Welsh

Breton: Gospels

Ecclesiastes

7

1 Y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr, a dydd marw yn well na dydd geni.
2 Y mae'n well mynd i du375? galar na mynd i du375? gwledd; oherwydd marw yw tynged pawb, a dylai'r byw ystyried hyn.
3 Y mae tristwch yn well na chwerthin; er i'r wyneb fod yn drist, gall y galon fod yn llawen.
4 Y mae calon y doethion yn nhu375? galar, ond calon y ffyliaid yn nhu375? pleser.
5 Y mae'n well gwrando ar gerydd y doeth na gwrando ar g�n ffyliaid.
6 Oherwydd y mae chwerthin y ffu373?l fel clindarddach drain o dan grochan. Y mae hyn hefyd yn wagedd.
7 Yn wir, y mae gormes yn gwneud y doeth yn ynfyd, ac y mae cil-dwrn yn llygru'r meddwl.
8 Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau, ac amynedd yn well nag ymffrost.
9 Paid � rhuthro i ddangos dig, oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.
10 Paid � dweud, "Pam y mae'r dyddiau a fu yn well na'r rhai hyn?" Oherwydd ni ddangosir doethineb wrth ofyn hyn.
11 Y mae cael doethineb cystal ag etifeddiaeth, ac yn fantais i'r rhai sy'n gweld yr haul.
12 Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian; mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.
13 Ystyria'r hyn a wnaeth Duw; pwy all unioni'r hyn a wyrodd ef?
14 Bydd lawen pan yw'n dda arnat, ond yn amser adfyd ystyria hyn: Duw a wnaeth y naill beth a'r llall, fel na all neb ganfod beth a fydd yn dilyn.
15 Yn ystod fy oes o wagedd gwelais y cyfan: un cyfiawn yn darfod yn ei gyfiawnder, ac un drygionus yn cael oes faith yn ei ddrygioni.
16 Paid � bod yn rhy gyfiawn, a phaid � bod yn or-ddoeth; pam y difethi dy hun?
17 Paid � bod yn rhy ddrwg, a phaid � bod yn ffu373?l; pam y byddi farw cyn dy amser?
18 Y mae'n werth iti ddal dy afael ar y naill beth, a pheidio � gollwng y llall o'th law. Yn wir, y mae'r un sy'n ofni Duw yn eu dilyn ill dau.
19 Y mae doethineb yn rhoi mwy o gryfder i'r doeth nag sydd gan ddeg llywodraethwr mewn dinas.
20 Yn wir, nid oes neb cyfiawn ar y ddaear sydd bob amser yn gwneud daioni, heb bechu.
21 Paid � chymryd sylw o bob gair a ddywedir, rhag ofn iti glywed dy was yn dy felltithio;
22 yn wir fe wyddost dy fod ti dy hun wedi melltithio eraill lawer gwaith.
23 Yr wyf wedi rhoi prawf ar hyn i gyd trwy ddoethineb. Dywedais, "Yr wyf am fod yn ddoeth," ond yr oedd yn bell oddi wrthyf.
24 Y mae'r hyn sy'n digwydd yn bell ac yn ddwfn iawn; pwy a all ei ganfod?
25 Fe euthum ati i ddeall �'m meddwl, i chwilio a cheisio doethineb a rheswm, a deall drygioni ffolineb, a ffolineb ynfydrwydd.
26 A chanf�m rywbeth chwerwach na marwolaeth: gwraig sydd �'i chalon yn faglau a rhwydau, a'i dwylo'n rhwymau. Y mae'r un sy'n dda yng ngolwg Duw yn dianc oddi wrthi, ond fe ddelir y pechadur ganddi.
27 "Edrych, dyma'r peth a ganf�m," medd y Pregethwr, "trwy osod y naill beth wrth y llall i chwilio am ystyr,
28 oherwydd yr oeddwn yn chwilio amdano'n ddyfal ond yn methu ei gael; canf�m un dyn ymhlith mil, ond ni chefais yr un wraig ymhlith y cyfan ohonynt.
29 Edrych, hyn yn unig a ganf�m: bod Duw wedi creu pobl yn uniawn; ond y maent hwy wedi ceisio llawer o gynlluniau."