Welsh

Breton: Gospels

Acts

4

1 Tra oeddent yn llefaru wrth y bobl, daeth yr offeiriaid a phrif swyddog gwarchodlu'r deml a'r Sadwceaid ar eu gwarthaf,
2 yn flin am eu bod hwy'n dysgu'r bobl ac yn cyhoeddi ynglu375?n � Iesu yr atgyfodiad oddi wrth y meirw.
3 Cymerasant afael arnynt a'u rhoi mewn dalfa hyd drannoeth, oherwydd yr oedd hi'n hwyr eisoes.
4 Ond daeth llawer o'r rhai oedd wedi clywed y gair yn gredinwyr, ac aeth eu nifer i gyd yn rhyw bum mil.
5 Trannoeth bu cyfarfod o lywodraethwyr a henuriaid ac ysgrifenyddion yr Iddewon yn Jerwsalem.
6 Yr oedd Annas yr archoffeiriad yno, a Caiaffas ac Ioan ac Alexander a phawb oedd o deulu archoffeiriadol.
7 Rhoesant y carcharorion i sefyll gerbron, a dechrau eu holi, "Trwy ba nerth neu drwy ba enw y gwnaethoch chwi hyn?"
8 Yna, wedi ei lenwi �'r Ysbryd Gl�n, dywedodd Pedr wrthynt: "Lywodraethwyr y bobl, a henuriaid,
9 os ydym ni heddiw yn cael ein croesholi am gymwynas i ddyn claf, a sut y mae wedi cael ei iach�u,
10 bydded hysbys i chwi i gyd ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw oddi wrth y meirw, trwy ei enw ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach.
11 Iesu yw 'Y maen a ddiystyrwyd gennych chwi yr adeiladwyr, ac a ddaeth yn faen y gongl.'
12 Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo."
13 Wrth weld hyder Pedr ac Ioan, a sylweddoli mai lleygwyr annysgedig oeddent, yr oeddent yn rhyfeddu. Yr oeddent yn sylweddoli hefyd eu bod hwy wedi bod gydag Iesu.
14 Ac wrth weld y dyn oedd wedi ei iach�u yn sefyll gyda hwy, nid oedd ganddynt ddim ateb.
15 Ac wedi gorchymyn iddynt fynd allan o'r llys, dechreusant ymgynghori �'i gilydd.
16 "Beth a wnawn," meddent, "�'r dynion hyn? Oherwydd y mae'n amlwg i bawb sy'n preswylio yn Jerwsalem fod gwyrth hynod wedi digwydd trwyddynt hwy, ac ni allwn ni wadu hynny.
17 Ond rhag taenu'r peth ymhellach ymhlith y bobl, gadewch inni eu rhybuddio nad ydynt i lefaru mwyach yn yr enw hwn wrth neb o gwbl."
18 Galwasant hwy i mewn, a gorchymyn nad oeddent i siarad na dysgu o gwbl yn enw Iesu.
19 Ond atebodd Pedr ac Ioan hwy: "A yw'n iawn yng ngolwg Duw wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw? Barnwch chwi.
20 Ni allwn ni dewi � s�n am y pethau yr ydym wedi eu gweld a'u clywed."
21 Ar �l eu rhybuddio ymhellach gollyngodd y llys hwy'n rhydd, heb gael dim modd i'w cosbi, oherwydd y bobl; oblegid yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn oedd wedi digwydd.
22 Yr oedd y dyn y gwnaethpwyd y wyrth iachaol hon arno dros ddeugain mlwydd oed.
23 Wedi eu gollwng, aethant at eu pobl eu hunain ac adrodd y cyfan yr oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei ddweud wrthynt.
24 Wedi clywed, codasant hwythau eu llef yn unfryd at Dduw: "O Benllywydd, tydi a wnaeth y nef a'r ddaear a'r m�r a phob peth sydd ynddynt,
25 ac a ddywedodd drwy'r Ysbryd Gl�n yng ngenau Dafydd dy was, ein tad ni: 'Pam y terfysgodd y Cenhedloedd ac y cynlluniodd y bobloedd bethau ofer?
26 Safodd brenhinoedd y ddaear, ac ymgasglodd y llywodraethwyr ynghyd yn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Feseia ef.'
27 Canys ymgasglodd yn wir yn y ddinas hon yn erbyn dy Was sanctaidd, Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Pontius Pilat ynghyd �'r Cenhedloedd a phobloedd Israel,
28 i wneud yr holl bethau y rhagluniodd dy law a'th gyngor di iddynt ddod.
29 Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i'th weision lefaru dy air � phob hyder,
30 a thithau yn estyn dy law i beri iach�d ac arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy Was sanctaidd, Iesu."
31 Ac wedi iddynt wedd�o, ysgydwyd y lle yr oeddent wedi ymgynnull ynddo, a llanwyd hwy oll �'r Ysbryd Gl�n, a llefarasant air Duw yn hy.
32 Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o'i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin.
33 � nerth mawr yr oedd yr apostolion yn rhoi eu tystiolaeth am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu, a gras mawr oedd arnynt oll.
34 Yn wir, nid oedd neb anghenus yn eu plith, oherwydd byddai pawb oedd yn berchenogion tiroedd neu dai yn eu gwerthu, a dod �'r t�l am y pethau a werthid,
35 a'i roi wrth draed yr apostolion; a rhennid i bawb yn �l fel y byddai angen pob un.
36 Yr oedd Joseff, a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (sef, o'i gyfieithu, Mab Anogaeth), Lefiad, Cypriad o enedigaeth,
37 yn berchen darn o dir, a gwerthodd ef, a daeth �'r arian a'i roi wrth draed yr apostolion.