1 Ar y degfed dydd o'r degfed mis yn y nawfed flwyddyn daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2 "Fab dyn, gwna gofnod o enw'r dydd hwn, ie, yr union ddydd hwn, oherwydd heddiw y gosododd brenin Babilon warchae ar Jerwsalem.
3 Llefara ddameg wrth y tu375? gwrthryfelgar hwn, a dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gosod y crochan ar y t�n, ei osod a rhoi du373?r ynddo.
4 Casgl ddarnau iddo � y darnau dewisol, y goes a'r ysgwydd; llanw ef �'r gorau o'r esgyrn,
5 a chymer dy ddewis o'r praidd. Gosod y coed dano, cod ef i'r berw, a berwi'r esgyrn ynddo.
6 "'Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r ddinas waedlyd, y crochan y mae rhwd arno, rhwd nad � allan ohono! Gwagiwch ef bob yn ddarn, heb fwrw coelbren am yr un ohonynt.
7 Yr oedd y gwaed yng nghanol y ddinas wedi ei dywallt ar y graig noeth, ac nid ar y ddaear i'r llwch ei guddio.
8 Er mwyn ennyn llid a chodi dialedd, rhois innau ei gwaed ar graig noeth fel na ellir ei guddio.
9 "'Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r ddinas waedlyd! Gwnaf fi bwll t�n mawr.
10 Gosod dithau ddigon o goed, cynnau'r t�n, coginia'r cig, cymysga'r perlysiau, a llosger yr esgyrn.
11 Yna gosod y crochan yn wag ar y tanwydd nes iddo boethi ac i'w bres gochi, er mwyn toddi'r amhuredd a difa'r rhwd.
12 Yn ofer y blinais; nid �'r rhwd trwchus allan ohono hyd yn oed trwy d�n.
13 Dy amhuredd di yw anlladrwydd; oherwydd imi geisio dy lanhau, ac na ddoit yn l�n o'th amhuredd, ni fyddi'n l�n eto nes i'm llid yn dy erbyn dawelu.
14 Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd; daeth yn amser imi weithredu. Ni fyddaf yn ymatal, nac yn tosturio nac yn trugarhau. Fe'th fernir yn �l dy ffyrdd a'th weithredoedd,' medd yr Arglwydd DDUW."
15 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
16 "Fab dyn, ag un trawiad yr wyf am gymryd oddi wrthyt yr un fwyaf dymunol yn dy olwg, ond nid wyt i alaru nac wylo na cholli dagrau.
17 Ochneidia'n ddistaw, ond paid � galaru am y marw. Cadw orchudd am dy ben a rho sandalau am dy draed; paid � gorchuddio dy enau na bwyta bwyd galar."
18 Yr oeddwn yn siarad �'r bobl yn y bore, a chyda'r nos bu farw fy ngwraig; bore trannoeth gwneuthum fel y gorchmynnwyd imi.
19 Yna dywedodd y bobl wrthyf, "Oni ddywedi beth sydd a wnelo'r pethau hyn a wnei � ni?"
20 Yna dywedais wrthynt, "Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
21 'Dywed wrth du375? Israel, "Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn mynd i halogi fy nghysegr, yr hwn yr wyt yn ymfalch�o yn ei gadernid, ac sydd mor ddymunol a hoff yn dy olwg. Bydd y meibion a'r merched a adawyd yn syrthio trwy'r cleddyf.
22 Fe wnewch chwi fel y gwneuthum i; ni fyddwch yn gorchuddio eich genau nac yn bwyta bwyd galar.
23 Byddwch yn cadw gorchudd am eich pennau a sandalau am eich traed, heb alaru nac wylo. Ond byddwch yn dihoeni oherwydd eich camweddau ac yn ochneidio wrth eich gilydd.
24 Bydd Eseciel yn arwydd i chwi, ac fe wnewch fel y gwnaeth ef; pan ddigwydd hyn, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW."
25 "'Ac yn awr, fab dyn, ar y dydd pan gymeraf ymaith y gaer yr oeddent yn ymfalch�o yn ei gogoniant ac a oedd mor ddymunol a hoff yn eu golwg, a phan gymeraf eu meibion a'u merched,
26 ar y dydd hwnnw fe ddaw atat ffoadur i ddweud y newydd.
27 Y diwrnod hwnnw fe agorir dy enau; fe siaredi �'r ffoadur ac ni fyddi'n fud mwyach. Byddi'n arwydd iddynt, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'"