Welsh

Young`s Literal Translation

Deuteronomy

18

1 Ni fydd gan yr offeiriaid o Lefiaid, na neb o lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth gydag Israel. Yr offrymau trwy d�n i'r ARGLWYDD a fwyteir ganddynt fydd eu hetifeddiaeth.
1`There is not to the priests the Levites — all the tribe of Levi — a portion and inheritance with Israel; fire-offerings of Jehovah, even His inheritance, they eat,
2 Ni fydd ganddynt etifeddiaeth ymhlith eu cymrodyr; yr ARGLWYDD fydd eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd wrthynt.
2and he hath no inheritance in the midst of his brethren; Jehovah Himself [is] his inheritance, as He hath spoken to him.
3 Dyma fydd hawl yr offeiriaid oddi wrth y bobl sy'n offrymu aberth, prun ai eidion ynteu dafad: dylid rhoi i'r offeiriad yr ysgwydd, y ddwy foch a'r cylla.
3`And this is the priest`s right from the people, from those sacrificing a sacrifice, whether ox or sheep, he hath even given to the priest the leg, and the two cheeks, and the stomach;
4 Yr wyt i roi iddo flaenffrwyth dy u375?d, dy win newydd a'th olew, a'r cnu cyntaf wrth gneifio dy ddefaid;
4the first of thy corn, of thy new wine, and of thine oil, and the first of the fleece of thy flock, thou dost give to him;
5 oherwydd allan o'th holl lwythau dewisodd yr ARGLWYDD dy Dduw ef a'i ddisgynyddion i sefyll a gwasanaethu yn enw'r ARGLWYDD am byth.
5for on him hath Jehovah thy God fixed, out of all thy tribes, to stand to serve in the name of Jehovah, He and his sons continually.
6 Os bydd Lefiad, sy'n aros yn unrhyw un o'ch trefi trwy Israel gyfan, yn dod o'i wirfodd i'r man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis,
6`And when the Levite cometh from one of thy cities out of all Israel, where he hath sojourned, and hath come with all the desire of his soul unto the place which Jehovah doth choose,
7 caiff wasanaethu yn enw'r ARGLWYDD ei Dduw ymysg ei gyd-Lefiaid sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD yno.
7then he hath ministered in the name of Jehovah his God, like all his brethren, the Levites, who are standing there before Jehovah,
8 Caiff ran gyfartal i'w bwyta, heblaw'r hyn a gaiff o eiddo'i deulu.
8portion as portion they do eat, apart from his sold things, with the fathers.
9 Pan fyddi wedi dod i'r tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti, paid � dysgu gwneud yn �l arferion ffiaidd y cenhedloedd hynny.
9`When thou art coming in unto the land which Jehovah thy God is giving to thee, thou dost not learn to do according to the abominations of those nations:
10 Nid yw neb yn eich mysg i roi ei fab na'i ferch yn aberth trwy d�n; nac i arfer dewiniaeth, hudoliaeth, na darogan; nac i gonsurio,
10there is not found in thee one causing his son and his daughter to pass over into fire, a user of divinations, an observer of clouds, and an enchanter, and a sorcerer,
11 arfer swynion, ymwneud ag ysbrydion a bwganod, nac ymofyn �'r meirw.
11and a charmer, and one asking at a familiar spirit, and a wizard, and one seeking unto the dead.
12 Y mae unrhyw un sy'n ymh�l �'r rhain yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD; o achos yr arferion ffiaidd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru hwy allan o'th flaen.
12`For the abomination of Jehovah [is] every one doing these, and because of these abominations is Jehovah thy God dispossessing them from thy presence.
13 Yr wyt i fod yn ddi-fai gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw.
13Perfect thou art with Jehovah thy God,
14 Y mae'r cenhedloedd yr wyt yn eu disodli yn gwrando ar ddewiniaid a hudolwyr; ond nid yw'r ARGLWYDD dy Dduw yn caniat�u hyn i ti.
14for these nations whom thou art possessing, unto observers of clouds, and unto diviners, do hearken; and thou — not so hath Jehovah thy God suffered thee.
15 Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn codi o blith dy gymrodyr broffwyd fel fi, ac arno ef yr wyt i wrando,
15`A prophet out of thy midst, out of thy brethren, like to me, doth Jehovah thy God raise up to thee — unto him ye hearken;
16 oherwydd dyna oedd dy ddeisyfiad gan yr ARGLWYDD dy Dduw yn Horeb ar ddydd y cynulliad, pan ddywedaist, "Nid wyf am glywed llais yr ARGLWYDD fy Nuw rhagor, na gweld eto y t�n mawr hwn, rhag imi farw."
16according to all that thou didst ask from Jehovah thy God, in Horeb, in the day of the assembly, saying, Let me not add to hear the voice of Jehovah my God, and this great fire let me not see any more, and I die not;
17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Y mae'r hyn a ddywedant yn iawn;
17and Jehovah saith unto me, They have done well that they have spoken;
18 codaf iddynt o blith eu cymrodyr broffwyd fel ti, a rhof fy ngair yn ei enau, er mwyn iddo fynegi iddynt y cwbl y byddaf yn ei orchymyn iddo.
18a prophet I raise up to them, out of the midst of their brethren, like to thee; and I have given my words in his mouth, and he hath spoken unto them all that which I command him;
19 A phwy bynnag fydd heb wrando ar fy ngeiriau, y bydd y proffwyd wedi eu llefaru yn f'enw, bydd yn atebol i mi am hynny.
19and it hath been — the man who doth not hearken unto My words which he doth speak in My name, I require [it] of him.
20 Ond am y proffwyd fydd yn rhyfygu llefaru yn f'enw air nad wyf fi wedi ei orchymyn, neu sy'n llefaru yn enw duw arall, y mae'r proffwyd hwnnw i farw."
20`Only, the prophet who presumeth to speak a word in My name — that which I have not commanded him to speak — and who speaketh in the name of other gods — even that prophet hath died.
21 Os wyt yn gofyn i ti dy hun sut y mae adnabod y gair nad yw'r ARGLWYDD wedi ei lefaru:
21`And when thou sayest in thy heart, How do we know the word which Jehovah hath not spoken? —
22 beth bynnag y bydd proffwyd yn ei lefaru yn enw'r ARGLWYDD, a hwnnw heb ei gyflawni na'i wireddu, y mae hwnnw yn air nad yw'r ARGLWYDD wedi ei lefaru; mewn rhyfyg y bu i'r proffwyd ei lefaru; paid �'i ofni.
22that which the prophet speaketh in the name of Jehovah, and the thing is not, and cometh not — it [is] the word which Jehovah hath not spoken; in presumption hath the prophet spoken it; — thou art not afraid of him.