meddai Iesu, "Nid wyf finnau'n dy gondemnio chwaith. Dos, ac o hyn allan paid � phechu mwyach."
11She said, No man, Lord. And Jesus said unto her, Neither do I condemn thee: go, and sin no more.
12 Yna llefarodd Iesu wrthynt eto. "Myfi yw goleuni'r byd," meddai. "Ni bydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd."
12Then spake Jesus again unto them, saying, I am the light of the world: he that followeth me shall not walk in darkness, but shall have the light of life.
13 Meddai'r Phariseaid wrtho, "Tystiolaethu amdanat dy hun yr wyt ti; nid yw dy dystiolaeth yn wir."
13The Pharisees therefore said unto him, Thou bearest record of thyself; thy record is not true.
14 Atebodd Iesu hwy, "Er mai myfi sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth yn wir am fy mod yn gwybod o ble y deuthum ac i ble'r wyf yn mynd. Ond ni wyddoch chwi o ble'r wyf yn dod nac i ble'r wyf yn mynd.
14Jesus answered and said unto them, Though I bear record of myself, yet my record is true: for I know whence I came, and whither I go; but ye cannot tell whence I come, and whither I go.
15 Yr ydych chwi'n barnu yn �l safonau dynol. Minnau, nid wyf yn barnu neb,
15Ye judge after the flesh; I judge no man.
16 ac os byddaf yn barnu y mae'r farn a roddaf yn ddilys, oherwydd nid myfi yn unig sy'n barnu, ond myfi a'r Tad a'm hanfonodd i.
16And yet if I judge, my judgment is true: for I am not alone, but I and the Father that sent me.
17 Y mae'n ysgrifenedig yn eich Cyfraith chwi fod tystiolaeth dau ddyn yn wir.
17It is also written in your law, that the testimony of two men is true.
18 Myfi yw'r un sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun, ac y mae'r Tad a'm hanfonodd i hefyd yn tystiolaethu amdanaf."
18I am one that bear witness of myself, and the Father that sent me beareth witness of me.
19 Yna meddent wrtho, "Ble mae dy Dad di?" Atebodd Iesu, "Nid ydych yn fy adnabod i na'm Tad; pe baech yn fy adnabod i, byddech yn adnabod fy Nhad hefyd."
19Then said they unto him, Where is thy Father? Jesus answered, Ye neither know me, nor my Father: if ye had known me, ye should have known my Father also.
20 Llefarodd y geiriau hyn yn y trysordy, wrth ddysgu yn y deml. Ond ni afaelodd neb ynddo, oherwydd nid oedd ei awr wedi dod eto.
20These words spake Jesus in the treasury, as he taught in the temple: and no man laid hands on him; for his hour was not yet come.
21 Dywedodd wrthynt wedyn, "Yr wyf fi'n ymadael � chwi. Fe chwiliwch amdanaf fi, ond byddwch farw yn eich pechod. Lle'r wyf fi'n mynd, ni allwch chwi ddod."
21Then said Jesus again unto them, I go my way, and ye shall seek me, and shall die in your sins: whither I go, ye cannot come.
22 Meddai'r Iddewon felly, "A yw'n mynd i'w ladd ei hun, gan ei fod yn dweud, 'Lle'r wyf fi'n mynd, ni allwch chwi ddod'?"
22Then said the Jews, Will he kill himself? because he saith, Whither I go, ye cannot come.
23 Meddai Iesu wrthynt, "Yr ydych chwi oddi isod, yr wyf fi oddi uchod. Yr ydych chwi o'r byd hwn, nid wyf fi o'r byd hwn.
23And he said unto them, Ye are from beneath; I am from above: ye are of this world; I am not of this world.
24 Dyna pam y dywedais wrthych y byddwch farw yn eich pechodau; oherwydd marw yn eich pechodau a wnewch, os na chredwch mai myfi yw."
24I said therefore unto you, that ye shall die in your sins: for if ye believe not that I am he, ye shall die in your sins.
25 Gofynasant iddo felly, "Pwy wyt ti?" Atebodd Iesu hwy, "Yr wyf o'r dechrau yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych.
25Then said they unto him, Who art thou? And Jesus saith unto them, Even the same that I said unto you from the beginning.
26 Gallwn ddweud llawer amdanoch, a hynny mewn barn. Ond y mae'r hwn a'm hanfonodd i yn eirwir, a'r hyn a glywais ganddo ef yw'r hyn yr wyf yn ei gyhoeddi i'r byd."
26I have many things to say and to judge of you: but he that sent me is true; and I speak to the world those things which I have heard of him.
27 Nid oeddent hwy'n deall mai am y Tad yr oedd yn llefaru wrthynt.
27They understood not that he spake to them of the Father.
28 Felly dywedodd Iesu wrthynt, "Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw, ac nad wyf yn gwneud dim ohonof fy hun, ond fy mod yn dweud yr union bethau y mae'r Tad wedi eu dysgu imi.
28Then said Jesus unto them, When ye have lifted up the Son of man, then shall ye know that I am he, and that I do nothing of myself; but as my Father hath taught me, I speak these things.
29 Ac y mae'r hwn a'm hanfonodd i gyda mi; nid yw wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, oherwydd yr wyf bob amser yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd ef."
29And he that sent me is with me: the Father hath not left me alone; for I do always those things that please him.
30 Wrth iddo ddweud hyn, daeth llawer i gredu ynddo.
30As he spake these words, many believed on him.
31 Yna dywedodd Iesu wrth yr Iddewon oedd wedi credu ynddo, "Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych mewn gwirionedd yn ddisgyblion i mi.
31Then said Jesus to those Jews which believed on him, If ye continue in my word, then are ye my disciples indeed;
32 Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau."
32And ye shall know the truth, and the truth shall make you free.
33 Atebasant ef, "Plant Abraham ydym ni, ac ni buom erioed yn gaethweision i neb. Sut y gelli di ddweud, 'Fe'ch gwneir yn rhyddion'?"
33They answered him, We be Abraham's seed, and were never in bondage to any man: how sayest thou, Ye shall be made free?
34 Atebodd Iesu hwy, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod pob un sy'n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod.
34Jesus answered them, Verily, verily, I say unto you, Whosoever committeth sin is the servant of sin.
35 Ac nid oes gan y caethwas le arhosol yn y tu375?, ond y mae'r mab yn aros am byth.
35And the servant abideth not in the house for ever: but the Son abideth ever.
36 Felly os yw'r Mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd.
36If the Son therefore shall make you free, ye shall be free indeed.
37 Rwy'n gwybod mai plant Abraham ydych. Ond yr ydych yn ceisio fy lladd i am nad yw fy ngair i yn cael lle ynoch.
37I know that ye are Abraham's seed; but ye seek to kill me, because my word hath no place in you.
38 Yr wyf fi'n siarad am y pethau yr wyf wedi eu gweld gyda'm Tad, ac yr ydych chwi'n gwneud y pethau a glywsoch gan eich tad."
38I speak that which I have seen with my Father: and ye do that which ye have seen with your father.
39 Atebasant ef, "Abraham yw ein tad ni." Meddai Iesu wrthynt, "Pe baech yn blant i Abraham, byddech yn gwneud yr un gweithredoedd ag Abraham.
39They answered and said unto him, Abraham is our father. Jesus saith unto them, If ye were Abraham's children, ye would do the works of Abraham.
40 Ond dyma chwi yn awr yn ceisio fy lladd i, dyn sydd wedi llefaru wrthych y gwirionedd a glywais gan Dduw. Ni wnaeth Abraham mo hynny.
40But now ye seek to kill me, a man that hath told you the truth, which I have heard of God: this did not Abraham.
41 Gwneud gweithredoedd eich tad eich hunain yr ydych chwi." "Nid plant puteindra mohonom ni," meddent wrtho. "Un Tad sydd gennym, sef Duw."
41Ye do the deeds of your father. Then said they to him, We be not born of fornication; we have one Father, even God.
42 Meddai Iesu wrthynt, "Petai Duw yn dad i chwi, byddech yn fy ngharu i, oherwydd oddi wrth Dduw y deuthum allan a dod yma. Nid wyf wedi dod ohonof fy hun, ond ef a'm hanfonodd.
42Jesus said unto them, If God were your Father, ye would love me: for I proceeded forth and came from God; neither came I of myself, but he sent me.
43 Pam nad ydych yn deall yr hyn yr wyf yn ei ddweud? Am nad ydych yn gallu gwrando ar fy ngair i.
43Why do ye not understand my speech? even because ye cannot hear my word.
44 Plant ydych chwi i'ch tad, y diafol, ac yr ydych �'ch bryd ar gyflawni dymuniadau eich tad. Llofrudd oedd ef o'r cychwyn; nid yw'n sefyll yn y gwirionedd, oherwydd nid oes dim gwirionedd ynddo. Pan fydd yn dweud celwydd, datguddio'i natur ei hun y mae, oherwydd un celwyddog yw ef, a thad pob celwydd.
44Ye are of your father the devil, and the lusts of your father ye will do. He was a murderer from the beginning, and abode not in the truth, because there is no truth in him. When he speaketh a lie, he speaketh of his own: for he is a liar, and the father of it.
45 Ond yr wyf fi'n dweud y gwirionedd, ac am hynny nid ydych yn fy nghredu.
45And because I tell you the truth, ye believe me not.
46 Pwy ohonoch chwi sydd am brofi fy mod i'n euog o bechod? Os wyf yn dweud y gwir, pam nad ydych chwi yn fy nghredu?
46Which of you convinceth me of sin? And if I say the truth, why do ye not believe me?
47 Y mae'r sawl sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw. Nid ydych chwi o Dduw, a dyna pam nad ydych yn gwrando."
47He that is of God heareth God's words: ye therefore hear them not, because ye are not of God.
48 Atebodd yr Iddewon ef, "Onid ydym ni'n iawn wrth ddweud, 'Samariad wyt ti, ac y mae cythraul ynot'?"
48Then answered the Jews, and said unto him, Say we not well that thou art a Samaritan, and hast a devil?
49 Atebodd Iesu, "Nid oes cythraul ynof; parchu fy Nhad yr wyf fi, a chwithau'n fy amharchu i.
49Jesus answered, I have not a devil; but I honour my Father, and ye do dishonour me.
50 Nid wyf fi'n ceisio fy ngogoniant fy hun, ond y mae un sydd yn ei geisio, ac ef sy'n barnu.
50And I seek not mine own glory: there is one that seeketh and judgeth.
51 Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd rhywun yn cadw fy ngair i, ni w�l farwolaeth byth."
51Verily, verily, I say unto you, If a man keep my saying, he shall never see death.
52 Meddai'r Iddewon wrtho, "Yr ydym yn gwybod yn awr fod cythraul ynot. Bu Abraham farw, a'r proffwydi hefyd, a dyma ti'n dweud, 'Os bydd rhywun yn cadw fy ngair i, ni chaiff brofi blas marwolaeth byth.'
52Then said the Jews unto him, Now we know that thou hast a devil. Abraham is dead, and the prophets; and thou sayest, If a man keep my saying, he shall never taste of death.
53 A wyt ti'n fwy na'n tad ni, Abraham? Bu ef farw, a bu'r proffwydi farw. Pwy yr wyt ti'n dy gyfrif dy hun?"
53Art thou greater than our father Abraham, which is dead? and the prophets are dead: whom makest thou thyself?
54 Atebodd Iesu, "Os fy ngogoneddu fy hun yr wyf fi, nid yw fy ngogoniant yn ddim. Fy Nhad sydd yn fy ngogoneddu, yr un yr ydych chwi'n dweud amdano, 'Ef yw ein Duw ni.'
54Jesus answered, If I honour myself, my honour is nothing: it is my Father that honoureth me; of whom ye say, that he is your God:
55 Nid ydych yn ei adnabod, ond yr wyf fi'n ei adnabod. Pe bawn yn dweud nad wyf yn ei adnabod, byddwn yn gelwyddog fel chwithau. Ond yr wyf yn ei adnabod, ac yr wyf yn cadw ei air ef.
55Yet ye have not known him; but I know him: and if I should say, I know him not, I shall be a liar like unto you: but I know him, and keep his saying.
56 Gorfoleddu a wnaeth eich tad Abraham o weld fy nydd i; fe'i gwelodd, a llawenhau."
56Your father Abraham rejoiced to see my day: and he saw it, and was glad.
57 Yna meddai'r Iddewon wrtho, "Nid wyt ti'n hanner cant oed eto. A wyt ti wedi gweld Abraham?"
57Then said the Jews unto him, Thou art not yet fifty years old, and hast thou seen Abraham?
58 Dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham, yr wyf fi."
58Jesus said unto them, Verily, verily, I say unto you, Before Abraham was, I am.
59 Yna codasant gerrig i'w taflu ato. Ond aeth Iesu o'u golwg, ac allan o'r deml.
59Then took they up stones to cast at him: but Jesus hid himself, and went out of the temple, going through the midst of them, and so passed by.