1 "'Os heddoffrwm fydd ei rodd, ac yntau'n dod ag anifail o'r gyr, boed wryw neu fenyw, dylai gyflwyno i'r ARGLWYDD anifail di-nam.
1And if his oblation be a sacrifice of peace offering, if he offer it of the herd; whether it be a male or female, he shall offer it without blemish before the LORD.
2 Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd wrth ddrws pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.
2And he shall lay his hand upon the head of his offering, and kill it at the door of the tabernacle of the congregation: and Aaron's sons the priests shall sprinkle the blood upon the altar round about.
3 o'r heddoffrwm y mae i ddod ag offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD: y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,
3And he shall offer of the sacrifice of the peace offering an offering made by fire unto the LORD; the fat that covereth the inwards, and all the fat that is upon the inwards,
4 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.
4And the two kidneys, and the fat that is on them, which is by the flanks, and the caul above the liver, with the kidneys, it shall he take away.
5 Bydd meibion Aaron yn ei losgi ar yr allor, ar ben y poethoffrwm sydd ar y coed sy'n llosgi, a bydd yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
5And Aaron's sons shall burn it on the altar upon the burnt sacrifice, which is upon the wood that is on the fire: it is an offering made by fire, of a sweet savor unto the LORD.
6 "'Os rhodd o'r praidd fydd yr heddoffrwm i'r ARGLWYDD, dylai gyflwyno gwryw neu fenyw ddi-nam.
6And if his offering for a sacrifice of peace offering unto the LORD be of the flock; male or female, he shall offer it without blemish.
7 Os bydd yn offrymu oen yn rhodd, y mae i'w gyflwyno o flaen yr ARGLWYDD.
7If he offer a lamb for his offering, then shall he offer it before the LORD.
8 Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd o flaen pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron yn lluchio'i waed ar bob ochr i'r allor.
8And he shall lay his hand upon the head of his offering, and kill it before the tabernacle of the congregation: and Aaron's sons shall sprinkle the blood thereof round about upon the altar.
9 o'r heddoffrwm y mae i ddod ag offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD: ei fraster, y gynffon fras yn gyfan ac wedi ei thynnu i ffwrdd yn agos at yr asgwrn cefn, y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,
9And he shall offer of the sacrifice of the peace offering an offering made by fire unto the LORD; the fat thereof, and the whole rump, it shall he take off hard by the backbone; and the fat that covereth the inwards, and all the fat that is upon the inwards,
10 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.
10And the two kidneys, and the fat that is upon them, which is by the flanks, and the caul above the liver, with the kidneys, it shall he take away.
11 Hyn fydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor yn fwyd, yn offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD.
11And the priest shall burn it upon the altar: it is the food of the offering made by fire unto the LORD.
12 "'Os gafr fydd y rhodd, dylai ei chyflwyno o flaen yr ARGLWYDD.
12And if his offering be a goat, then he shall offer it before the LORD.
13 Y mae i osod ei law ar ei phen a'i lladd o flaen pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron yn lluchio'i gwaed ar bob ochr i'r allor.
13And he shall lay his hand upon the head of it, and kill it before the tabernacle of the congregation: and the sons of Aaron shall sprinkle the blood thereof upon the altar round about.
14 Ohoni y mae i ddod ag offrwm trwy d�n i'r ARGLWYDD: y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,
14And he shall offer thereof his offering, even an offering made by fire unto the LORD; the fat that covereth the inwards, and all the fat that is upon the inwards,
15 y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.
15And the two kidneys, and the fat that is upon them, which is by the flanks, and the caul above the liver, with the kidneys, it shall he take away.
16 Bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar yr allor yn fwyd, yn offrwm trwy d�n, yn arogl peraidd; bydd yr holl fraster yn eiddo i'r ARGLWYDD.
16And the priest shall burn them upon the altar: it is the food of the offering made by fire for a sweet savor: all the fat is the LORD's.
17 "'Bydd hon yn ddeddf barhaol dros yr holl genedlaethau lle bynnag y byddwch yn byw: nid ydych i fwyta braster na gwaed.'"
17It shall be a perpetual statute for your generations throughout all your dwellings, that ye eat neither fat nor blood.