Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

35

1 Llawenyched yr anial a'r sychdir, gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo.
2 Blodeued fel maes o saffrwn, a gorfoleddu � llawenydd a ch�n. Rhodder gogoniant Lebanon iddo, mawrhydi Carmel a Saron; c�nt weld gogoniant yr ARGLWYDD, a mawrhydi ein Duw ni.
3 Cadarnhewch y dwylo llesg, cryfhewch y gliniau gwan;
4 dywedwch wrth y pryderus, "Ymgryfhewch, nac ofnwch. wele, fe ddisgyn ar Edom, ar y bobl a ddedfryda i farn.
5 Yna fe agorir llygaid y deillion a chlustiau'r byddariaid;
6 fe lama'r cloff fel hydd, fe g�n tafod y mudan; tyr dyfroedd allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch;
7 bydd y crastir yn llyn, a'r tir sych yn ffynhonnau byw; yn y tir garw, lle cyrcha'r siacal, bydd gweirglodd o gorsennau a brwyn.
8 Yno bydd priffordd a ffordd, a gelwir hi yn ffordd sanctaidd; ni bydd yr halogedig yn mynd ar hyd�ddi; bydd yn ffordd i'r pererin, ac nid i'r cyfeiliorn, i grwydro ar hyd-ddi.
9 Ni ddaw llew yno, ni ddring bwystfil rheibus iddi � ni cheir y rheini yno. Ond y rhai a ryddhawyd fydd yn rhodio arni,
10 a gwaredigion yr ARGLWYDD fydd yn dychwelyd. D�nt i Seion dan ganu, bob un gyda llawenydd tragwyddol; hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.