Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

2

1 Y gair a welodd Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem:
2 Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tu375?'r ARGLWYDD wedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd ac yn uwch na'r bryniau. Dylifa'r holl genhedloedd ato,
3 a daw pobloedd lawer, a dweud, "Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i deml Duw Jacob; bydd yn dysgu i ni ei ffyrdd, a byddwn ninnau'n rhodio yn ei lwybrau." Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
4 Barna ef rhwng cenhedloedd, a thorri'r ddadl i bobloedd lawer; curant eu cleddyfau'n geibiau, a'u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
5 Tu375? Jacob, dewch, rhodiwn yng ngoleuni'r ARGLWYDD.
6 Gwrthodaist du375? Jacob, dy bobl, oherwydd y maent yn llawn dewiniaid o'r dwyrain, a swynwyr fel y Philistiaid, ac y maent yn gwneud cyfeillion o estroniaid.
7 Y mae eu gwlad yn llawn o arian ac aur, ac nid oes terfyn ar eu trysorau; y mae eu gwlad yn llawn o feirch, ac nid oes terfyn ar eu cerbydau;
8 y mae eu gwlad yn llawn o eilunod; ymgrymant i waith eu dwylo, i'r hyn a wnaeth eu bysedd.
9 Am hynny y gostyngir y ddynoliaeth, ac y syrth pob un � paid � maddau iddynt.
10 Ewch i'r graig, ymguddiwch yn y llwch rhag ofn yr ARGWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef.
11 Fe syrth uchel drem y ddynoliaeth, a gostyngir balchder pob un; yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
12 Canys y mae gan ARGLWYDD y Lluoedd ddydd yn erbyn pob un balch ac uchel, yn erbyn pob un dyrchafedig ac uchel,
13 yn erbyn holl gedrwydd Lebanon, sy'n uchel a dyrchafedig; yn erbyn holl dderi Basan,
14 yn erbyn yr holl fynyddoedd uchel ac yn erbyn pob bryn dyrchafedig;
15 yn erbyn pob tu373?r uchel ac yn erbyn pob magwyr gadarn;
16 yn erbyn holl longau Tarsis ac yn erbyn yr holl gychod pleser.
17 Yna fe ddarostyngir uchel drem y ddynoliaeth, ac fe syrth balchder y natur ddynol. Yr ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.
18 �'r eilunod heibio i gyd.
19 � pawb i holltau yn y creigiau ac i dyllau yn y ddaear, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef, pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.
20 Yn y dydd hwnnw bydd pobl yn taflu eu heilunod arian a'r eilunod aur a wnaethant i'w haddoli, yn eu taflu i'r tyrchod daear a'r ystlumod;
21 ac yn mynd i ogofeydd yn y creigiau ac i holltau yn y clogwyni, rhag ofn yr ARGLWYDD, a rhag ysblander ei fawrhydi ef, pan gyfyd i ysgwyd y ddaear.
22 Peidiwch � gwneud dim � meidrolyn sydd ag anadl yn ei ffroenau, canys pa werth sydd iddo?