Welsh

Breton: Gospels

Ezekiel

5

1 "Tithau, fab dyn, cymer iti gleddyf llym a'i ddefnyddio fel ellyn barbwr i eillio dy ben a'th farf, ac yna cymer gloriannau a rhannu'r gwallt.
2 Llosga draean ohono mewn t�n yng nghanol y ddinas pan ddaw dyddiau'r gwarchae i ben; cymer draean a'i daro �'r cleddyf o amgylch y ddinas; gwasgara draean i'r gwynt, ac fe'i hymlidiaf � chleddyf.
3 Cymer hefyd ychydig bach ohono a'i glymu yng ngodre dy wisg.
4 Cymer ychydig ohono eto a'i daflu i ganol t�n a'i losgi; bydd t�n yn lledu ohono i holl du375? Israel.
5 "Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch,
6 ac y mae wedi gwrthryfela'n waeth yn erbyn fy marnau a'm deddfau na'r cenhedloedd a'r gwledydd o'i hamgylch, oherwydd y mae'r bobl wedi gwrthod fy marnau, ac nid ydynt yn dilyn fy neddfau.
7 "Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am i chwi fod yn fwy terfysglyd na'r cenhedloedd o'ch amgylch, a pheidio � dilyn fy neddfau nac ufuddhau i'm barnau, na hyd yn oed farnau'r cenhedloedd o'ch amgylch,
8 felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Edrych, yr wyf fi fy hun yn dy erbyn. Gwnaf farn � thi yng ngu373?ydd y cenhedloedd;
9 oherwydd dy holl ffieidd-dra gwnaf i ti yr hyn nas gwneuthum erioed ac nis gwnaf eto.
10 Am hynny, yn dy ganol di bydd rhieni yn bwyta eu plant a phlant yn bwyta eu rhieni; gwnaf farn � thi, a gwasgaraf i'r pedwar gwynt y rhai a weddillir ohonot.
11 Felly, cyn wired �'m bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, am i ti halogi fy nghysegr �'th holl bethau atgas a ffiaidd, byddaf finnau yn dy ddarostwng, ac ni fyddaf yn tosturio, nac yn trugarhau.
12 Bydd traean o'th bobl yn marw o haint ac yn darfod o newyn o'th fewn; bydd traean yn syrthio trwy'r cleddyf o'th amgylch; a byddaf yn gwasgaru traean i'r pedwar gwynt ac yn eu hymlid �'r cleddyf.
13 Yna fe dderfydd fy nig, ac fe dawela fy llid yn eu herbyn, a byddaf fodlon; pan fydd fy llid yn eu herbyn wedi darfod, byddant yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD sydd wedi llefaru yn fy eiddigedd.
14 Rhoddaf di'n anrhaith ac yn warth ymysg y cenhedloedd o'th amgylch, yng ngu373?ydd pawb sy'n mynd heibio.
15 Byddi'n warth ac yn watwar, yn wers ac yn fraw i'r cenhedloedd o'th amgylch, pan wnaf farn � thi mewn dig ac mewn llid ac � cherydd miniog. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd.
16 Pan fyddaf yn saethu atat �'m saethau marwol a dinistriol o newyn, byddaf yn saethu i'th ddinistrio; dygaf ragor o newyn arnat a thorraf ymaith dy gynhaliaeth o fara.
17 Anfonaf arnat newyn a bwystfilod gwylltion, ac fe'th wn�nt yn ddi-blant; bydd haint a thywallt gwaed yn ysgubo drosot, a gwnaf i gleddyf ddod arnat. Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd."