Welsh

Young`s Literal Translation

Deuteronomy

11

1 Yr ydych i garu'r ARGLWYDD eich Duw a chadw ei ofynion, ei ddeddfau, ei gyfreithiau a'i orchmynion bob amser.
1`And thou hast loved Jehovah thy God, and kept His charge, and His statutes, and His judgments, and His commands, all the days;
2 Gwyddoch chwi heddiw am ddis-gyblaeth yr ARGLWYDD eich Duw, ond nid yw eich plant wedi ei brofi ef na'i weld, nac ychwaith ei fawredd, ei law gadarn a'i fraich estynedig; yr ydych chwi heddiw i'w cofio.
2and ye have known to-day — for it is not your sons who have not known, and who have not seen the chastisement of Jehovah your God, His greatness, His strong hand, and His stretched-out arm,
3 Gwyddoch am ei arwyddion a'i weithredoedd a wnaeth ymhlith yr Eifftiaid, i'r Brenin Pharo ac i'w holl wlad,
3and His signs, and His doings, which He hath done in the midst of Egypt, to Pharaoh king of Egypt, and to all his land;
4 hefyd yr hyn a wnaeth i fyddin yr Aifft, ei meirch a'i cherbydau, pan barodd i ddyfroedd y M�r Coch lifo drostynt wrth iddynt eich ymlid, ac iddo'u difa hyd y dydd hwn.
4and that which He hath done to the force of Egypt, to its horses, and to its chariot, when He hath caused the waters of the Red Sea to flow against their faces in their pursuing after them, and Jehovah destroyeth them, unto this day;
5 Gwyddoch hefyd yr hyn a wnaeth er eich mwyn yn yr anialwch nes ichwi ddod i'r lle hwn,
5and that which He hath done to you in the wilderness, till your coming in unto this place;
6 a'r hyn a wnaeth i Dathan ac Abiram, meibion Eliab fab Reuben, pan agorodd y ddaear ei safn yng nghanol Israel gyfan a'u llyncu hwy a'u teuluoedd, eu pebyll a'r holl eiddo oedd yn perthyn iddynt.
6and that which He hath done to Dathan, and to Abiram, sons of Eliab, sons of Reuben, when the earth hath opened her mouth and swalloweth them, and their houses, and their tents, and all that liveth, which is at their feet, in the midst of all Israel:
7 Fe welsoch chwi �'ch llygaid eich hunain yr holl weithredoedd mawr a wnaeth yr ARGLWYDD.
7`— But [it is] your eyes which are seeing all the great work of Jehovah, which He hath done;
8 Yr ydych i gadw pob gorchymyn yr wyf fi yn ei roi ichwi heddiw, er mwyn ichwi fod yn ddigon cryf i fynd i mewn ac etifeddu'r wlad yr ydych ar fynd drosodd i'w meddiannu;
8and ye have kept all the command which I am commanding thee to-day, so that ye are strong, and have gone in, and possessed the land whither ye are passing over to possess it,
9 a hefyd er mwyn estyn eich oes yn y tir y tyngodd yr ARGLWYDD i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi iddynt hwy a'u disgynyddion, gwlad yn llifeirio o laeth a m�l.
9and so that ye prolong days on the ground which Jehovah hath sworn to your fathers to give to them and to their seed — a land flowing with milk and honey.
10 Yn wir, nid yw'r wlad yr ydych ar ddod iddi i'w meddiannu yn debyg i wlad yr Aifft y daethoch allan ohoni, lle'r oeddech yn hau eich had ac yn ei ddyfrhau �'ch troed, fel gardd lysiau.
10`For the land whither thou art going in to possess it, is not as the land of Egypt whence ye have come out, where thou sowest thy seed, and hast watered with thy foot, as a garden of the green herb;
11 Ond y mae'r wlad yr ydych ar fynd drosodd i'w meddiannu yn wlad o fynyddoedd a dyffrynnoedd, yn yfed du373?r o law y nefoedd.
11but the land whither ye are passing over to possess it, [is] a land of hills and valleys; of the rain of the heavens it drinketh water;
12 Tir y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn gofalu amdano yw hwn, a'i lygaid yn wastad arno o ddechrau blwyddyn i'w diwedd.
12a land which Jehovah thy God is searching; continually [are] the eyes of Jehovah thy God upon it, from the beginning of the year even unto the latter end of the year.
13 Ac os byddwch yn gwrando o ddifrif ar fy ngorch-mynion, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw, i garu'r ARGLWYDD eich Duw a'i wasanaethu �'ch holl galon ac �'ch holl enaid,
13`And it hath been — if thou hearken diligently unto My commands which I am commanding you to-day, to love Jehovah your God, and to serve Him with all your heart, and with all your soul —
14 yna byddaf yn anfon glaw yn ei bryd ar gyfer eich tir yn yr hydref a'r gwanwyn, a byddwch yn medi eich u375?d, eich gwin newydd a'ch olew;
14that I have given the rain of your land in its season — sprinkling and gathered — and thou hast gathered thy corn, and thy new wine, and thine oil,
15 rhof laswellt yn eich meysydd ar gyfer eich gwartheg, a chewch fwyta'ch gwala.
15and I have given herbs in thy field for thy cattle, and thou hast eaten, and been satisfied.
16 Gwyliwch rhag ichwi gael eich arwain ar gyfeiliorn, a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli.
16`Take heed to yourselves, lest your heart be enticed, and ye have turned aside, and served other gods, and bowed yourselves to them,
17 Os felly, bydd dicter yr ARGLWYDD yn llosgi yn eich erbyn; bydd yn cau y nefoedd, fel na cheir glaw, ac ni fydd y tir yn rhoi ei gynnyrch, ac yn fuan byddwch chwithau'n darfod o'r wlad dda y mae'r ARGLWYDD ar fin ei rhoi ichwi.
17and the anger of Jehovah hath burned against you, and He hath restrained the heavens, and there is no rain, and the ground doth not give her increase, and ye have perished hastily from off the good land which Jehovah is giving to you.
18 Am hynny gosodwch y geiriau hyn yn eich calon ac yn eich enaid, a'u rhwymo'n arwydd ar eich llaw, ac yn rhactalau rhwng eich llygaid.
18`And ye have placed these my words on your heart, and on your soul, and have bound them for a sign on your hand, and they have been for frontlets between your eyes;
19 Dysgwch hwy i'ch plant, a'u crybwyll wrth eistedd yn y tu375? ac wrth gerdded ar y ffordd, wrth fynd i orwedd ac wrth godi;
19and ye have taught them to your sons, by speaking of them in thy sitting in thy house, and in thy going in the way, and in thy lying down, and in thy rising up,
20 ysgrifennwch hwy ar byst eich tai ac yn eich pyrth,
20and hast written them on the side-posts of thy house, and on thy gates,
21 er mwyn i'ch dyddiau chwi a'ch plant amlhau yn y tir y tyngodd yr ARGLWYDD i'ch hynafiaid y byddai'n ei roi iddynt, tra bo nefoedd uwchlaw daear.
21so that your days are multiplied, and the days of your sons, on the ground which Jehovah hath sworn to your fathers to give to them, as the days of the heavens on the earth.
22 Os byddwch yn ofalus i gadw'r cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi, a charu'r ARGLWYDD eich Duw, a dilyn ei lwybrau ef i gyd, a glynu wrtho,
22`For, if ye diligently keep all this command which I am commanding you — to do it, to love Jehovah your God, to walk in all His ways, and to cleave to Him,
23 yna bydd yr ARGLWYDD yn gyrru'r holl genhedloedd hyn allan o'ch blaen, a chewch feddiannu eiddo cenhedloedd mwy a chryfach na chwi.
23then hath Jehovah dispossessed all these nations from before you, and ye have possessed nations, greater and mightier than you;
24 Eich eiddo chwi fydd pobman y bydd gwadn eich troed yn sengi arno, o'r anialwch hyd Lebanon, ac o'r afon, afon Ewffrates, hyd f�r y gorllewin; dyna fydd eich terfyn.
24every place on which the sole of your foot treadeth is yours; from the wilderness, and Lebanon, from the river, the river Phrat, even unto the farther sea is your border;
25 Ni fydd neb yn medru eich gwrthsefyll; fel yr addawodd ichwi, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn peri i'ch arswyd a'ch dychryn fod dros wyneb yr holl dir a droediwch.
25no man doth station himself in your presence; your dread and your fear doth Jehovah your God put on the face of all the land on which ye tread, as He hath spoken to you.
26 Gwelwch, yr wyf yn gosod ger eich bron heddiw fendith a melltith:
26`See, I am setting before you to-day a blessing and a reviling:
27 bendith os gwrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw;
27the blessing, when ye hearken unto the commands of Jehovah your God, which I am commanding you to-day;
28 ond melltith os na fyddwch yn gwrando ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, eithr yn troi o'r ffordd yr wyf fi yn ei gorchymyn ichwi heddiw, i ddilyn duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod.
28and the reviling, if ye do not hearken unto the commands of Jehovah your God, and have turned aside out of the way which I am commanding you to-day, to go after other gods which ye have not known.
29 A phan ddaw'r ARGLWYDD eich Duw � chwi i'r wlad yr ydych yn dod iddi i'w meddiannu, yna cyhoeddwch y fendith ar Fynydd Garisim a'r felltith ar Fynydd Ebal.
29`And it hath been, when Jehovah thy God doth bring thee in unto the land whither thou art going in to possess it, that thou hast given the blessing on mount Gerizim, and the reviling on mount Ebal;
30 Fel y gwyddoch, y mae'r rhain yr ochr draw i'r Iorddonen i'r gorllewin, tuag at fachlud haul, yn nhir y Canaaneaid sy'n byw yn yr Araba, gyferbyn � Gilgal ac yn ymyl deri More.
30are they not beyond the Jordan, behind the way of the going in of the sun, in the land of the Canaanite, who is dwelling in the plain over-against Gilgal, near the oaks of Moreh?
31 Yr ydych ar fin croesi'r Iorddonen i ddod i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi; pan fyddwch wedi ei meddiannu a byw ynddi,
31for ye are passing over the Jordan to go in to possess the land which Jehovah your God is giving to you; and ye have possessed it, and dwelt in it,
32 gofalwch gadw'r holl ddeddfau a chyfreithiau a osodais ger eich bron heddiw.
32and observed to do all the statutes and the judgments which I am setting before you to day.