1 Llefarodd Dafydd eiriau'r gerdd hon wrth yr ARGLWYDD y diwrnod y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion ac o law Saul,
1And David spake unto Jehovah the words of this song in the day that Jehovah delivered him out of the hand of all his enemies, and out of the hand of Saul:
2 a dywedodd: "Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd;
2and he said, Jehovah is my rock, and my fortress, and my deliverer, even mine;
3 fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer, fy noddfa, a'm hachubwr sy'n fy achub rhag trais.
3God, my rock, in him will I take refuge; My shield, and the horn of my salvation, my high tower, and my refuge; My saviour, thou savest me from violence.
4 "Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl, ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.
4I will call upon Jehovah, who is worthy to be praised: So shall I be saved from mine enemies.
5 Pan oedd tonnau angau yn f'amgylchynu a llifeiriant distryw yn fy nal,
5For the waves of death compassed me; The floods of ungodliness made me afraid:
6 pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchu a maglau angau o'm blaen,
6The cords of Sheol were round about me; The snares of death came upon me.
7 gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo; clywodd fy llef o'i deml, a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.
7In my distress I called upon Jehovah; Yea, I called unto my God: And he heard my voice out of his temple, And my cry [came] into his ears.
8 "Crynodd y ddaear a gwegian, ysgydwodd sylfeini'r nefoedd, a siglo oherwydd ei ddicter ef.
8Then the earth shook and trembled, The foundations of heaven quaked And were shaken, because he was wroth.
9 Cododd mwg o'i ffroenau, yr oedd t�n yn ysu o'i enau, a marwor yn cynnau o'i gwmpas.
9There went up a smoke out of his nostrils, And fire out of his mouth devoured: Coals were kindled by it.
10 Fe agorodd y ffurfafen a disgyn, ac yr oedd tywyllwch dan ei draed.
10He bowed the heavens also, and came down; And thick darkness was under his feet.
11 Marchogodd ar gerwb a hedfan, gwibiodd ar adenydd y gwynt.
11And he rode upon a cherub, and did fly; Yea, he was seen upon the wings of the wind.
12 Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn babell, a chymylau duon yn orchudd.
12And he made darkness pavilions round about him, Gathering of waters, thick clouds of the skies.
13 o'r disgleirdeb o'i flaen tasgodd cerrig t�n.
13At the brightness before him Coals of fire were kindled.
14 Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd, a llefarodd llais y Goruchaf.
14Jehovah thundered from heaven, And the Most High uttered his voice.
15 Bwriodd allan ei saethau yma ac acw, saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.
15And he sent out arrows, and scattered them; Lightning, and discomfited them.
16 Daeth gwaelodion y m�r i'r golwg, a dinoethwyd sylfeini'r byd, oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chwythiad anadl dy ffroenau.
16Then the channels of the sea appeared, The foundations of the world were laid bare, By the rebuke of Jehovah, At the blast of the breath of his nostrils.
17 "Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd, tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.
17He sent from on high, he took me; He drew me out of many waters;
18 Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol, rhag y rhai sy'n fy nghas�u pan oeddent yn gryfach na mi.
18He delivered me from my strong enemy, From them that hated me; for they were too mighty for me.
19 Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng, ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.
19They came upon me in the day of my calamity; But Jehovah was my stay.
20 Dygodd fi allan i le agored, a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.
20He brought me forth also into a large place; He delivered me, because he delighted in me.
21 "Gwnaeth yr ARGLWYDD � mi yn �l fy nghyfiawnder, a thalodd i mi yn �l glendid fy nwylo.
21Jehovah rewarded me according to my righteousness; According to the cleanness of my hands hath he recompensed me.
22 Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;
22For I have kept the ways of Jehovah, And have not wickedly departed from my God.
23 yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen, ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.
23For all his ordinances were before me; And as for his statutes, I did not depart from them.
24 Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg, a chedwais fy hun rhag troseddu.
24I was also perfect toward him; And I kept myself from mine iniquity.
25 Talodd yr ARGLWYDD imi yn �l fy nghyfiawnder, ac yn �l glendid fy nwylo yn ei olwg.
25Therefore hath Jehovah recompensed me according to my righteousness, According to my cleanness in his eyesight.
26 Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon, yn ddifeius i'r sawl sydd ddifeius,
26With the merciful thou wilt show thyself merciful; With the perfect man thou wilt show thyself perfect;
27 ac yn bur i'r rhai pur; ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.
27With the pure thou wilt show thyself pure; And with the perverse thou wilt show thyself froward.
28 Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig, ac yn darostwng y beilchion.
28And the afflicted people thou wilt save; But thine eyes are upon the haughty, that thou mayest bring them down.
29 Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD; fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.
29For thou art my lamp, O Jehovah; And Jehovah will lighten my darkness.
30 Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu; trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.
30For by thee I run upon a troop; By my God do I leap over a wall.
31 Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.
31As for God, his way is perfect: The word of Jehovah is tried; He is a shield unto all them that take refuge in him.
32 "Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD? A phwy sydd graig ond ein Duw ni?
32For who is God, save Jehovah? And who is a rock, save our God?
33 Duw yw fy nghaer gadarn, sy'n gwneud fy ffordd yn ddifeius.
33God is my strong fortress; And he guideth the perfect in his way.
34 Gwna fy nhraed fel rhai ewig, a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.
34He maketh his feet like hinds' [feet], And setteth me upon my high places.
35 Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela, i'm breichiau dynnu bwa pres.
35He teacheth my hands to war, So that mine arms do bend a bow of brass.
36 Rhoist imi dy darian i'm gwaredu, a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.
36Thou hast also given me the shield of thy salvation; And thy gentleness hath made me great.
37 Rhoist imi le llydan i'm camau, ac ni lithrodd fy nhraed.
37Thou hast enlarged my steps under me; And my feet have not slipped.
38 Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu distrywio; ni ddychwelaf nes eu difetha.
38I have pursued mine enemies, and destroyed them; Neither did I turn again till they were consumed.
39 Yr wyf yn eu difa a'u trywanu fel na allant godi, ac y maent yn syrthio dan fy nhraed.
39And I have consumed them, and smitten them through, so that they cannot arise: Yea, they are fallen under my feet.
40 Yr wyt wedi fy ngwregysu � nerth i'r frwydr, a darostwng fy ngelynion danaf.
40For thou hast girded me with strength unto the battle; Thou hast subdued under me those that rose up against me.
41 Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf, a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghas�u.
41Thou hast also made mine enemies turn their backs unto me, That I might cut off them that hate me.
42 Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd, yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.
42They looked, but there was none to save; Even unto Jehovah, but he answered them not.
43 Fe'u maluriaf cyn faned � llwch y ddaear, a'u malu a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.
43Then did I beat them small as the dust of the earth, I did crush them as the mire of the streets, and did spread them abroad.
44 Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl, a'm cadw yn ben ar y cenhedloedd; pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.
44Thou also hast delivered me from the strivings of my people; Thou hast kept me to be the head of the nations: A people whom I have not known shall serve me.
45 Estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen, pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi.
45The foreigners shall submit themselves unto me: As soon as they hear of me, they shall obey me.
46 Y mae estroniaid yn gwangalonni, ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.
46The foreigners shall fade away, And shall come trembling out of their close places.
47 "Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig, dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,
47Jehovah liveth; And blessed be my rock; And exalted be God, the rock of my salvation,
48 y Duw sy'n rhoi imi ddialedd, ac yn darostwng pobloedd danaf,
48Even the God that executeth vengeance for me, And that bringeth down peoples under me,
49 sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion, yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr, ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.
49And that bringeth me forth from mine enemies: Yea, thou liftest me up above them that rise up against me; Thou deliverest me from the violent man.
50 Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd, a chanaf fawl i'th enw.
50Therefore I will give thanks unto thee, O Jehovah, among the nations, And will sing praises unto thy name.
51 Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog, i Ddafydd ac i'w had am byth."
51Great deliverance giveth he to his king, And showeth lovingkindness to his anointed, To David and to his seed, for evermore.