1 Yr amser hwnnw clywodd Herod y tetrarch y s�n am Iesu,
1At that time Herod the tetrarch heard of the fame of Jesus,
2 a dywedodd wrth ei weision, "Ioan Fedyddiwr yw hwn; y mae ef wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae'r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef."
2And said unto his servants, This is John the Baptist; he is risen from the dead; and therefore mighty works do shew forth themselves in him.
3 Oherwydd yr oedd Herod wedi dal Ioan a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd.
3For Herod had laid hold on John, and bound him, and put him in prison for Herodias' sake, his brother Philip's wife.
4 Yr oedd Ioan wedi dweud wrtho, "Nid yw'n gyfreithlon i ti ei chael hi."
4For John said unto him, It is not lawful for thee to have her.
5 Ac er bod Herod yn dymuno ei ladd, yr oedd arno ofn y bobl, am eu bod yn ystyried Ioan yn broffwyd.
5And when he would have put him to death, he feared the multitude, because they counted him as a prophet.
6 Pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd, dawnsiodd merch Herodias gerbron y cwmni a phlesio Herod
6But when Herod's birthday was kept, the daughter of Herodias danced before them, and pleased Herod.
7 gymaint nes iddo addo ar ei lw roi iddi beth bynnag a ofynnai.
7Whereupon he promised with an oath to give her whatsoever she would ask.
8 Ar gyfarwyddyd ei mam, dywedodd hi, "Rho i mi, yma ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr."
8And she, being before instructed of her mother, said, Give me here John Baptist's head in a charger.
9 Aeth y brenin yn drist, ond oherwydd ei lw ac oherwydd ei westeion gorchmynnodd ei roi iddi,
9And the king was sorry: nevertheless for the oath's sake, and them which sat with him at meat, he commanded it to be given her.
10 ac anfonodd i dorri pen Ioan yn y carchar.
10And he sent, and beheaded John in the prison.
11 Daethpwyd �'i ben ef ar ddysgl a'i roi i'r eneth, ac aeth hi ag ef i'w mam.
11And his head was brought in a charger, and given to the damsel: and she brought it to her mother.
12 Yna daeth ei ddisgyblion a mynd �'r corff ymaith a'i gladdu, ac aethant ac adrodd yr hanes wrth Iesu.
12And his disciples came, and took up the body, and buried it, and went and told Jesus.
13 Pan glywodd Iesu, aeth oddi yno mewn cwch i le unig o'r neilltu. Ond clywodd y tyrfaoedd, a dilynasant ef dros y tir o'r trefi.
13When Jesus heard of it, he departed thence by ship into a desert place apart: and when the people had heard thereof, they followed him on foot out of the cities.
14 Pan laniodd Iesu, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt ac iach�u eu cleifion hwy.
14And Jesus went forth, and saw a great multitude, and was moved with compassion toward them, and he healed their sick.
15 Fel yr oedd yn nosi daeth ei ddisgyblion ato a dweud, "Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng y tyrfaoedd, iddynt fynd i'r pentrefi i brynu bwyd iddynt eu hunain."
15And when it was evening, his disciples came to him, saying, This is a desert place, and the time is now past; send the multitude away, that they may go into the villages, and buy themselves victuals.
16 Meddai Iesu wrthynt, "Nid oes rhaid iddynt fynd ymaith. Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt."
16But Jesus said unto them, They need not depart; give ye them to eat.
17 Meddent hwy wrtho, "Nid oes gennym yma ond pum torth a dau bysgodyn."
17And they say unto him, We have here but five loaves, and two fishes.
18 Meddai yntau, "Dewch � hwy yma i mi."
18He said, Bring them hither to me.
19 Ac wedi gorchymyn i'r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a rhoddodd hwy i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.
19And he commanded the multitude to sit down on the grass, and took the five loaves, and the two fishes, and looking up to heaven, he blessed, and brake, and gave the loaves to his disciples, and the disciples to the multitude.
20 Bwytasant oll a chael digon, a chodasant ddeuddeg basgedaid lawn o'r tameidiau oedd dros ben.
20And they did all eat, and were filled: and they took up of the fragments that remained twelve baskets full.
21 Ac yr oedd y rhai oedd yn bwyta tua phum mil o wu375?r, heblaw gwragedd a phlant.
21And they that had eaten were about five thousand men, beside women and children.
22 Yna'n ddi-oed gwnaeth i'r disgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, tra byddai ef yn gollwng y tyrfaoedd.
22And straightway Jesus constrained his disciples to get into a ship, and to go before him unto the other side, while he sent the multitudes away.
23 Wedi eu gollwng aeth i fyny'r mynydd o'r neilltu i wedd�o, a phan aeth hi'n hwyr yr oedd yno ar ei ben ei hun.
23And when he had sent the multitudes away, he went up into a mountain apart to pray: and when the evening was come, he was there alone.
24 Yr oedd y cwch eisoes gryn bellter oddi wrth y tir, ac mewn helbul gan y tonnau, oherwydd yr oedd y gwynt yn ei erbyn.
24But the ship was now in the midst of the sea, tossed with waves: for the wind was contrary.
25 Rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y m�r.
25And in the fourth watch of the night Jesus went unto them, walking on the sea.
26 Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y m�r, dychrynwyd hwy nes dweud, "Drychiolaeth yw", a gweiddi gan ofn.
26And when the disciples saw him walking on the sea, they were troubled, saying, It is a spirit; and they cried out for fear.
27 Ond ar unwaith siaradodd Iesu � hwy. "Codwch eich calon," meddai, "myfi yw; peidiwch ag ofni."
27But straightway Jesus spake unto them, saying, Be of good cheer; it is I; be not afraid.
28 Atebodd Pedr ef, "Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau."
28And Peter answered him and said, Lord, if it be thou, bid me come unto thee on the water.
29 Meddai Iesu, "Tyrd." Disgynnodd Pedr o'r cwch a cherddodd ar y tonnau, a daeth at Iesu.
29And he said, Come. And when Peter was come down out of the ship, he walked on the water, to go to Jesus.
30 Ond pan welodd rym y gwynt brawychodd, ac wrth ddechrau suddo gwaeddodd, "Arglwydd, achub fi."
30But when he saw the wind boisterous, he was afraid; and beginning to sink, he cried, saying, Lord, save me.
31 Estynnodd Iesu ei law ar unwaith a gafael ynddo gan ddweud, "Ti o ychydig ffydd, pam y petrusaist?"
31And immediately Jesus stretched forth his hand, and caught him, and said unto him, O thou of little faith, wherefore didst thou doubt?
32 Ac wedi iddynt ddringo i'r cwch, gostegodd y gwynt.
32And when they were come into the ship, the wind ceased.
33 Yna addolodd y rhai oedd yn y cwch ef, gan ddweud, "Yn wir, Mab Duw wyt ti."
33Then they that were in the ship came and worshipped him, saying, Of a truth thou art the Son of God.
34 Wedi croesi'r m�r daethant i dir yn Genesaret.
34And when they were gone over, they came into the land of Gennesaret.
35 Adnabu pobl y lle hwnnw ef, ac anfonasant i'r holl gymdogaeth honno, a daethant �'r cleifion i gyd ato,
35And when the men of that place had knowledge of him, they sent out into all that country round about, and brought unto him all that were diseased;
36 ac erfyn arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd ag ymyl ei fantell. A llwyr iachawyd pawb a gyffyrddodd ag ef.
36And besought him that they might only touch the hem of his garment: and as many as touched were made perfectly whole.