Welsh

Breton: Gospels

Acts

10

1 Yr oedd rhyw u373?r yng Nghesarea o'r enw Cornelius, canwriad o'r fintai Italaidd, fel y gelwid hi;
2 gu373?r defosiynol ydoedd, yn ofni Duw, ef a'i holl deulu. Byddai'n rhoi elusennau lawer i'r bobl Iddewig, ac yn gwedd�o ar Dduw yn gyson.
3 Tua thri o'r gloch y prynhawn, gwelodd yn eglur mewn gweledigaeth angel Duw yn dod i mewn ato ac yn dweud wrtho, "Cornelius."
4 Syllodd yntau arno a brawychodd, ac meddai, "Beth sydd, f'arglwydd?" Dywedodd yr angel wrtho, "Y mae dy wedd�au a'th elusennau wedi esgyn yn offrwm coffa gerbron Duw.
5 Ac yn awr anfon ddynion i Jopa i gyrchu dyn o'r enw Simon, a gyfenwir Pedr.
6 Y mae hwn yn lletya gyda rhyw farcer o'r enw Simon, sydd �'i du375? wrth y m�r."
7 Wedi i'r angel oedd yn llefaru wrtho ymadael, galwodd ddau o'r gweision tu375? a milwr defosiynol, un o'i weision agos,
8 ac adroddodd y cwbl wrthynt a'u hanfon i Jopa.
9 Trannoeth, pan oedd y rhain ar eu taith ac yn agos�u at y ddinas, aeth Pedr i fyny ar y to i wedd�o, tua chanol dydd.
10 Daeth chwant bwyd arno ac eisiau cael pryd; a thra oeddent yn ei baratoi, aeth i lesmair.
11 Gwelodd y nef yn agored, a rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng wrth bedair congl tua'r ddaear.
12 O'i mewn yr oedd holl anifeiliaid ac ymlusgiaid y ddaear ac adar yr awyr.
13 A daeth llais ato, "Cod, Pedr, lladd a bwyta."
14 Dywedodd Pedr, "Na, na, Arglwydd; nid wyf fi erioed wedi bwyta dim halogedig nac aflan."
15 A thrachefn eilwaith meddai'r llais wrtho, "Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti �'i alw'n halogedig."
16 Digwyddodd hyn deirgwaith; yna yn sydyn cymerwyd y peth i fyny i'r nef.
17 Tra oedd Pedr yn amau ynddo'i hun beth allai ystyr y weledigaeth fod, dyma'r dynion oedd wedi eu hanfon gan Cornelius, wedi iddynt holi am du375? Simon, yn dod a sefyll wrth y drws.
18 Galwasant a gofyn, "A yw Simon, a gyfenwir Pedr, yn lletya yma?"
19 Tra oedd Pedr yn synfyfyrio ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd, "Y mae yma dri dyn yn chwilio amdanat.
20 Cod, dos i lawr, a dos gyda hwy heb amau dim, oherwydd myfi sydd wedi eu hanfon."
21 Aeth Pedr i lawr at y dynion, ac meddai, "Dyma fi, y dyn yr ydych yn chwilio amdano. Pam y daethoch yma?"
22 Meddent hwythau, "Y canwriad Cornelius, gu373?r cyfiawn sy'n ofni Duw ac sydd � gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd i anfon amdanat i'w du375?, ac i glywed y pethau sydd gennyt i'w dweud."
23 Felly gwahoddodd hwy i mewn a rhoi llety iddynt. Trannoeth, cododd ac aeth ymaith gyda hwy, ac aeth rhai o'r credinwyr oedd yn Jopa gydag ef.
24 A thrannoeth, cyrhaeddodd Gesarea. Yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, ac wedi galw ynghyd ei berthnasau a'i gyfeillion agos.
25 Wedi i Pedr ddod i mewn, aeth Cornelius i'w gyfarfod, a syrthiodd wrth ei draed a'i addoli.
26 Ond cododd Pedr ef ar ei draed, gan ddweud, "Cod; dyn wyf finnau hefyd."
27 A than ymddiddan ag ef aeth i mewn, a chael llawer wedi ymgynnull,
28 ac meddai wrthynt, "Fe wyddoch chwi ei bod yn anghyfreithlon i Iddew gadw cwmni gydag estron neu ymweld ag ef; eto dangosodd Duw i mi na ddylwn alw neb yn halogedig neu'n aflan.
29 Dyna pam y deuthum, heb wrthwynebu o gwbl, pan anfonwyd amdanaf. 'Rwy'n gofyn, felly, pam yr anfonasoch amdanaf."
30 Ac ebe Cornelius, "Pedwar diwrnod i'r awr hon, yr oeddwn ar weddi am dri o'r gloch y prynhawn yn fy nhu375?, a dyma u373?r yn sefyll o'm blaen mewn gwisg ddisglair,
31 ac meddai, 'Cornelius, y mae Duw wedi clywed dy weddi di ac wedi cofio am dy elusennau.
32 Anfon, felly, i Jopa a gwahodd atat Simon, a gyfenwir Pedr; y mae hwn yn lletya yn nhu375? Simon y barcer, wrth y m�r.'
33 Anfonais atat, felly, ar unwaith, a gwelaist tithau yn dda ddod. Yn awr, ynteu, yr ydym ni bawb yma gerbron Duw i glywed popeth a orchmynnwyd i ti gan yr Arglwydd."
34 A dechreuodd Pedr lefaru: "Ar fy ngwir," meddai, "'rwy'n deall nad yw Duw yn dangos ffafriaeth,
35 ond bod y sawl ym mhob cenedl sy'n ei ofni ac yn gweithredu cyfiawnder yn dderbyniol ganddo ef.
36 Y gair hwn a anfonodd i blant Israel, gan gyhoeddi Efengyl tangnefedd drwy Iesu Grist; ef yw Arglwydd pawb.
37 Gwyddoch chwi'r peth a fu drwy holl Jwdea, gan ddechrau yng Ngalilea wedi'r bedydd a gyhoeddodd Ioan � Iesu o Nasareth,
38 y modd yr eneiniodd Duw ef �'r Ysbryd Gl�n ac � nerth. Aeth ef oddi amgylch gan wneud daioni ac iach�u pawb oedd dan ormes y diafol, am fod Duw gydag ef.
39 Ac yr ydym ni'n dystion o'r holl bethau a wnaeth yng ngwlad yr Iddewon ac yn Jerwsalem. A lladdasant ef, gan ei grogi ar bren.
40 Ond cyfododd Duw ef ar y trydydd dydd, a pheri iddo ddod yn weledig,
41 nid i'r holl bobl, ond i dystion oedd wedi eu rhagethol gan Dduw, sef i ni, y rhai a fu'n cydfwyta ac yn cydyfed ag ef wedi iddo atgyfodi oddi wrth y meirw.
42 Gorchmynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu mai hwn yw'r un a benodwyd gan Dduw yn farnwr y byw a'r meirw.
43 I hwn y mae'r holl broffwydi'n tystio, y bydd pawb sy'n credu ynddo ef yn derbyn maddeuant pechodau trwy ei enw."
44 Tra oedd Pedr yn dal i lefaru'r pethau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Gl�n ar bawb oedd yn gwrando'r gair.
45 Synnodd y credinwyr Iddewig, cynifer ag oedd wedi dod gyda Pedr, am fod rhodd yr Ysbryd Gl�n wedi ei thywallt hyd yn oed ar y Cenhedloedd;
46 oherwydd yr oeddent yn eu clywed yn llefaru � thafodau ac yn mawrygu Duw. Yna dywedodd Pedr,
47 "A all unrhyw un wrthod y du373?r i fedyddio'r rhain, a hwythau wedi derbyn yr Ysbryd Gl�n fel ninnau?"
48 A gorchmynnodd eu bedyddio hwy yn enw Iesu Grist. Yna gofynasant iddo aros am rai dyddiau.