Welsh

Breton: Gospels

Isaiah

47

1 "Disgyn, ac eistedd yn y lludw, ti, ferch wyry Babilon. Eistedd ar y llawr yn ddiorsedd, ti, ferch y Caldeaid; ni'th elwir byth eto yn dyner a moethus.
2 Cymer y meini melin i falu blawd, tyn dy orchudd, rhwyga dy sgert, dangos dy gluniau, rhodia trwy ddyfroedd.
3 Dangoser dy noethni, a gweler dy warth. Dygaf ddial, ac nid arbedaf neb."
4 Ein gwaredydd yw Sanct Israel; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
5 "Eistedd yn fud, dos i'r tywyllwch, ti, ferch y Caldeaid; ni'th elwir byth eto yn arglwyddes y teyrnasoedd.
6 Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, rhoddais hwy yn dy law; ond ni chymeraist drugaredd arnynt, gwnaethost yr iau yn drwm ar yr oedrannus.
7 Dywedaist, 'Byddaf yn arglwyddes hyd byth', ond nid oeddit yn ystyried hyn, nac yn cofio sut y gallai ddiweddu.
8 Yn awr, ynteu, gwrando ar hyn, y foethus, sy'n eistedd mor gyfforddus, sy'n dweud wrthi ei hun, 'Myfi, 'does neb ond myfi. Ni fyddaf fi'n eistedd yn weddw, nac yn gwybod beth yw colli plant.'
9 Fe ddaw'r ddau beth hyn arnat ar unwaith, yr un diwrnod � colli plant a gweddwdod, a'r ddau'n dod arnat yn llawn, er bod dy hudoliaeth yn aml a'th swynion yn nerthol.
10 "Pan oeddit yn ymddiried yn dy ddrygioni, dywedaist, ''Does neb yn fy ngweld.' 'Roedd dy ddoethineb a'th wybodaeth yn dy gamarwain, a dywedaist, 'Myfi, 'does neb ond myfi.'
11 Ond fe ddaw arnat ti ddinistr na wyddost sut i'w swyno; fe ddisgyn arnat ddistryw na elli mo'i ochelyd. Daw trychineb arnat yn sydyn, heb yn wybod iti.
12 "Glu375?n wrth dy swynion a'th hudoliaethau aml y buost yn ymflino � hwy o'th ieuenctid � efallai y cei help ganddynt; efallai y medri godi arswyd drwyddynt.
13 'Rwyt wedi dy lethu gan nifer dy gynghorwyr; bydded iddynt sefyll yn awr a'th achub � dewiniaid y nefoedd a gwylwyr y s�r, sy'n proffwydo bob mis yr hyn a ddigwydd iti.
14 Edrych, y maent fel us, a'r t�n yn eu hysu; ni fedrant eu harbed eu hunain rhag y fflam. Nid glo i dwymo wrtho yw hwn, nid t�n i eistedd o'i flaen.
15 Fel hyn y bydd y rhai y buost yn ymflino � hwy ac yn ymh�l � hwy o'th ieuenctid; tr�nt ymaith bob un i'w ffordd ei hun, heb allu dy waredu."