Welsh

Young`s Literal Translation

John

15

1 "Myfi yw'r wir winwydden, a'm Tad yw'r gwinllannwr.
1`I am the true vine, and my Father is the husbandman;
2 Y mae ef yn torri i ffwrdd bob cangen ynof fi nad yw'n dwyn ffrwyth, ac yn glanhau pob un sydd yn dwyn ffrwyth, er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth.
2every branch in me not bearing fruit, He doth take it away, and every one bearing fruit, He doth cleanse by pruning it, that it may bear more fruit;
3 Yr ydych chwi eisoes yn l�n trwy'r gair yr wyf wedi ei lefaru wrthych.
3already ye are clean, because of the word that I have spoken to you;
4 Arhoswch ynof fi, a minnau ynoch chwi. Ni all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, heb iddi aros yn y winwydden; ac felly'n union ni allwch chwithau heb i chwi aros ynof fi.
4remain in me, and I in you, as the branch is not able to bear fruit of itself, if it may not remain in the vine, so neither ye, if ye may not remain in me.
5 Myfi yw'r winwydden; chwi yw'r canghennau. Y mae'r sawl sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, yn dwyn llawer o ffrwyth, oherwydd ar wah�n i mi ni allwch wneud dim.
5`I am the vine, ye the branches; he who is remaining in me, and I in him, this one doth bear much fruit, because apart from me ye are not able to do anything;
6 Os na fydd rhywun yn aros ynof fi, caiff ei daflu i ffwrdd fel y gangen ddiffrwyth, ac fe wywa; dyma'r canghennau a gesglir, i'w taflu i'r t�n a'u llosgi.
6if any one may not remain in me, he was cast forth without as the branch, and was withered, and they gather them, and cast to fire, and they are burned;
7 Os arhoswch ynof fi, ac os erys fy ngeiriau ynoch chwi, gofynnwch am beth a fynnwch, ac fe'i rhoddir ichwi.
7if ye may remain in me, and my sayings in you may remain, whatever ye may wish ye shall ask, and it shall be done to you.
8 Dyma sut y gogoneddir fy Nhad: trwy i chwi ddwyn llawer o ffrwyth a bod yn ddisgyblion i mi.
8`In this was my Father glorified, that ye may bear much fruit, and ye shall become my disciples.
9 Fel y mae'r Tad wedi fy ngharu i, yr wyf finnau wedi eich caru chwi. Arhoswch yn fy nghariad i.
9According as the Father did love me, I also loved you, remain in my love;
10 Os cadwch fy ngorch-mynion fe arhoswch yn fy nghariad, yn union fel yr wyf fi wedi cadw gorchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.
10if my commandments ye may keep, ye shall remain in my love, according as I the commands of my Father have kept, and do remain in His love;
11 "Yr wyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i'm llawenydd i fod ynoch, ac i'ch llawenydd chwi fod yn gyflawn.
11these things I have spoken to you, that my joy in you may remain, and your joy may be full.
12 Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi.
12`This is my command, that ye love one another, according as I did love you;
13 Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.
13greater love than this hath no one, that any one his life may lay down for his friends;
14 Yr ydych chwi'n gyfeillion i mi os gwnewch yr hyn yr wyf fi'n ei orchymyn ichwi.
14ye are my friends, if ye may do whatever I command you;
15 Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision, oherwydd nid yw'r gwas yn gwybod beth y mae ei feistr yn ei wneud. Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion, oherwydd yr wyf wedi gwneud yn hysbys i chwi bob peth a glywais gan fy Nhad.
15no more do I call you servants, because the servant hath not known what his lord doth, and you I have called friends, because all things that I heard from my Father, I did make known to you.
16 Nid chwi a'm dewisodd i, ond myfi a'ch dewisodd chwi, a'ch penodi i fynd allan a dwyn ffrwyth, ffrwyth sy'n aros. Ac yna, fe rydd y Tad i chwi beth bynnag a ofynnwch ganddo yn fy enw i.
16`Ye did not choose out me, but I chose out you, and did appoint you, that ye might go away, and might bear fruit, and your fruit might remain, that whatever ye may ask of the Father in my name, He may give you.
17 Dyma'r gorchymyn yr wyf yn ei roi i chwi: carwch eich gilydd.
17`These things I command you, that ye love one another;
18 "Os yw'r byd yn eich cas�u chwi, fe wyddoch ei fod wedi fy nghas�u i o'ch blaen chwi.
18if the world doth hate you, ye know that it hath hated me before you;
19 Pe baech yn perthyn i'r byd, byddai'r byd yn caru'r eiddo'i hun. Ond gan nad ydych yn perthyn i'r byd, oherwydd i mi eich dewis chwi allan o'r byd, y mae'r byd yn eich cas�u chwi.
19if of the world ye were, the world its own would have been loving, and because of the world ye are not — but I chose out of the world — because of this the world hateth you.
20 Cofiwch y gair a ddywedais i wrthych: 'Nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr.' Os erlidiasant fi, fe'ch erlidiant chwithau; os cadwasant fy ngair i, fe gadwant yr eiddoch chwithau.
20`Remember the word that I said to you, A servant is not greater than his lord; if me they did persecute, you also they will persecute; if my word they did keep, yours also they will keep;
21 Fe wn�nt hyn oll i chwi o achos fy enw i, am nad ydynt yn adnabod yr hwn a'm hanfonodd i.
21but all these things will they do to you, because of my name, because they have not known Him who sent me;
22 Pe buaswn i heb ddod a llefaru wrthynt, ni buasai ganddynt bechod. Ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod.
22if I had not come and spoken to them, they were not having sin; but now pretext they have not for their sin.
23 Y mae'r sawl sy'n fy nghas�u i yn cas�u fy Nhad hefyd.
23`He who is hating me, doth hate also my Father;
24 Pe na buaswn wedi gwneud gweith-redoedd yn eu plith na wnaeth neb arall, ni buasai ganddynt bechod. Ond yn awr y maent wedi gweld, ac wedi cas�u fy Nhad a minnau.
24if I did not do among them the works that no other hath done, they were not having sin, and now they have both seen and hated both me and my Father;
25 Ond rhaid oedd cyflawni'r gair sy'n ysgrifenedig yn eu Cyfraith hwy: 'Y maent wedi fy nghas�u heb achos.'
25but — that the word may be fulfilled that was written in their law — They hated me without a cause.
26 "Pan ddaw'r Eiriolwr a anfonaf fi atoch oddi wrth y Tad, sef Ysbryd y Gwirionedd, sy'n dod oddi wrth y Tad, bydd ef yn tystiolaethu amdanaf fi.
26`And when the Comforter may come, whom I will send to you from the Father — the Spirit of truth, who from the Father doth come forth, he will testify of me;
27 Ac yr ydych chwi hefyd yn tystiolaethu, am eich bod gyda mi o'r dechrau.
27and ye also do testify, because from the beginning ye are with me.