1 "Yn awr, gwrando, fy ngwas Jacob, Israel, yr hwn a ddewisais;
2 dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th wnaeth, a'th luniodd o'r groth ac a'th gynorthwya: Paid ag ofni, fy ngwas Jacob, Jesurun, yr hwn a ddewisais.
3 Tywalltaf ddyfroedd ar y tir sychedig a ffrydiau ar y sychdir; tywalltaf fy ysbryd ar dy had a'm bendith ar dy hiliogaeth.
4 Tarddant allan fel glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.
5 Dywed un, ''Rwyf fi'n perthyn i'r ARGLWYDD'; bydd un arall yn cymryd enw Jacob, ac un arall drachefn yn ei arwyddo'i hun, 'Eiddo'r ARGLWYDD', ac yn ei gyfenwi ei hun, 'Israel'."
6 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, brenin Israel, ARGLWYDD y Lluoedd, ei waredydd: "Myfi yw'r cyntaf, a myfi yw'r olaf; nid oes duw ond myfi.
7 Pwy sy'n debyg i mi? Bydded iddo ddatgan, a mynegi a gosod ei achos ger fy mron. Pwy a gyhoeddodd erstalwm y pethau sydd i ddod? Dyweded wrthym beth sydd i ddigwydd.
8 Peidiwch ag ofni na dychryn; oni ddywedais wrthych erstalwm? Fe fynegais, a chwi yw fy nhystion. A oes duw ond myfi? Nid oes craig. Ni wn i am un."
9 Y mae pawb sy'n gwneud eilunod yn ddiddim, ac nid oes lles yng ngwrthrych eu serch; y mae eu tystion heb weld a heb wybod, ac o'r herwydd fe'u cywilyddir.
10 Pwy sy'n gwneud duw neu'n cerfio delw os nad yw'n elw iddo?
11 Gwelwch, cywilyddir pawb sy'n gweithio arno, ac nid yw'r crefftwyr yn ddim ond pobl. Pan gasglant ynghyd a dod at ei gilydd, daw ofn a chywilydd arnynt i gyd.
12 Y mae'r gof yn hogi cu375?n ac yn gweithio'r haearn yn y t�n; y mae'n ei ffurfio � morthwylion, ac yn gweithio arno � nerth ei fraich. Yna bydd arno angen bwyd, a'i nerth yn pallu, ac eisiau diod arno, ac yntau'n diffygio.
13 Y mae'r saer coed yn estyn llinyn, ac yn marcio � phensil; yna y mae'n llyfnhau'r pren �'r plaen, ac yn ei fesur � chwmpas, ac yn ei gerfio ar ffurf meidrolyn, mor lluniaidd � ffurf ddynol � i fyw mewn tu375?.
14 Y mae rhywun yn torri iddo'i hun gedrwydden, neu'n dewis cypreswydden neu dderwen wedi tyfu'n gryf yng nghanol y goedwig � cedrwydden wedi ei phlannu, a'r glaw wedi ei chryfhau.
15 Bydd peth ohoni'n danwydd i rywun i ymdwymo wrtho; bydd hefyd yn cynnau t�n i grasu bara; a hefyd yn gwneud duw i'w addoli; fe'i gwna'n ddelw gerfiedig ac ymgrymu iddi.
16 Ie, y mae'n llosgi'r hanner yn d�n, ac yn rhostio cig arno, ac yn bwyta'i wala; y mae hefyd yn ymdwymo a dweud, "Y mae blas ar d�n; peth braf yw gweld y fflam."
17 o'r gweddill y mae'n gwneud delw i fod yn dduw, ac yn ymgrymu iddo a'i addoli; y mae'n gwedd�o arno a dweud, "Gwared fi; fy nuw ydwyt."
18 Nid yw'r bobl yn gwybod nac yn deall; aeth eu llygaid yn ddall rhag gweld, a'u deall rhag amgyffred.
19 Nid yw neb wedi troi'r peth yn ei feddwl, nac yn gwybod nac yn deall, i ddweud, "Llosgais hanner yn d�n, a chrasu bara yn y marwor; rhostiais gig a'i fwyta; ac o'r gweddill 'rwy'n gwneud ffieiddbeth, ac yn ymgrymu i ddarn o bren."
20 Yn wir y mae'n ymborthi ar ludw, a'i feddwl crwydredig wedi ei yrru ar gyfeiliorn; ni all ei waredu ei hun a dweud, "Onid twyll yw'r hyn sydd yn fy llaw?"
21 "Ystyria hyn, Jacob, oherwydd fy ngwas wyt ti, Israel. Lluniais di, gwas i mi wyt ti; O Israel, paid �'m hanghofio.
22 Dileais dy gamweddau fel cwmwl, a'th bechodau fel niwl; dychwel ataf, canys yr wyf wedi dy waredu."
23 Canwch, nefoedd, oherwydd yr ARGLWYDD a wnaeth hyn; gwaeddwch, ddyfnderoedd daear; bloeddiwch, O fynyddoedd, a'r goedwig a phob coeden o'i mewn; y mae'r ARGLWYDD wedi gwaredu Jacob, a chael gogoniant yn Israel.
24 Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, dy waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r groth: "Myfi, yr ARGLWYDD, a wnaeth y cyfan � estyn y nefoedd fy hunan, a lledu'r ddaear heb neb gyda mi;
25 diddymu arwyddion celwyddog, gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n dewino; troi doethion yn eu h�l, a gwneud eu gwybodaeth yn ynfydrwydd;
26 cadarnhau gair ei was, a chyflawni cyngor ei genhadon; dweud wrth Jerwsalem, 'Fe'th breswylir', ac wrth ddinasoedd Jwda, 'Fe'ch adeiledir cyfodaf drachefn eich adfeilion';
27 dweud wrth y dyfnder, 'Bydd sych, 'rwy'n sychu hefyd d'afonydd';
28 dweud wrth Cyrus, 'Fy Mugail', ac fe gyflawna fy holl fwriad; dweud wrth Jerwsalem, 'Fe'th adeiledir', ac wrth y deml, 'Fe'th sylfaenir'."