Welsh

Breton: Gospels

Ezekiel

26

1 Ar ddydd cyntaf y mis cyntaf yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2 "Fab dyn, oherwydd i Tyrus ddweud am Jerwsalem, 'Aha ! Fe ddrylliwyd porth y cenhedloedd, ac fe'i gwnaed yn agored i mi; fe lwyddaf fi am ei bod hi'n anrheithiedig',
3 am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Yr wyf yn dy erbyn, O Tyrus, ac fe ddygaf lawer o genhedloedd yn dy erbyn, fel m�r yn dygyfor.
4 Fe fyddant yn dinistrio muriau Tyrus ac yn bwrw i lawr ei thyrau; crafaf y pridd ohoni a'i gwneud yn graig noeth.
5 Bydd yn lle i daenu rhwydau allan yng nghanol y m�r, oherwydd myfi a lefarodd,' medd yr Arglwydd DDUW. 'Bydd yn anrhaith i'r cenhedloedd,
6 ac fe ddinistrir ei maestrefi trwy'r cleddyf; yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.'
7 "Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Fe ddof � Nebuchadnesar brenin Babilon, brenin y brenhinoedd, yn erbyn Tyrus o'r gogledd gyda meirch a cherbydau, gyda marchogion a mintai fawr yn fyddin.
8 Bydd yn dinistrio dy faestrefi trwy'r cleddyf, yn gosod gwarchae arnat, yn codi esgynfa tuag atat, ac yn gosod tarianau yn dy erbyn.
9 Fe dry ei beiriannau hyrddio yn erbyn dy furiau, a dymchwel dy dyrau �'i arfau.
10 Bydd ei feirch mor niferus nes dy orchuddio � llwch; bydd dy furiau'n crynu gan su373?n y meirch, y wageni a'r cerbydau, wrth iddo ddod i mewn trwy'r pyrth fel un yn dod i ddinas wedi ei bylchu.
11 Bydd carnau ei feirch yn sathru dy strydoedd i gyd; fe leddir dy bobl �'r cleddyf, ac fe syrth dy golofnau cedyrn i'r llawr.
12 Anrheithiant dy gyfoeth a chymryd dy nwyddau'n ysbail; dymchwelant dy furiau a chwalu dy dai dymunol, a lluchio'r meini, y coed a'r pridd i ganol y m�r.
13 Rhof ddiwedd ar su373?n dy ganiadau, ac ni chlywir sain dy delynau mwyach.
14 Gwnaf di'n graig noeth, ac fe ddoi'n lle i daenu rhwydau; nid ailadeiledir di mwyach, oherwydd myfi'r ARGLWYDD a lefarodd,' medd yr Arglwydd DDUW.
15 "Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth Tyrus: 'Oni fydd yr ynysoedd yn crynu gan su373?n dy gwymp, pan fydd yr archolledig yn cwynfan a phan fydd rhai yn lladd o'th fewn?
16 Yna bydd holl dywysogion y m�r yn disgyn oddi ar eu gorseddau, yn tynnu eu mentyll ac yn diosg eu gwisgoedd o frodwaith. Byddant wedi eu gwisgo � dychryn, yn eistedd ar lawr ac yn crynu bob eiliad, ac wedi eu brawychu o'th achos.
17 Yna, fe godant alarnad a dweud amdanat, "O, fel y dinistriwyd di, y ddinas enwog a fu'n gartref i forwyr! Buost yn rymus ar y moroedd, ti a'th drigolion, a gosodaist dy arswyd ar dy holl drigolion.
18 Yn awr y mae'r ynysoedd yn crynu ar ddydd dy gwymp; y mae'r ynysoedd yn y m�r yn arswydo wrth i ti syrthio."'
19 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: 'Pan wnaf di'n ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd sydd heb drigolion, a phan ddygaf y dyfnfor drosot, a'r dyfroedd mawrion yn dy orchuddio,
20 yna fe'th fwriaf i lawr gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll at bobl o'r oesoedd gynt. Gwnaf iti fyw yn y tir isod, fel mewn hen adfeilion, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; ac ni ddychweli i gymryd dy le yn nhir y rhai byw.
21 Rhof iti ddiwedd ofnadwy, ac ni fyddi mwyach; fe'th geisir, ond ni cheir mohonot byth mwy,' medd yr Arglwydd DDUW."