Welsh

King James Version

Leviticus

16

1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar �l marwolaeth dau fab Aaron, a fu farw pan ddaethant gerbron yr ARGLWYDD,
1And the LORD spake unto Moses after the death of the two sons of Aaron, when they offered before the LORD, and died;
2 a dywedodd, "Dywed wrth dy frawd Aaron nad yw ar bob adeg i ddod y tu �l i'r llen sydd o flaen y drugareddfa uwchben yr arch yn y cysegr, rhag iddo farw; oherwydd byddaf yn ymddangos yn y cwmwl uwchben y drugareddfa.
2And the LORD said unto Moses, Speak unto Aaron thy brother, that he come not at all times into the holy place within the vail before the mercy seat, which is upon the ark; that he die not: for I will appear in the cloud upon the mercy seat.
3 Fel hyn y mae Aaron i ddod i'r cysegr: � bustach ifanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm.
3Thus shall Aaron come into the holy place: with a young bullock for a sin offering, and a ram for a burnt offering.
4 Bydd yn gwisgo mantell sanctaidd o liain, a dillad isaf o liain agosaf at ei gorff; bydd yn rhoi gwregys lliain am ei ganol a thwrban lliain am ei ben. Y mae'r rhain yn ddillad sanctaidd, a bydd yn ymolchi � du373?r cyn eu gwisgo.
4He shall put on the holy linen coat, and he shall have the linen breeches upon his flesh, and shall be girded with a linen girdle, and with the linen mitre shall he be attired: these are holy garments; therefore shall he wash his flesh in water, and so put them on.
5 Bydd yn cymryd oddi wrth gynulleidfa pobl Israel ddau fwch gafr yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm.
5And he shall take of the congregation of the children of Israel two kids of the goats for a sin offering, and one ram for a burnt offering.
6 "Bydd Aaron yn cyflwyno bustach yr aberth dros ei bechod ei hun, er mwyn gwneud cymod drosto'i hun a thros ei dylwyth.
6And Aaron shall offer his bullock of the sin offering, which is for himself, and make an atonement for himself, and for his house.
7 Yna bydd yn cymryd y ddau fwch gafr ac yn dod � hwy o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod.
7And he shall take the two goats, and present them before the LORD at the door of the tabernacle of the congregation.
8 Bydd Aaron yn bwrw coelbrennau am y ddau fwch, un coelbren am fwch i'r ARGLWYDD, a'r llall am y bwch dihangol.
8And Aaron shall cast lots upon the two goats; one lot for the LORD, and the other lot for the scapegoat.
9 Bydd Aaron yn dod �'r bwch y disgynnodd coelbren yr ARGLWYDD arno, ac yn ei offrymu'n aberth dros bechod.
9And Aaron shall bring the goat upon which the LORD's lot fell, and offer him for a sin offering.
10 Ond bydd yn cyflwyno'n fyw gerbron yr ARGLWYDD y bwch y disgynnodd coelbren y bwch dihangol arno, er mwyn gwneud iawn trwy ei ollwng i'r anialwch yn fwch dihangol.
10But the goat, on which the lot fell to be the scapegoat, shall be presented alive before the LORD, to make an atonement with him, and to let him go for a scapegoat into the wilderness.
11 "Bydd Aaron yn cyflwyno bustach yr aberth dros ei bechod ei hun, er mwyn gwneud cymod drosto'i hun a thros ei dylwyth, a bydd yn lladd y bustach yn aberth dros ei bechod.
11And Aaron shall bring the bullock of the sin offering, which is for himself, and shall make an atonement for himself, and for his house, and shall kill the bullock of the sin offering which is for himself:
12 Bydd yn cymryd thuser yn llawn o farwor llosg oddi ar yr allor o flaen yr ARGLWYDD, a dau ddyrnaid o arogldarth peraidd wedi ei falu, ac yn mynd � hwy y tu �l i'r llen.
12And he shall take a censer full of burning coals of fire from off the altar before the LORD, and his hands full of sweet incense beaten small, and bring it within the vail:
13 Bydd yn rhoi'r arogldarth ar y t�n o flaen yr ARGLWYDD, er mwyn i fwg yr arogldarth orchuddio'r drugareddfa uwchben y dystiolaeth, rhag iddo farw.
13And he shall put the incense upon the fire before the LORD, that the cloud of the incense may cover the mercy seat that is upon the testimony, that he die not:
14 Bydd yn cymryd peth o waed y bustach ac yn ei daenellu �'i fys ar wyneb dwyrain y drugareddfa; bydd yn taenellu peth o'r gwaed �'i fys seithwaith o flaen y drugareddfa.
14And he shall take of the blood of the bullock, and sprinkle it with his finger upon the mercy seat eastward; and before the mercy seat shall he sprinkle of the blood with his finger seven times.
15 "Yna bydd yn lladd bwch yr aberth dros bechod y bobl ac yn dod �'i waed y tu �l i'r llen, ac yn gwneud �'i waed fel y gwnaeth � gwaed y bustach trwy ei daenellu ar y drugareddfa ac o'i blaen.
15Then shall he kill the goat of the sin offering, that is for the people, and bring his blood within the vail, and do with that blood as he did with the blood of the bullock, and sprinkle it upon the mercy seat, and before the mercy seat:
16 Fel hyn y bydd yn gwneud cymod dros y cysegr, oherwydd aflendid pobl Israel a'u troseddau o achos eu holl bechodau; bydd yn gwneud yr un fath dros babell y cyfarfod, sydd yn eu mysg yng nghanol eu holl aflendid.
16And he shall make an atonement for the holy place, because of the uncleanness of the children of Israel, and because of their transgressions in all their sins: and so shall he do for the tabernacle of the congregation, that remaineth among them in the midst of their uncleanness.
17 Ni chaiff unrhyw un fynd i mewn i babell y cyfarfod, ar �l i Aaron fynd i mewn i wneud cymod yn y cysegr, nes iddo ddod allan, wedi iddo orffen gwneud cymod drosto'i hun, ei dylwyth a holl gynulleidfa Israel.
17And there shall be no man in the tabernacle of the congregation when he goeth in to make an atonement in the holy place, until he come out, and have made an atonement for himself, and for his household, and for all the congregation of Israel.
18 Yna bydd yn dod allan at yr allor sydd o flaen yr ARGLWYDD, ac yn gwneud cymod drosti. Bydd yn cymryd peth o waed y bustach ac o waed y bwch, ac yn ei roi ar gyrn yr allor o'i hamgylch.
18And he shall go out unto the altar that is before the LORD, and make an atonement for it; and shall take of the blood of the bullock, and of the blood of the goat, and put it upon the horns of the altar round about.
19 Bydd yn taenellu peth o'r gwaed arni �'i fys seithwaith i'w glanhau o aflendid pobl Israel, ac yn ei chysegru.
19And he shall sprinkle of the blood upon it with his finger seven times, and cleanse it, and hallow it from the uncleanness of the children of Israel.
20 "Ar �l i Aaron orffen gwneud cymod dros y cysegr, pabell y cyfarfod a'r allor, bydd yn cyflwyno'r bwch byw.
20And when he hath made an end of reconciling the holy place, and the tabernacle of the congregation, and the altar, he shall bring the live goat:
21 Bydd yn gosod ei ddwy law ar ben y bwch byw, ac yn cyffesu drosto holl ddrygioni a throseddau pobl Israel o achos eu holl bechodau, ac yn eu rhoi ar ben y bwch; yna bydd yn anfon y bwch i'r anialwch yng ngofal dyn a benodwyd i wneud hynny.
21And Aaron shall lay both his hands upon the head of the live goat, and confess over him all the iniquities of the children of Israel, and all their transgressions in all their sins, putting them upon the head of the goat, and shall send him away by the hand of a fit man into the wilderness:
22 Y mae'r bwch i ddwyn eu holl ddrygioni arno'i hun i dir unig, a bydd y dyn yn ei ollwng yn rhydd yn yr anialwch.
22And the goat shall bear upon him all their iniquities unto a land not inhabited: and he shall let go the goat in the wilderness.
23 "Yna bydd Aaron yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, yn diosg y dillad lliain a wisgodd pan oedd yn mynd i'r cysegr, ac yn eu gadael yno.
23And Aaron shall come into the tabernacle of the congregation, and shall put off the linen garments, which he put on when he went into the holy place, and shall leave them there:
24 Bydd yn ymolchi � du373?r mewn lle sanctaidd, ac yn gwisgo ei ddillad arferol. Wedyn bydd yn dod allan, ac yn offrymu ei boethoffrwm ei hun a phoethoffrwm y bobl, ac yn gwneud cymod drosto'i hun a thros y bobl.
24And he shall wash his flesh with water in the holy place, and put on his garments, and come forth, and offer his burnt offering, and the burnt offering of the people, and make an atonement for himself, and for the people.
25 Bydd hefyd yn llosgi ar yr allor fraster yr aberth dros bechod.
25And the fat of the sin offering shall he burn upon the altar.
26 "Bydd y dyn sy'n gollwng y bwch dihangol yn rhydd yn golchi ei ddillad ac yn ymolchi � du373?r; ac wedi hynny caiff ddod i mewn i'r gwersyll.
26And he that let go the goat for the scapegoat shall wash his clothes, and bathe his flesh in water, and afterward come into the camp.
27 Y mae bustach a bwch yr aberth dros bechod, y dygwyd eu gwaed i wneud cymod yn y cysegr, i'w dwyn allan o'r gwersyll; y mae eu crwyn, eu cyrff a'u gweddillion i'w llosgi yn y t�n.
27And the bullock for the sin offering, and the goat for the sin offering, whose blood was brought in to make atonement in the holy place, shall one carry forth without the camp; and they shall burn in the fire their skins, and their flesh, and their dung.
28 Y mae'r sawl sy'n eu llosgi i olchi ei ddillad ac ymolchi � du373?r; ar �l hynny caiff ddod i mewn i'r gwersyll.
28And he that burneth them shall wash his clothes, and bathe his flesh in water, and afterward he shall come into the camp.
29 "Y mae hon yn ddeddf dragwyddol ichwi. Ar y degfed dydd o'r seithfed mis yr ydych i ymddarostwng, a pheidio � gwneud unrhyw waith, pa un bynnag ai brodor ai estron ydych,
29And this shall be a statute for ever unto you: that in the seventh month, on the tenth day of the month, ye shall afflict your souls, and do no work at all, whether it be one of your own country, or a stranger that sojourneth among you:
30 oherwydd ar y dydd hwn gwneir cymod drosoch i'ch glanhau; a byddwch yn l�n o'ch holl bechodau gerbron yr ARGLWYDD.
30For on that day shall the priest make an atonement for you, to cleanse you, that ye may be clean from all your sins before the LORD.
31 Saboth o orffwys ydyw, ac yr ydych i ymddarostwng; y mae'n ddeddf dragwyddol.
31It shall be a sabbath of rest unto you, and ye shall afflict your souls, by a statute for ever.
32 Yr offeiriad a eneiniwyd ac a gysegrwyd yn offeiriad yn lle ei dad fydd yn gwneud cymod; bydd yn gwisgo dillad sanctaidd o liain,
32And the priest, whom he shall anoint, and whom he shall consecrate to minister in the priest's office in his father's stead, shall make the atonement, and shall put on the linen clothes, even the holy garments:
33 ac yn gwneud cymod dros y cysegr, pabell y cyfarfod a'r allor, a hefyd dros yr offeiriaid a holl bobl y gynulleidfa.
33And he shall make an atonement for the holy sanctuary, and he shall make an atonement for the tabernacle of the congregation, and for the altar, and he shall make an atonement for the priests, and for all the people of the congregation.
34 Bydd hon yn ddeddf dragwyddol ichwi. Gwneir cymod unwaith y flwyddyn dros bobl Israel oherwydd eu holl bechodau." Gwnaed fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
34And this shall be an everlasting statute unto you, to make an atonement for the children of Israel for all their sins once a year. And he did as the LORD commanded Moses.