1 Anfonodd llywodraethwr y wlad u373?yn o Sela yn yr anialwch i fynydd merch Seion.
2 Y mae merched Moab wrth rydau Arnon fel adar aflonydd wedi eu troi o'u nythod.
3 "Dwg gyngor, gwna dy fwriad yn glir; bydded dy gysgod fel nos drosom, hyd yn oed ar ganol dydd; cuddia'r ffoaduriaid, paid � bradychu'r crwydriaid.
4 Bydded i ffoaduriaid Moab aros gyda thi; bydd di yn lloches iddynt rhag y dinistrydd." Pan ddaw diwedd ar drais, a pheidio o'r ysbeilio, a darfod o'r mathrwyr o'r tir,
5 yna sefydlir gorsedd trwy deyrngarwch, ac arni fe eistedd un ffyddlon ym mhabell Dafydd, barnwr yn ceisio barn deg ac yn barod i fod yn gyfiawn.
6 Clywsom am falchder Moab � mor falch ydoedd � ac am ei thraha, ei malais a'i haerllugrwydd, heb sail i'w hymffrost.
7 Am hynny fe uda Moab; uded Moab i gyd. Fe riddfana mewn dryswch llwyr am deisennau grawnwin Cir�hareseth.
8 Oherwydd pallodd erwau Hesbon a gwinwydd Sibma; drylliodd arglwyddi'r cenhedloedd ei grawnwin cochion; buont yn cyrraedd hyd at Jaser, ac yn ymestyn trwy'r anialwch. Yr oedd ei blagur yn gwthio allan, ac yn cyrraedd ar draws y m�r.
9 Am hynny wylaf dros winwydd Sibma fel yr wylais dros Jaser; dyfrhaf di �'m dagrau, Hesbon ac Eleale; canys ar dy ffrwythau haf ac ar dy gynhaeaf daeth gwaedd.
10 Ysgubwyd ymaith y llawenydd a'r gorfoledd o'r dolydd; mwyach ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd, ni sathra'r sathrwr win yn y cafnau, a rhoddais daw ar weiddi'r cynaeafwyr.
11 Am hynny fe alara f'ymysgaroedd fel tannau telyn dros Moab, a'm hymysgaroedd dros Cir-hareseth.
12 Pan ddaw Moab i addoli, ni wna ond ei flino'i hun yn yr uchelfa; pan ddaw i'r cysegr i wedd�o, ni thycia ddim.
13 Dyna'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moab gynt.
14 Yn awr fe ddywed yr ARGLWYDD, "Ymhen tair blynedd, yn �l tymor gwas cyflog, bydd gogoniant Moab yn ddirmyg er cymaint ei rhifedi; bydd y rhai sy'n weddill yn ychydig ac yn ddibwys."