Welsh

Young`s Literal Translation

Ezekiel

30

1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
1And there is a word of Jehovah unto me, saying:
2 "Fab dyn, proffwyda, a dywed, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Galarwch, a dweud, "Och am y dydd!"
2`Son of man, prophesy, and thou hast said: Thus said the Lord Jehovah: Howl ye, ha! for the day!
3 Oherwydd agos yw'r dydd, agos yw dydd yr ARGLWYDD � dydd o gymylau, dydd barn y cenhedloedd.
3For near [is] a day, near [is] a day to Jehovah! A day of clouds, the time of nations it is.
4 Daw cleddyf yn erbyn yr Aifft, a bydd gwewyr yn Ethiopia pan syrth lladdedigion yr Aifft, a chymerir ymaith ei chyfoeth a malurio'i sylfeini.
4And come in hath a sword to Egypt, And there hath been great pain in Cush, In the falling of the wounded in Egypt, And they have taken its store, And broken down have been its foundations.
5 "'Bydd Ethiopia, Put, Lydia a holl Arabia, Libya, a phobl y wlad sydd mewn cynghrair � hwy, yn syrthio trwy'r cleddyf.
5Cush, and Phut, and Lud, and all the mixture, and Chub, And the sons of the land of the covenant with them by sword do fall,
6 "'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio, a darostyngir ei grym balch; o Migdol i Aswan byddant yn syrthio trwy'r cleddyf,' medd yr Arglwydd DDUW.
6Thus said Jehovah: And — fallen have supporters of Egypt, And come down hath the arrogance of her strength, From Migdol to Syene, by sword they fall in her, An affirmation of the Lord Jehovah.
7 'Byddant yn anrhaith ymysg gwledydd anrheithiedig, a bydd eu dinasoedd ymysg dinasoedd anghyfannedd.
7And they have been desolated in the midst of desolate lands, And its cities are in the midst of wasted cities.
8 Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan rof d�n ar yr Aifft, a phan ddryllir ei holl gynorthwywyr.
8And they have known that I [am] Jehovah, In My giving fire against Egypt, And broken have been all her helpers.
9 Y diwrnod hwnnw fe � negeswyr allan mewn llongau oddi wrthyf i ddychryn Ethiopia ddiofal, a daw gwewyr arnynt pan syrth yr Aifft; yn wir y mae'n dod.
9In that day go forth do messengers from before Me in ships, To trouble confident Cush, And there hath been great pain among them, As the day of Egypt, for lo, it hath come.
10 "'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Rhof ddiwedd ar finteioedd yr Aifft trwy law Nebuchadnesar brenin Babilon.
10Thus said the Lord Jehovah: I have caused the multitude of Egypt to cease, By the hand of Nebuchadrezzar king of Babylon,
11 Dygir ef, a'i fyddin gydag ef, y greulonaf o'r cenhedloedd, i mewn i ddifetha'r wlad; tynnant eu cleddyfau yn erbyn yr Aifft a llenwi'r wlad � lladdedigion.
11He and his people with him — the terrible of nations, Are brought in to destroy the land, And they have drawn their swords against Egypt, And have filled the land [with] the wounded.
12 Sychaf yr afonydd hefyd, a gwerthu'r wlad i rai drwg; trwy ddwylo estroniaid anrheithiaf y wlad a phopeth sydd ynddi. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.
12And I have made floods a dry place, And I have sold the land into the hand of evil doers, And I have made desolate the land, And its fulness, by the hand of strangers, I, Jehovah, have spoken.
13 "'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dinistriaf yr eilunod a rhof ddiwedd ar y delwau sydd yn Noff; ni fydd tywysog yng ngwlad yr Aifft mwyach, a pharaf fod ofn trwy'r wlad.
13Thus said the Lord Jehovah: And — I have destroyed idols, And caused vain things to cease from Noph, And a prince of the land of Egypt there is no more, And I give fear in the land of Egypt.
14 Anrheithiaf Pathros, a rhof d�n ar Soan, a gweithredu barn ar Thebes.
14And I have made Pathros desolate, And I have given fire against Zoan, And I have done judgments in No,
15 Tywalltaf fy llid ar Sin, cadarnle'r Aifft, a thorri ymaith finteioedd Thebes.
15And I have poured out My fury on Sin, the stronghold of Egypt, And I have cut off the multitude of No.
16 Rhof d�n ar yr Aifft, a bydd Sin mewn gwewyr mawr; rhwygir Thebes a bydd Noff mewn cyfyngder yn ddyddiol.
16And I have given fire against Egypt, Greatly pained is Sin, and No is to be rent, And Noph hath daily distresses.
17 Fe syrth gwu375?r ifainc On a Pibeseth trwy'r cleddyf, a dygir y merched i gaethglud.
17The youths of Aven and Pi-Beseth by sword do fall, And these into captivity do go.
18 Bydd y dydd yn dywyllwch yn Tahpanhes, pan dorraf yno iau yr Aifft a dod �'i grym balch i ben; fe'i gorchuddir � chwmwl, a dygir ei merched i gaethglud.
18And in Tehaphnehes hath the day been dark, In My breaking there the yokes of Egypt, And ceased in her hath the excellency of her strength, She — a cloud doth cover her, And her daughters into captivity do go.
19 Gweithredaf farn ar yr Aifft, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"
19And I have done judgments in Egypt, And they have known that I [am] Jehovah.`
20 Ar y seithfed dydd o'r mis cyntaf yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
20And it cometh to pass, in the eleventh year, in the first [month], in the seventh of the month, hath a word of Jehovah been unto me, saying: `Son of man,
21 "Fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft, ond ni rwymwyd hi i'w gwella, na'i rhoi mewn rhwymyn i'w chryfhau i ddal y cleddyf.
21The arm of Pharaoh, king of Egypt, I have broken, And lo, it hath not been bound up to give healing, To put a bandage to bind it, To strengthen it — to lay hold on the sword.
22 Felly fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Yr wyf yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a thorraf ei freichiau, yr un iach a'r un sydd wedi ei thorri, a gwneud i'r cleddyf syrthio o'i law.
22Therefore, thus said the Lord Jehovah: Lo, I [am] against Pharaoh, king of Egypt, And I have broken his arms, The strong one and the broken one, And have caused the sword to fall out of his hand,
23 Gwasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd a'u chwalu trwy'r gwledydd.
23And scattered the Egyptians among nations, And I have spread them through lands,
24 Cryfhaf freichiau brenin Babilon a rhoi fy nghleddyf yn ei law, ond torraf freichiau Pharo, a bydd yn griddfan o'i flaen fel un wedi ei glwyfo i farwolaeth.
24And strengthened the arms of the king of Babylon, And I have given My sword into his hand, And I have broken the arms of Pharaoh, And he hath groaned the groans of a pierced one — before him.
25 Atgyfnerthaf freichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau Pharo'n llipa. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan rof fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac yntau'n ei ysgwyd yn erbyn gwlad yr Aifft.
25And I have strengthened the arms of the king of Babylon, And the arms of Pharaoh do fall down, And they have known that I [am] Jehovah, In My giving My sword into the hand of the king of Babylon, And he hath stretched it out toward the land of Egypt.
26 Gwasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd a'u chwalu trwy'r gwledydd, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"
26And I have scattered the Egyptians among nations, And I have spread them through lands, And they have known that I [am] Jehovah!`