1 Felly aeth Israel ar ei daith gyda'i holl eiddo, a dod i Beerseba lle yr offrymodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac.
1And Israel journeyeth, and all that he hath, and cometh in to Beer-Sheba, and sacrificeth sacrifices to the God of his father Isaac;
2 Llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaeth nos, a dweud, "Jacob, Jacob." Atebodd yntau, "Dyma fi."
2and God speaketh to Israel in visions of the night, and saith, `Jacob, Jacob;` and he saith, `Here [am] I.`
3 Yna dywedodd, "Myfi yw Duw, Duw dy dad. Paid ag ofni mynd i lawr i'r Aifft, oherwydd fe'th wnaf di'n genedl fawr yno.
3And He saith, `I [am] God, God of thy father, be not afraid of going down to Egypt, for for a great nation I set thee there;
4 Af i lawr i'r Aifft gyda thi, a dof � thi yn �l drachefn. A chaiff Joseff gau dy lygaid."
4I — I go down with thee to Egypt, and I — I also certainly bring thee up, and Joseph doth put his hand on thine eyes.`
5 Yna cychwynnodd Jacob o Beerseba. Cludodd meibion Israel eu tad Jacob, eu rhai bach, a'u gwragedd, yn y wageni yr oedd Pharo wedi eu hanfon.
5And Jacob riseth from Beer-Sheba, and the sons of Israel bear away Jacob their father, And their infants, and their wives, in the waggons which Pharaoh hath sent to bear him,
6 Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid a'u meddiannau a gasglwyd yng ngwlad Canaan, a dod i'r Aifft, Jacob a'i holl deulu gydag ef,
6and they take their cattle, and their goods which they have acquired in the land of Canaan, and come into Egypt — Jacob, and all his seed with him,
7 ei feibion a'i ferched a'i wyrion; daeth �'i deulu i gyd i'r Aifft.
7his sons, and his sons` sons with him, his daughters, and his sons` daughters, yea, all his seed he brought with him into Egypt.
8 Dyma enwau'r Israeliaid a ddaeth i'r Aifft, sef Jacob, a'i feibion: Reuben cyntafanedig Jacob,
8And these [are] the names of the sons of Israel who are coming into Egypt: Jacob and his sons, Jacob`s first-born, Reuben.
9 a meibion Reuben: Hanoch, Palu, Hesron a Charmi.
9And sons of Reuben: Hanoch, and Phallu, and Hezron, and Carmi.
10 Meibion Simeon: Jemwel, Jamin, Ohad, Jachin, Sohar, a Saul mab gwraig o blith y Canaaneaid.
10And sons of Simeon: Jemuel, and Jamin, and Ohad, and Jachin, and Zohar, and Shaul son of the Canaanitess.
11 Meibion Lefi: Gerson, Cohath a Merari.
11And sons of Levi: Gershon, Kohath, and Merari.
12 Meibion Jwda: Er, Onan, Sela, Peres a Sera (ond bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan); a meibion Peres: Hesron a Hamul.
12And sons of Judah: Er, and Onan, and Shelah, and Pharez, and Zarah, (and Er and Onan die in the land of Canaan.) And sons of Pharez are Hezron and Hamul.
13 Meibion Issachar: Tola, Pufa, Job a Simron.
13And sons of Issachar: Tola, and Phuvah, and Job, and Shimron.
14 Meibion Sabulon: Sered, Elon a Jahleel.
14And sons of Zebulun: Sered, and Elon, and Jahleel.
15 Dyna'r meibion a ddygodd Lea i Jacob yn Padan Aram, ac yr oedd hefyd ei ferch Dina. Tri deg a thri oedd rhif ei feibion a'i ferched.
15These [are] sons of Leah whom she bare to Jacob in Padan-Aram, and Dinah his daughter; all the persons of his sons and his daughters [are] thirty and three.
16 Meibion Gad: Siffion, Haggi, Suni, Esbon, Eri, Arodi ac Areli.
16And sons of Gad: Ziphion, and Haggi, Shuni, and Ezbon, Eri, and Arodi, and Areli.
17 Meibion Aser: Imna, Isfa, Isfi, Bereia, a'u chwaer Sera; a meibion Bereia, Heber a Malchiel.
17And sons of Asher: Jimnah, and Ishuah, and Isui, and Beriah, and Serah their sister. And sons of Beriah: Heber and Malchiel.
18 Dyna feibion Silpa, a roddodd Laban i Lea ei ferch, un ar bymtheg i gyd, wedi eu geni i Jacob.
18These [are] sons of Zilpah, whom Laban gave to Leah his daughter, and she beareth these to Jacob — sixteen persons.
19 Meibion Rachel gwraig Jacob: Joseff a Benjamin.
19Sons of Rachel, Jacob`s wife: Joseph and Benjamin.
20 Ac i Joseff yn yr Aifft ganwyd Manasse ac Effraim, meibion Asnath, merch Potiffera offeiriad On.
20And born to Joseph in the land of Egypt (whom Asenath daughter of Poti-Pherah, priest of On, hath borne to him) [are] Manasseh and Ephraim.
21 Meibion Benjamin: Bela, Becher, Asbel, Gera, Naaman, Ehi, Ros, Muppim, Huppim ac Ard.
21And sons of Benjamin: Belah, and Becher, and Ashbel, Gera, and Naaman, Ehi, and Rosh, Muppim, and Huppim, and Ard.
22 Dyna feibion Rachel, pedwar ar ddeg i gyd, wedi eu geni i Jacob.
22These [are] sons of Rachel, who were born to Jacob; all the persons [are] fourteen.
23 Mab Dan: Husim.
23And sons of Dan: Hushim.
24 Meibion Nafftali: Jahseel, Guni, Jeser a Silem.
24And sons of Naphtali: Jahzeel, and Guni, and Jezer, and Shillem.
25 Dyma feibion Bilha, a roddodd Laban i Rachel ei ferch, saith i gyd, wedi eu geni i Jacob.
25These [are] sons of Bilhah, whom Laban gave to Rachel his daughter; and she beareth these to Jacob — all the persons [are] seven.
26 Chwe deg a chwech oedd nifer tylwyth Jacob ei hun, sef pawb a ddaeth gydag ef i'r Aifft, heb gyfrif gwragedd ei feibion.
26All the persons who are coming to Jacob to Egypt, coming out of his thigh, apart from the wives of Jacob`s sons, all the persons [are] sixty and six.
27 Dau oedd nifer meibion Joseff a anwyd iddo yn yr Aifft; felly saith deg oedd nifer cyflawn teulu Jacob a ddaeth i'r Aifft.
27And the sons of Joseph who have been born to him in Egypt [are] two persons. All the persons of the house of Jacob who are coming into Egypt [are] seventy.
28 Anfonwyd Jwda ar y blaen at Joseff i gael cyfarwyddyd am y ffordd i Gosen, ac felly daethant i wlad Gosen.
28And Judah he hath sent before him unto Joseph, to direct before him to Goshen, and they come into the land of Goshen;
29 Gwnaeth Joseff ei gerbyd yn barod, ac aeth i gyfarfod �'i dad Israel yn Gosen, a phan ddaeth i'w u373?ydd, rhoes ei freichiau am ei wddf gan wylo'n hidl.
29and Joseph harnesseth his chariot, and goeth up to meet Israel his father, to Goshen, and appeareth unto him, and falleth on his neck, and weepeth on his neck again;
30 Ac meddai Israel wrth Joseff, "Yr wyf yn barod i farw yn awr, wedi gweld dy wyneb a gwybod dy fod yn dal yn fyw."
30and Israel saith unto Joseph, `Let me die this time, after my seeing thy face, for thou [art] yet alive.`
31 Dywedodd Joseff wrth ei frodyr a theulu ei dad, "Mi af i ddweud wrth Pharo fod fy mrodyr a theulu fy nhad wedi dod ataf o wlad Canaan,
31And Joseph saith unto his brethren, and unto the house of his father, `I go up, and declare to Pharaoh, and say unto him, My brethren, and the house of my father who [are] in the land of Canaan have come in unto me;
32 ac mai bugeiliaid a pherchenogion anifeiliaid ydynt, a'u bod wedi dod �'u preiddiau, eu gyrroedd a'u holl eiddo gyda hwy.
32and the men [are] feeders of a flock, for they have been men of cattle; and their flock, and their herd, and all that they have, they have brought.`
33 Felly pan fydd Pharo yn galw amdanoch i holi beth yw eich galwedigaeth,
33`And it hath come to pass when Pharaoh calleth for you, and hath said, What [are] your works?
34 atebwch chwithau, 'Bu dy weision o'u hieuenctid hyd heddiw yn berchenogion anifeiliaid, fel ein tadau.' Hyn er mwyn ichwi gael aros yng ngwlad Gosen, oherwydd y mae'r Eifftiaid yn ffieiddio pob bugail."
34that ye have said, Thy servants have been men of cattle from our youth, even until now, both we and our fathers, — in order that ye may dwell in the land of Goshen, for the abomination of the Egyptians is every one feeding a flock.`