Welsh

Breton: Gospels

Ecclesiastes

11

1 Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd, ac fe'i cei'n �l ymhen dyddiau lawer.
2 Rhanna dy gyfran rhwng saith neu wyth, oherwydd ni wyddost pa drychineb a ddaw ar y ddaear.
3 Os yw'r cymylau yn llawn glaw, y maent yn ei arllwys ar y ddaear; os syrth coeden i'r de neu i'r gogledd, y mae'n aros lle y disgyn.
4 Ni fydd yr un sy'n dal sylw ar y gwynt yn hau, na'r un sy'n gwylio'r cymylau yn medi.
5 Megis nad wyt yn gwybod sut y daw bywyd i'r esgyrn yng nghroth y feichiog, felly nid wyt yn deall gwaith Duw, yr Un sy'n gwneud popeth.
6 Hau dy had yn y bore, a phaid � gorffwys cyn yr hwyr, oherwydd ni wyddost pa un a fydd yn llwyddo, neu a fydd y cyfan yn dda.
7 Y mae goleuni'n ddymunol, a phleser i'r llygaid yw gweld yr haul.
8 Os bydd rhywun fyw am flynyddoedd maith, bydded iddo fwynhau'r cyfan ohonynt; ond fe ddylai gofio y bydd dyddiau tywyllwch yn niferus. Y mae'r cyfan sy'n digwydd yn wagedd.
9 u372?r ifanc, bydd lawen yn dy ieuenctid, a bydded iti fwynhad yn nyddiau dy lencyndod; rhodia yn �l dymuniad dy galon a'r hyn a w�l dy lygaid, ond cofia y bydd Duw yn dy alw i farn am hyn i gyd.
10 Symud ddicter o'th galon, a thro flinder oddi wrthyt; y mae mebyd ac ieuenctid yn wagedd.