Welsh

Breton: Gospels

Ezekiel

33

1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2 "Fab dyn, llefara wrth dy bobl a dweud wrthynt, 'Bwriwch fy mod yn anfon cleddyf yn erbyn gwlad, a phobl y wlad yn dewis un gu373?r o'u plith i fod yn wyliwr iddynt,
3 ac yntau'n gweld y cleddyf yn dod yn erbyn y wlad ac yn canu utgorn i rybuddio'r bobl;
4 yna, os bydd rhywun yn clywed sain yr utgorn ond heb dderbyn y rhybudd, a'r cleddyf yn dod ac yn ei ladd, ef ei hun fydd yn gyfrifol am ei waed.
5 Oherwydd iddo glywed sain yr utgorn a pheidio � derbyn rhybudd, ef ei hun fydd yn gyfrifol am ei waed; pe byddai wedi derbyn rhybudd, byddai wedi arbed ei fywyd.
6 Ond pe byddai'r gwyliedydd yn gweld y cleddyf yn dod ac yn peidio � chanu'r utgorn i rybuddio'r bobl, a'r cleddyf yn dod ac yn lladd un ohonynt, yna, er i hwnnw gael ei ladd am ei ddrygioni, byddwn yn dal y gwyliedydd yn gyfrifol am ei waed.'
7 "Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i du375? Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf.
8 Os dywedaf fi wrth y drygionus, 'O ddrygionus, byddi'n sicr o farw', a thithau'n peidio � llefaru i'w rybuddio i droi o'i ffordd, yna, er i'r drygionus farw am ei ddrygioni, byddaf yn dy ddal di'n gyfrifol am ei waed.
9 Ond os byddi'n rhybuddio'r drygionus i droi o'i ffordd, ac yntau'n gwrthod, fe fydd farw am ei ddrygioni, ond fe fyddi di'n arbed dy fywyd.
10 "Fab dyn, dywed wrth du375? Israel, 'Dyma a ddywedwch: "Y mae ein troseddau a'n pechodau yn fwrn arnom, ac yr ydym yn darfod o'u plegid; sut y byddwn fyw?"'
11 Dywed wrthynt, 'Cyn wired �'m bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, nid wyf yn ymhyfrydu ym marwolaeth y drygionus, ond yn hytrach ei fod yn troi o'i ffordd ac yn byw. Trowch, trowch o'ch ffyrdd drwg! Pam y byddwch farw, O du375? Israel?'
12 "Fab dyn, dywed wrth dy bobl, 'Ni fydd cyfiawnder y cyfiawn yn ei waredu pan fydd yn pechu, ac ni fydd drygioni'r drygionus yn peri iddo syrthio pan fydd yn troi oddi wrth ei ddrygioni; ni all y cyfiawn fyw trwy ei gyfiawnder pan fydd yn pechu.'
13 Os dywedaf wrth y cyfiawn y bydd yn sicr o fyw, ac yntau wedyn yn ymddiried yn ei gyfiawnder ac yn gwneud drygioni, ni chofir yr un o'i weithredoedd cyfiawn; bydd farw am y drygioni a wnaeth.
14 Ac os dywedaf wrth y drygionus, 'Byddi'n sicr o farw', ac yntau'n troi oddi wrth ei ddrygioni ac yn gwneud yr hyn sy'n gywir a chyfiawn,
15 yn dychwelyd gwystl, yn adfer yr hyn a ladrataodd, yn dilyn rheolau'r bywyd ac yn ymatal rhag drwg, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.
16 Ni chofir yn ei erbyn yr un o'i bechodau; gwnaeth yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, a bydd yn sicr o fyw.
17 "Eto fe ddywed dy bobl, 'Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn'; ond eu ffordd hwy sy'n anghyfiawn.
18 Os try un cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder a gwneud drwg, bydd farw am hynny.
19 Os try un drygionus oddi wrth ei ddrygioni a gwneud yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, bydd fyw am hynny.
20 Eto fe ddywedwch, 'Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn'! O du375? Israel, fe farnaf bob un ohonoch yn �l ei ffyrdd."
21 Ar y pumed dydd o'r degfed mis yn neuddegfed flwyddyn ein caethglud, daeth ataf ddyn oedd wedi dianc o Jerwsalem a dweud, "Cwympodd y ddinas!"
22 Y noson cyn iddo gyrraedd, yr oedd llaw yr ARGLWYDD wedi dod arnaf, ac yr oedd wedi agor fy ngenau cyn i'r dyn ddod ataf yn y bore. Felly yr oedd fy ngenau'n agored, ac nid oeddwn bellach yn fud.
23 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
24 "Fab dyn, y mae'r rhai sy'n byw yn yr adfeilion yna yng ngwlad Israel yn dweud, 'Un dyn oedd Abraham, ac fe feddiannodd y wlad; ond yr ydym ni'n llawer, ac yn sicr y mae'r wlad wedi ei rhoi'n feddiant i ni.'
25 Felly, dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr ydych yn bwyta cig gyda'r gwaed, yn codi eich golygon at eich eilunod, ac yn tywallt gwaed; a fyddwch felly'n meddiannu'r wlad?
26 Yr ydych yn dibynnu ar eich cleddyf, yn gwneud ffieidd-dra, a phob un ohonoch yn halogi gwraig ei gymydog; a fyddwch felly'n meddiannu'r wlad?'
27 Dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Cyn wired �'m bod yn fyw, bydd y rhai a adawyd yn yr adfeilion yn syrthio trwy'r cleddyf, y sawl sydd allan yn y wlad yn cael ei roi i'r anifeiliaid gwylltion i'w ddifa, a'r rhai sydd mewn amddiffynfeydd ac ogofeydd yn marw o bla.
28 Gwnaf y wlad yn ddiffeithwch anial, a bydd diwedd ar ei rym balch; bydd mynyddoedd Israel mor ddiffaith fel na fydd neb yn eu croesi.
29 Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf wedi gwneud y wlad yn ddiffeithwch anial oherwydd yr holl ffieidd-dra a wnaethant.'
30 "Amdanat ti, fab dyn, y mae dy bobl yn siarad ger y muriau ac wrth ddrysau'r tai, ac yn dweud wrth ei gilydd, 'Dewch i wrando beth yw'r gair a ddaeth oddi wrth yr ARGLWYDD.'
31 Fe ddaw fy mhobl yn �l eu harfer, ac eistedd o'th flaen a gwrando ar dy eiriau, ond ni fyddant yn eu gwneud. Y mae geiriau serchog yn eu genau, ond eu calon yn eu harwain ar �l elw.
32 Yn wir, nid wyt ti iddynt hwy ond un yn canu caneuon serch mewn llais peraidd ac yn chwarae offeryn yn dda, oherwydd y maent yn gwrando ar dy eiriau ond heb eu gwneud.
33 Pan ddigwydd hyn, ac y mae hynny'n sicr, byddant yn gwybod i broffwyd fod yn eu mysg."