Welsh

Young`s Literal Translation

2 Samuel

11

1 Tua throad y flwyddyn, yr adeg y byddai'r brenhinoedd yn mynd i ryfela, fe anfonodd Dafydd Joab, gyda'i weision ei hun a byddin Israel gyfan, a distrywiasant yr Ammoniaid, a gosod Rabba dan warchae. Ond fe arhosodd Dafydd yn Jerwsalem.
1And it cometh to pass, at the revolution of the year — at the time of the going out of the messengers — that David sendeth Joab, and his servants with him, and all Israel, and they destroy the Bene-Ammon, and lay siege against Rabbah. And David is dwelling in Jerusalem,
2 Un prynhawn yr oedd Dafydd wedi codi o'i wely ac yn cerdded ar do'r palas. Oddi yno gwelodd wraig yn ymolchi, a hithau'n un brydferth iawn.
2and it cometh to pass, at evening-time, that David riseth from off his couch, and walketh up and down on the roof of the king`s house, and seeth from the roof a woman bathing, and the woman [is] of very good appearance,
3 Anfonodd Dafydd i holi pwy oedd y wraig, a chael yr ateb, "Onid Bathseba ferch Eliam, gwraig Ureia yr Hethiad, yw hi?"
3and David sendeth and inquireth about the woman, and saith, `Is not this Bath-Sheba, daughter of Eliam, wife of Uriah the Hittite?`
4 Anfonodd Dafydd negeswyr i'w dwyn ato, ac wedi iddi ddod, gorweddodd yntau gyda hi. Yr oedd hi wedi ei glanhau o'i haflendid. Yna dychwelodd hi adref.
4And David sendeth messengers, and taketh her, and she cometh unto him, and he lieth with her — and she is purifying herself from her uncleanness — and she turneth back unto her house;
5 Beichiogodd y wraig, ac anfonodd i hysbysu Dafydd ei bod yn feichiog.
5and the woman conceiveth, and sendeth, and declareth to David, and saith, `I [am] conceiving.`
6 Anfonodd Dafydd at Joab, "Anfon ataf Ureia yr Hethiad."
6And David sendeth unto Joab, `Send unto me Uriah the Hittite,` and Joab sendeth Uriah unto David;
7 Pan gyrhaeddodd Ureia, holodd Dafydd hynt Joab a hynt y fyddin a'r rhyfel.
7and Uriah cometh unto him, and David asketh of the prosperity of Joab, and of the prosperity of the people, and of the prosperity of the war.
8 Yna dywedodd Dafydd wrth Ureia, "Dos i lawr adref a golchi dy draed." Pan adawodd Ureia du375?'r brenin anfonwyd rhodd o fwyd y brenin ar ei �l.
8And David saith to Uriah, `Go down to thy house, and wash thy feet;` and Uriah goeth out of the king`s house, and there goeth out after him a gift from the king,
9 Ond gorweddodd Ureia yn nrws y palas gyda gweision ei feistr, ac nid aeth i'w du375? ei hun.
9and Uriah lieth down at the opening of the king`s house, with all the servants of his lord, and hath not gone down unto his house.
10 Pan fynegwyd wrth Ddafydd nad oedd Ureia wedi mynd adref, dywedodd Dafydd wrth Ureia, "Onid o daith y daethost ti? Pam nad aethost adref?"
10And they declare to David, saying, `Uriah hath not gone down unto his house;` and David saith unto Uriah, `Hast thou not come from a journey? wherefore hast thou not gone down unto thy house?`
11 Atebodd Ureia, "Y mae'r arch, ac Israel a Jwda hefyd, yn trigo mewn pebyll, ac y mae f'arglwydd Joab a gweision f'arglwydd yn gwersylla yn yr awyr agored. A wyf fi am fynd adref i fwyta ac yfed, ac i orwedd gyda'm gwraig? Cyn wired � bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, ni wnaf y fath beth!"
11And Uriah saith unto David, `The ark, and Israel, and Judah, are abiding in booths, and my lord Joab, and the servants of my lord, on the face of the field are encamping; and I — I go in unto my house to eat and to drink, and to lie with my wife! — thy life, and the life of thy soul — if I do this thing.`
12 Dywedodd Dafydd wrth Ureia, "Aros di yma heddiw eto, ac anfonaf di'n �l yfory." Felly arhosodd Ureia yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw.
12And David saith unto Uriah, `Abide in this [place] also to-day, and to-morrow I send thee away;` and Uriah abideth in Jerusalem, on that day, and on the morrow,
13 A thrannoeth gwahoddodd Dafydd ef i fwyta ac yfed gydag ef, a gwnaeth ef yn feddw. Pan aeth allan gyda'r nos, gorweddodd ar ei wely gyda gweision ei feistr, ac nid aeth adref.
13and David calleth for him, and he eateth before him, and drinketh, and he causeth him to drink, and he goeth out in the evening to lie on his couch with the servants of his lord, and unto his house he hath not gone down.
14 Felly yn y bore ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab a'i anfon gydag Ureia.
14And it cometh to pass in the morning, that David writeth a letter unto Joab, and sendeth by the hand of Uriah;
15 Ac yn y llythyr yr oedd wedi ysgrifennu, "Rhowch Ureia ar flaen y gad lle mae'r frwydr boethaf; yna ciliwch yn �l oddi wrtho, er mwyn iddo gael ei daro'n farw."
15and he writeth in the letter, saying, `Place ye Uriah over-against the front of the severest battle, and ye have turned back from after him, and he hath been smitten, and hath died.`
16 Pan oedd Joab yn gwarchae ar y ddinas, gosododd Ureia yn y lle y gwyddai fod ymladdwyr dewr.
16And it cometh to pass in Joab`s watching of the city, that he appointeth Uriah unto the place where he knew that valiant men [are];
17 A phan ddaeth milwyr y ddinas allan ac ymladd yn erbyn Joab, syrthiodd rhai o weision Dafydd yn y fyddin, a bu farw Ureia yr Hethiad hefyd.
17and the men of the city go out and fight with Joab, and there fall [some] of the people, of the servants of David; and there dieth also Uriah the Hittite.
18 Yna anfonodd Joab i hysbysu holl hanes y frwydr i Ddafydd.
18And Joab sendeth and declareth to David all the matters of the war,
19 Gorchmynnodd i'r negesydd, "Wedi iti orffen dweud holl hanes y frwydr wrth y brenin,
19and commandeth the messenger, saying, `At thy finishing all the matters of the war to speak unto the king,
20 yna os bydd y brenin yn llidio ac yn dweud wrthyt: 'Pam yr aethoch mor agos at y ddinas i ryfela? Onid oeddech yn gwybod y byddent yn saethu oddi ar y mur?
20then, it hath been, if the king`s fury ascend, and he hath said to thee, Wherefore did ye draw nigh unto the city to fight? did ye not know that they shoot from off the wall?
21 Pwy laddodd Abimelech fab Jerwbbeseth? Onid gwraig yn gollwng maen melin arno oddi ar y mur yn Thebes, ac yntau'n marw? Pam yr aethoch mor agos at y mur?' � yna dywed tithau, 'Y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw'."
21Who smote Abimelech son of Jerubbesheth? did not a woman cast on him a piece of a rider from the wall, and he dieth in Thebez? why drew ye nigh unto the wall? that thou hast said, Also thy servant Uriah the Hittite is dead.`
22 Aeth y negesydd, a dod ac adrodd wrth Ddafydd y cwbl yr anfonodd Joab ef i'w ddweud.
22And the messenger goeth, and cometh in, and declareth to David all that with which Joab sent him,
23 Yna dywedodd y negesydd wrth Ddafydd, "Pan ymwrolodd y milwyr yn ein herbyn, a dod allan atom i'r maes agored, aethom ninnau yn eu herbyn hwy hyd at fynedfa'r porth,
23and the messenger saith unto David, `Surely the men have been mighty against us, and come out unto us into the field, and we are upon them unto the opening of the gate,
24 a saethodd y saethwyr at dy weision oddi ar y mur, a bu farw rhai o weision y brenin, ac y mae dy was Ureia yr Hethiad hefyd wedi marw."
24and those shooting shoot at thy servants from off the wall, and [some] of the servants of the king are dead, and also, thy servant Uriah the Hittite is dead.
25 Yna dywedodd Dafydd wrth y negesydd, "Dywed fel hyn wrth Joab, 'Paid � gofidio am y peth hwn, oherwydd y mae'r cleddyf yn difa weithiau yma, weithiau acw; brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas a distrywia hi'. Calonoga ef fel hyn."
25And David saith unto the messenger, `Thus dost thou say unto Joab, Let not this thing be evil in thine eyes; for thus and thus doth the sword devour; strengthen thy warfare against the city, and throw it down — and strengthen thou him.`
26 Pan glywodd gwraig Ureia fod ei gu373?r wedi marw, galarodd am ei phriod.
26And the wife of Uriah heareth that Uriah her husband [is] dead, and lamenteth for her lord;
27 Ac wedi i'r cyfnod galaru fynd heibio, anfonodd Dafydd a'i chymryd i'w du375?, a daeth hi'n wraig iddo ef, a geni mab iddo. Ond yr oedd yr hyn a wnaeth Dafydd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
27and the mourning passeth by, and David sendeth and gathereth her unto his house, and she is to him for a wife, and beareth to him a son; and the thing which David hath done is evil in the eyes of Jehovah.