1 Yn y flwyddyn pan ddaeth y cadfridog, a anfonwyd gan Sargon brenin Asyria, i Asdod ac ymladd yn ei herbyn a'i hennill,
1In the year of the coming in of Tartan to Ashdod, when Sargon king of Asshur sendeth him, and he fighteth against Ashdod, and captureth it,
2 dyna'r pryd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia fab Amos, "Dos, datod y sachliain oddi am dy lwynau, a thyn dy sandalau oddi am dy draed." Fe wnaeth hynny, a cherddodd o amgylch heb ddillad ac yn droednoeth.
2at that time spake Jehovah by the hand of Isaiah son of Amoz, saying, `Go, and thou hast loosed the sackcloth from off thy loins, and thy sandal thou dost draw from off thy foot,` and he doth so, going naked and barefoot.
3 Dywedodd yr ARGLWYDD, "Fel y mae fy ngwas Eseia wedi bod yn cerdded heb ddillad ac yn droednoeth am dair blynedd, yn arwydd a rhybudd yn erbyn yr Aifft ac Ethiopia,
3And Jehovah saith, `As My servant Isaiah hath gone naked and barefoot three years, a sign and a wonder for Egypt and for Cush,
4 felly y bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid yn gaeth ac Ethiopia i gaethglud, yn ifanc a hen, heb ddillad, yn droednoeth ac yn dinnoeth, yn gywilydd i'r Aifft.
4so doth the king of Asshur lead the captivity of Egypt, and the removal of Cush, young and old, naked and barefoot, with seat uncovered — the nakedness of Egypt;
5 Bydd pawb mewn arswyd a dryswch o achos Ethiopia, eu gobaith, a'r Aifft, eu balchder.
5and they have been affrighted and ashamed of Cush their confidence, and of Egypt their beauty,
6 Bydd pawb sy'n trigo ar y traethau hyn yn y dydd hwnnw yn dweud, 'Dyma sydd wedi digwydd i'r rhai yr oeddem ni'n gobeithio ynddynt ac yn dibynnu arnynt am help a gwaredigaeth o afael brenin Asyria. Sut felly y dihangwn?'"
6and the inhabitant of this isle hath said in that day — Lo, thus [is] our trust, Whither we have fled for help, To be delivered from the king of Asshur, And how do we escape — we?`