1 Ar y dydd cyntaf o'r trydydd mis yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud;
2 "Fab dyn, dywed wrth Pharo brenin yr Aifft ac wrth ei finteioedd, 'I bwy yr wyt yn debyg yn dy fawredd?
3 Edrych ar Asyria; yr oedd fel cedrwydden yn Lebanon, ac iddi gangen brydferth yn bwrw cysgod dros y goedwig, yn tyfu'n uchel, a'i brig yn uwch na'r cangau trwchus.
4 Yr oedd dyfroedd yn ei chyfnerthu a'r dyfnder yn peri iddi dyfu, a'u nentydd yn llifo o amgylch ei gwreiddiau, ac yn ffrydio'n aberoedd i holl goed y maes.
5 Felly tyfodd yn uwch na holl goed y maes; yr oedd ei cheinciau'n ymestyn a'i changau'n lledaenu, am fod digon o ddu373?r yn y sianelau.
6 Yr oedd holl adar y nefoedd yn nythu yn ei cheinciau, a'r holl anifeiliaid gwylltion yn epilio dan ei changau, a'r holl genhedloedd mawrion yn byw yn ei chysgod.
7 Yr oedd ei mawredd yn brydferth, a'i cheinciau'n ymestyn, oherwydd yr oedd ei gwreiddiau'n cyrraedd at ddigon o ddu373?r.
8 Ni allai cedrwydd o ardd Duw gystadlu � hi, ac nid oedd y pinwydd yn cymharu o ran ceinciau; nid oedd y ffawydd yn debyg iddi o ran cangau, ac ni allai'r un goeden o ardd Duw gystadlu � hi o ran prydferthwch.
9 Gwneuthum hi'n brydferth � digon o ganghennau, nes bod holl goed Eden, gardd Duw, yn cenfigennu wrthi.
10 "'Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iddi dyfu'n uchel, gan godi ei phen yn uwch na'r cangau ac ymfalch�o yn ei huchder,
11 rhoddais hi yn llaw rheolwr y cenhedloedd, iddo wneud � hi yn �l ei drygioni. Bwriais hi o'r neilltu.
12 Estroniaid, y greulonaf o'r cenhedloedd, a'i torrodd i lawr a'i gadael. Syrthiodd ei changhennau ar y mynyddoedd ac i'r holl ddyffrynnoedd; yr oedd ei changau wedi eu torri yn holl gilfachau'r tir; daeth holl genhedloedd y ddaear allan o'i chysgod a'i gadael.
13 Aeth holl adar y nefoedd i fyw ar ei boncyff, a'r holl anifeiliaid gwylltion i'w brigau.
14 Oherwydd hyn, nid yw'r holl goed eraill wrth y dyfroedd i dyfu'n uchel na chodi eu pennau'n uwch na'r cangau; nid ydynt, oherwydd bod digon o ddu373?r, i sefyll mor uchel; y maent i gyd wedi eu tynghedu i farwolaeth yn y tir isod, gyda meidrolion, ymhlith y rhai sy'n disgyn i'r pwll.
15 "'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn y dydd yr aed � hi i lawr i Sheol, gorchuddiais y dyfnder � galar drosti; ateliais ei hafonydd a dal yn �l ei digonedd o ddu373?r. O'i herwydd hi gwisgais Lebanon � phrudd-der, a chrinodd holl goed y maes.
16 Gwneuthum i'r cenhedloedd grynu gan su373?n ei chwymp, pan ddygais hi i lawr i Sheol gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; felly cysurir yn y tir isod holl goed Eden sy'n cael eu dyfrhau, y rhai gorau a mwyaf dewisol yn Lebanon.
17 Aethant hwythau hefyd gyda hi i lawr i Sheol at y rhai a laddwyd �'r cleddyf; gwasgarwyd y rhai oedd yn byw yn ei chysgod ymhlith y cenhedloedd.
18 Prun o goed Eden sy'n debyg i ti mewn gogoniant a mawredd? Ond fe'th ddygir dithau hefyd gyda choed Eden i'r tir isod, a byddi'n gorwedd gyda'r dienwaededig a laddwyd �'r cleddyf. Dyna Pharo a'i holl finteioedd,' medd yr Arglwydd DDUW."