1 o'r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o'i wraidd ef;
2 bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno, yn ysbryd doethineb a deall, yn ysbryd cyngor a grym, yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD;
3 ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD. Nid wrth yr hyn a w�l y barna, ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna,
4 ond fe farna'r tlawd yn gyfiawn a dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear. Fe dery'r ddaear � gwialen ei enau, ac � gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus.
5 Cyfiawnder fydd gwregys ei lwynau a ffyddlondeb yn rhwymyn am ei ganol.
6 Fe drig y blaidd gyda'r oen, fe orwedd y llewpard gyda'r myn; bydd y llo a'r llew yn cydbori, a bachgen bychan yn eu harwain.
7 Bydd y fuwch yn pori gyda'r arth, a'u llydnod yn cydorwedd; bydd y llew yn bwyta gwair fel ych.
8 Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb, a baban yn estyn ei law dros ffau'r wiber.
9 Ni wn�nt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd, canys fel y lleinw'r dyfroedd y m�r i'w ymylon, felly y llenwir y ddaear � gwybodaeth yr ARGLWYDD.
10 Ac yn y dydd hwnnw bydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i'r bobloedd; bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef, a bydd ei drigfan yn ogoneddus.
11 Ac yn y dydd hwnnw fe estyn yr ARGLWYDD ei law drachefn i adennill gweddill ei bobl a adewir, o Asyria a'r Aifft, o Pathros ac Ethiopia ac Elam, o Sinar a Hamath ac o ynysoedd y m�r.
12 Fe gyfyd faner i'r cenhedloedd, a chasglu alltudion Israel; fe gynnull rai gwasgar Jwda o bedwar ban y byd.
13 Diflanna cenfigen Effraim, a thorrir ymaith elynion Jwda. Ni chenfigenna Effraim wrth Jwda, ac ni fydd Jwda'n gwrthwynebu Effraim.
14 Ond disgynnant ar lethrau'r Philistiaid yn y gorllewin, ac ynghyd fe ysbeiliant y dwyreinwyr; bydd Edom a Moab o fewn eu gafael, a phlant Ammon yn ufudd iddynt.
15 Gwna'r ARGLWYDD yn sychdir dafod m�r yr Aifft; chwifia'i law dros yr Ewffrates, ac �'i wynt deifiol fe'i hollta yn saith o ffrydiau, i'w throedio yn droetsych.
16 A bydd priffordd i weddill ei bobl, i'r gweddill a adewir o Asyria, megis y bu i Israel pan ddaeth i fyny o wlad yr Aifft.