Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

38

1 Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Trefna dy du375?, oherwydd 'Rwyt ar fin marw; ni fyddi fyw.'"
2 Troes Heseceia ei wyneb at y pared a gwedd�o ar yr ARGLWYDD,
3 a dweud, "O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di � chywirdeb a chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg." Ac fe wylodd Heseceia'n chwerw.
4 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Eseia a dweud,
5 "Dos, dywed wrth Heseceia, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; yn awr 'rwyf am ychwanegu pymtheng mlynedd at dy ddyddiau.
6 A gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon.
7 Dyma arwydd i ti oddi wrth yr ARGLWYDD, y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr hyn a ddywedodd.
8 Edrych, yr wyf yn peri i'r cysgod deflir ar risiau Ahas gan yr haul fynd yn ei �l ddeg o risiau.'" Ac aeth yr haul yn ei �l ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi mynd i lawr drostynt.
9 Cerdd Heseceia brenin Jwda, pan fu'n glaf ac yna gwella o'i glefyd:
10 Dywedais, "Yn anterth fy nyddiau rhaid i mi fynd, a chael fy symud i byrth y bedd weddill fy mlynyddoedd";
11 dywedais, "Ni chaf weld yr ARGLWYDD yn nhir y rhai byw, ac ni chaf edrych eto ar neb o drigolion y byd.
12 Dygwyd fy nhrigfan oddi arnaf a'i symud i ffwrdd fel pabell bugail; fel gwehydd 'rwy'n dirwyn fy nyddiau i ben, i'w torri ymaith o'r gwu375?dd. O fore hyd nos 'Rwyt yn fy narostwng.
13 O fel 'rwy'n dyheu am y bore! Maluriwyd fy esgyrn fel gan lew; o fore hyd nos 'Rwyt yn fy narostwng.
14 'Rwy'n trydar fel gwennol neu fronfraith, 'rwy'n cwynfan fel colomen. Blinodd fy llygaid ar edrych i fyny; O ARGLWYDD, pledia ar fy rhan a bydd yn feichiau drosof."
15 Beth allaf fi ei ddweud? Llefarodd ef wrthyf ac fe'i gwnaeth. Ciliodd fy nghwsg i gyd, am ei bod mor chwerw arnaf.
16 ARGLWYDD, trwy'r pethau hyn y bydd rhywun fyw, ac yn yr holl bethau hyn y mae hoen fy ysbryd. Adfer fi, gwna i mi fyw.
17 Wele, er lles y bu'r holl chwerwder hwn i mi; yn dy gariad dygaist fi o bwll distryw, a thaflu fy holl bechodau y tu �l i'th gefn.
18 Canys ni fydd y bedd yn diolch i ti, nac angau yn dy glodfori; ni all y rhai sydd wedi disgyn i'r pwll obeithio am dy ffyddlondeb.
19 Ond y byw, y byw yn unig fydd yn diolch i ti, fel y gwnaf finnau heddiw; gwna tad i'w blant wybod am dy ffyddlondeb.
20 Yr ARGLWYDD a'm gwared i; am hynny canwn �'n hofferynnau llinynnol holl ddyddiau ein bywyd yn nhu375?'r ARGLWYDD.
21 Yr oedd Eseia wedi dweud, "Gadewch iddynt gymryd swp o ffigys, a'i osod ar y cornwyd, ac fe fydd byw."
22 A dywedodd Heseceia, "Beth yw'r prawf y caf fynd i fyny i du375?'r ARGLWYDD?"