Welsh

American Standard Version

Leviticus

26

1 "'Peidiwch � gwneud ichwi eilunod, na chodi ichwi eich hunain ddelw na cholofn; na fydded o fewn eich tir faen cerfiedig i blygu iddo; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.
1Ye shall make you no idols, neither shall ye rear you up a graven image, or a pillar, neither shall ye place any figured stone in your land, to bow down unto it: for I am Jehovah your God.
2 Cadwch fy Sabothau a pharchwch fy nghysegr; myfi yw'r ARGLWYDD.
2Ye shall keep my sabbaths, and reverence my sanctuary: I am Jehovah.
3 "'Os byddwch yn dilyn fy neddfau ac yn gofalu cadw fy ngorchmynion,
3If ye walk in my statutes, and keep my commandments, and do them;
4 rhoddaf ichwi'r glaw yn ei dymor, a rhydd y tir ei gnwd a choed y maes eu ffrwyth.
4then I will give your rains in their season, and the land shall yield its increase, and the trees of the field shall yield their fruit.
5 Bydd dyrnu'n ymestyn hyd amser y cynhaeaf grawnwin, a'r cynhaeaf grawnwin hyd amser plannu, a byddwch yn bwyta i'ch digoni ac yn byw'n ddiogel yn eich gwlad.
5And your threshing shall reach unto the vintage, and the vintage shall reach unto the sowing time; and ye shall eat your bread to the full, and dwell in your land safely.
6 Rhoddaf heddwch yn y wlad, a chewch orwedd i lawr heb neb i'ch dychryn; symudaf y bwystfilod peryglus o'r wlad, ac ni ddaw'r cleddyf trwy eich tir.
6And I will give peace in the land, and ye shall lie down, and none shall make you afraid: and I will cause evil beasts to cease out of the land, neither shall the sword go through your land.
7 Byddwch yn ymlid eich gelynion, a byddant yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf.
7And ye shall chase your enemies, and they shall fall before you by the sword.
8 Bydd pump ohonoch yn ymlid cant a chant ohonoch yn ymlid deng mil, a bydd eich gelynion yn syrthio o'ch blaen trwy'r cleddyf.
8And five of you shall chase a hundred, and a hundred of you shall chase ten thousand; and your enemies shall fall before you by the sword.
9 Byddaf yn edrych yn ffafriol arnoch, yn eich gwneud yn ffrwythlon ac yn eich cynyddu, a byddaf yn cadw fy nghyfamod � chwi.
9And I will have respect unto you, and make you fruitful, and multiply you, and will establish my covenant with you.
10 Byddwch yn dal i fwyta'r hen gnwd, ac yn gorfod bwrw allan yr hen i wneud lle i'r newydd.
10And ye shall eat old store long kept, and ye shall bring forth the old because of the new.
11 Byddaf yn gosod fy nhabernacl yn eich mysg, ac ni fyddaf yn eich ffieiddio.
11And I will set my tabernacle among you: and my soul shall not abhor you.
12 Byddaf yn rhodio yn eich mysg; byddaf yn Dduw i chwi a chwithau'n bobl i minnau.
12And I will walk among you, and will be your God, and ye shall be my people.
13 Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth � chwi allan o wlad yr Aifft rhag ichwi fod yn weision yno; torrais farrau eich iau a gwneud ichwi gerdded yn sythion.
13I am Jehovah your God, who brought you forth out of the land of Egypt, that ye should not be their bondmen; and I have broken the bars of your yoke, and made you go upright.
14 "'Ond os na fyddwch yn gwrando arnaf nac yn gwneud yr holl orchmynion hyn,
14But if ye will not hearken unto me, and will not do all these commandments;
15 ac os byddwch yn gwrthod fy neddfau ac yn ffieiddio fy marnedigaethau, heb gadw fy ngorchmynion, ond yn torri fy nghyfamod,
15and if ye shall reject my statutes, and if your soul abhor mine ordinances, so that ye will not do all my commandments, but break my covenant;
16 yna fe wnaf hyn � chwi: byddaf yn dwyn dychryn arnoch, darfodedigaeth a thwymyn a fydd yn gwneud i'ch llygaid ballu ac i'ch enaid ddihoeni. Byddwch yn hau'n ofer, gan mai eich gelynion fydd yn ei fwyta.
16I also will do this unto you: I will appoint terror over you, even consumption and fever, that shall consume the eyes, and make the soul to pine away; and ye shall sow your seed in vain, for your enemies shall eat it.
17 Trof fy wyneb i'ch erbyn, a chewch eich gorchfygu gan eich gelynion; bydd y rhai sy'n eich cas�u yn rheoli drosoch, a byddwch yn ffoi heb neb yn eich ymlid.
17And I will set my face against you, and ye shall be smitten before your enemies: they that hate you shall rule over you; and ye shall flee when none pursueth you.
18 "'Os na fyddwch ar �l hyn i gyd yn gwrando arnaf, byddaf yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau.
18And if ye will not yet for these things hearken unto me, then I will chastise you seven times more for your sins.
19 Fe ddrylliaf eich balchder ystyfnig, a gwnaf y nefoedd uwch eich pen fel haearn a'r ddaear danoch fel pres.
19And I will break the pride of your power: and I will make your heaven as iron, and your earth as brass;
20 Byddwch yn treulio'ch nerth yn ofer, oherwydd ni fydd eich tir yn rhoi ei gnwd na choed y maes eu ffrwyth.
20and your strength shall be spent in vain; for your land shall not yield its increase, neither shall the trees of the land yield their fruit.
21 "'Os byddwch yn parhau i'm gwrthwynebu, ac yn gwrthod gwrando arnaf, byddaf yn ychwanegu drygau arnoch seithwaith am eich pechodau.
21And if ye walk contrary unto me, and will not hearken unto me, I will bring seven times more plagues upon you according to your sins.
22 Byddaf yn anfon bwystfilod gwyllt i'ch plith, a byddant yn eich amddifadu o'ch plant, yn difa eich anifeiliaid, ac yn eich gwneud mor fychan o rif fel y bydd eich ffyrdd yn anial.
22And I will send the beast of the field among you, which shall rob you of your children, and destroy your cattle, and make you few in number; and your ways shall become desolate.
23 "'Os na fyddwch ar �l hyn i gyd yn derbyn disgyblaeth, ond yn parhau i'm gwrthwynebu,
23And if by these things ye will not be reformed unto me, but will walk contrary unto me;
24 byddaf finnau yn eich gwrthwynebu chwithau, a byddaf fi fy hun yn eich taro seithwaith am eich pechodau.
24then will I also walk contrary unto you; and I will smite you, even I, seven times for your sins.
25 Byddaf yn dod �'r cleddyf yn eich erbyn i ddial am dorri'r cyfamod, a byddwch yn ymgasglu i'ch dinasoedd; yna fe anfonaf bla i'ch mysg, a'ch rhoi yn llaw'r gelyn.
25And I will bring a sword upon you, that shall execute the vengeance of the covenant; and ye shall be gathered together within your cities: and I will send the pestilence among you; and ye shall be delivered into the hand of the enemy.
26 Pan dorraf eich cynhaliaeth o fara, bydd deg gwraig yn medru pobi eich bara mewn un ffwrn, a byddant yn rhannu'r bara wrth bwysau; cewch fwyta, ond ni'ch digonir.
26When I break your staff of bread, ten women shall bake your bread in one oven, and they shall deliver your bread again by weight: and ye shall eat, and not be satisfied.
27 "'Os byddwch er gwaethaf hyn heb wrando arnaf, ond yn parhau i'm gwrthwynebu,
27And if ye will not for all this hearken unto me, but walk contrary unto me;
28 yna fe'ch gwrthwynebaf chwi yn fy nig, a byddaf fi fy hunan yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau.
28then I will walk contrary unto you in wrath; and I also will chastise you seven times for your sins.
29 Byddwch yn bwyta cnawd eich meibion a'ch merched.
29And ye shall eat the flesh of your sons, and the flesh of your daughters shall ye eat.
30 Byddaf yn dinistrio eich uchelfeydd, yn torri i lawr eich allorau arogldarthu, ac yn pentyrru eich cyrff ar weddillion eich eilunod, a byddaf yn eich ffieiddio.
30And I will destroy your high places, and cut down your sun-images, and cast your dead bodies upon the bodies of your idols; and my soul shall abhor you.
31 Gwnaf eich dinasoedd yn adfeilion, dinistriaf eich cysegrleoedd, ac nid aroglaf eich arogl peraidd.
31And I will make your cities a waste, and will bring your sanctuaries unto desolation, and I will not smell the savor of your sweet odors.
32 Byddaf yn gwneud y tir yn ddiffaith, a bydd eich gelynion sy'n byw yno wedi eu syfrdanu.
32And I will bring the land into desolation; and your enemies that dwell therein shall be astonished at it.
33 Fe'ch gwasgaraf ymysg y cenhedloedd, a byddaf yn dinoethi fy nghleddyf i'ch ymlid; bydd eich tir yn ddiffaith a'ch dinasoedd yn adfeilion.
33And you will I scatter among the nations, and I will draw out the sword after you: and your land shall be a desolation, and your cities shall be a waste.
34 Yna bydd y wlad yn mwynhau ei Sabothau dros yr holl amser y bydd yn ddiffaith; tra byddwch chwi yng ngwlad eich gelynion, bydd y tir yn cael gorffwys ac yn mwynhau ei Sabothau.
34Then shall the land enjoy its sabbaths, as long as it lieth desolate, and ye are in your enemies' land; even then shall the land rest, and enjoy its sabbaths.
35 Dros yr holl amser y bydd yn ddiffaith, bydd y wlad yn cael y gorffwys nas cafodd ar y Sabothau pan oeddech chwi'n byw yno.
35As long as it lieth desolate it shall have rest, even the rest which it had not in your sabbaths, when ye dwelt upon it.
36 Ac am y rhai ohonoch a adewir, gwnaf eu calonnau mor ofnus yng ngwledydd eu gelynion fel y bydd siffrwd deilen yn ysgwyd yn peri iddynt ffoi. Byddant yn ffoi fel pe o flaen cleddyf, ac yn cwympo heb neb yn eu hymlid.
36And as for them that are left of you, I will send a faintness into their heart in the lands of their enemies: and the sound of a driven leaf shall chase them; and they shall flee, as one fleeth from the sword; and they shall fall when none pursueth.
37 Byddant yn syrthio ar draws ei gilydd, fel pe'n dianc rhag cleddyf, heb neb yn eu hymlid. Felly ni fedrwch sefyll o flaen eich gelynion.
37And they shall stumble one upon another, as it were before the sword, when none pursueth: and ye shall have no power to stand before your enemies.
38 Byddwch yn trengi o flaen y cenhedloedd, a bydd gwlad eich gelynion yn eich llyncu.
38And ye shall perish among the nations, and the land of your enemies shall eat you up.
39 Bydd y rhai ohonoch a adewir yn darfod yng ngwledydd eu gelynion oherwydd eu troseddau; a hefyd byddant yn dihoeni oherwydd eu troseddau a throseddau eu hynafiaid.
39And they that are left of you shall pine away in their iniquity in your enemies' lands; and also in the iniquities of their fathers shall they pine away with them.
40 "'Ond os byddant yn cyffesu eu troseddau a throseddau eu hynafiaid, sef iddynt fod yn anffyddlon tuag ataf a'm gwrthwynebu,
40And they shall confess their iniquity, and the iniquity of their fathers, in their trespass which they trespassed against me, and also that, because they walked contrary unto me,
41 a gwneud i minnau eu gwrthwynebu hwy a'u gyrru i wlad eu gelynion, yna, pan fydd eu calonnau dienwaededig wedi eu darostwng a hwythau wedi derbyn eu cosb,
41I also walked contrary unto them, and brought them into the land of their enemies: if then their uncircumcised heart be humbled, and they then accept of the punishment of their iniquity;
42 fe gofiaf fy nghyfamod � Jacob ac ag Isaac ac ag Abraham, ac fe gofiaf am y tir.
42then will I remember my covenant with Jacob; and also my covenant with Isaac, and also my covenant with Abraham will I remember; and I will remember the land.
43 Gadewir y tir ganddynt, ac fe fwynha ei Sabothau pan fydd yn ddiffeithwch hebddynt. Cosbir hwy am eu troseddau, oherwydd iddynt wrthod fy ngorchmynion a ffieiddio fy neddfau.
43The land also shall be left by them, and shall enjoy its sabbaths, while it lieth desolate without them: and they shall accept of the punishment of their iniquity; because, even because they rejected mine ordinances, and their soul abhorred my statutes.
44 Er hynny, pan fyddant yng ngwlad eu gelynion, ni fyddaf yn eu gwrthod, nac yn eu ffieiddio i'w dinistrio'n llwyr, gan dorri fy nghyfamod � hwy. Myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.
44And yet for all that, when they are in the land of their enemies, I will not reject them, neither will I abhor them, to destroy them utterly, and to break my covenant with them; for I am Jehovah their God;
45 Er eu mwyn hwy fe gofiaf fy nghyfamod �'u hynafiaid, a ddygais allan o wlad yr Aifft yng ngu373?ydd y cenhedloedd, er mwyn bod yn Dduw iddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.'"
45but I will for their sakes remember the covenant of their ancestors, whom I brought forth out of the land of Egypt in the sight of the nations, that I might be their God: I am Jehovah.
46 Dyma'r deddfau, y gorchmynion a'r cyfreithiau a osododd yr ARGLWYDD rhyngddo ef a phobl Israel ar Fynydd Sinai trwy law Moses.
46These are the statutes and ordinances and laws, which Jehovah made between him and the children of Israel in mount Sinai by Moses.