Welsh

Young`s Literal Translation

Isaiah

17

1 Yr oracl am Ddamascus: "Wele fe beidia Damascus � bod yn ddinas; bydd yn bentwr o adfeilion.
1The burden of Damascus. Lo, Damascus is taken away from [being] a city, And it hath been a heap — a ruin.
2 Gwrthodir ei dinasoedd am byth, a byddant yn lle i ddiadelloedd orwedd ynddo heb neb i'w cyffroi.
2Forsaken are the cities of Aroer, For droves they are, and they have lain down, And there is none troubling.
3 Derfydd am y gaer yn Effraim, ac am y frenhiniaeth yn Namascus; bydd gweddill Syria fel gogoniant Israel," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
3And ceased hath the fortress from Ephraim, And the kingdom from Damascus, And the remnant of Aram are as the honour of the sons of Israel, The affirmation of Jehovah of Hosts!
4 "Ac yn y dydd hwnnw, bydd gogoniant Jacob yn cilio a braster ei gig yn darfod.
4And it hath come to pass, in that day, Wax poor doth the honour of Jacob, And the fatness of his flesh doth wax lean.
5 Pan fydd medelwr yn casglu'r cnwd u375?d, ac yn medi'r tywysennau �'i fraich, bydd fel lloffa tywysennau yn nyffryn Reffaim.
5And it hath come to pass, As the gathering by the reaper of the standing corn, And his arm the ears reapeth, And it hath come to pass, As the gathering of the ears in the valley of Rephaim,
6 Ac ni chaiff ond gweddillion wrth guro'r olewydd, dim ond dau ffrwyth neu dri ar flaen y brigau, pedwar neu bump o ffrwythau ar ganghennau'r coed," medd yr ARGLWYDD, Duw Israel.
6And left in him have been gleanings, As the compassing of an olive, Two — three berries on the top of a branch, Four — five on the fruitful boughs, The affirmation of Jehovah, God of Israel!
7 Yn y dydd hwnnw fe edrych pobl at eu Gwneuthurwr, a throi eu golwg at Sanct Israel.
7In that day doth man look to His Maker, Yea, his eyes to the Holy One of Israel look,
8 Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd � y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu.
8And he looketh not unto the altars. The work of his own hands, And that which his own fingers made He seeth not — the shrines and the images.
9 Yn y dydd hwnnw y gadewir eu dinasoedd cadarn fel adfeilion dinasoedd yr Hefiaid a'r Amoriaid, a adawyd o achos yr Israeliaid; a byddant yn ddiffaith.
9In that day are the cities of his strength As the forsaken thing of the forest, And the branch that they have left, Because of the sons of Israel, It also hath been a desolation.
10 Oherwydd anghofiaist y Duw a'th achubodd; ni chofiaist graig dy gadernid; am hynny, er i ti blannu planhigion hyfryd a gosod impyn estron,
10Because thou hast forgotten the God of thy salvation, And the rock of thy strength hast not remembered, Therefore thou plantest plants of pleasantness, And with a strange slip sowest it,
11 a'u cael i dyfu ar y dydd y plennaist hwy ac i flodeuo yn y bore yr heuaist hwy, bydd y cnwd wedi crino mewn dydd o ofid a gwendid nychlyd.
11In the day thy plant thou causest to become great, And in the morning thy seed makest to flourish, A heap [is] the harvest in a day of overflowing, And of mortal pain.
12 Och! Twrf pobloedd lawer yn taranu fel tonnau'r m�r; y mae rhuad y bobloedd fel rhuad dyfroedd cryfion.
12Wo [to] the multitude of many peoples, As the sounding of seas they sound; And [to] the wasting of nations, As the wasting of mighty waters they are wasted.
13 Er bod y bobloedd yn rhuo fel rhuad dyfroedd mawrion, pan geryddir hwy, fe ffoant ymhell; erlidir hwy fel peiswyn ar fynydd o flaen y gwynt, fel plu ysgall o flaen corwynt.
13Nations as the wasting of many waters are wasted, And He hath pushed against it, And it hath fled afar off, And been pursued as chaff of hills before wind, And as a rolling thing before a hurricane.
14 Tua'r hwyrddydd wele drallod; cyn y bore aeth y cyfan. Dyma dynged ein hysbeilwyr, dyma ran ein rheibwyr.
14At even-time, lo, terror, before morning it is not, This [is] the portion of our spoilers, And the lot of our plunderers!